16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Os ydych am ddechrau ar eich gyrfa neu roi hwb i’ch gyrfa bresennol, byddai Prentisiaeth yn le gwych i ddechrau.

Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu’n seiliedig ar waith sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac ennill cymhwyster lefel 2-5 sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, tra’n ennill cyflog – gan ei wneud yn ddewis gyrfa gwych i unrhyw berson ifanc.

  • I ennill cyflog
  • Cael gwyliau â thâl
  • Derbyn hyfforddiant
  • Cael cefnogaeth un-i-un gan ein Haseswyr arbenigol
  • Ennill cymwysterau
  • Dysgu sgiliau penodol i’r swydd
  • Ennill sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau
  • Llwybrau dilyniant ardderchog

Ein Prentisiaethau

Heblaw am y ffaith mai ni yw prif ddarparwr hyfforddiant Cymru ac yn cynnig yr ystod ehangaf o gymwysterau dysgu seiliedig ar waith, y prif reswm pam mae pobl yn dewis ACT yw oherwydd ein bod ni’n wych yn yr hyn a wnawn. Wedi’n sefydlu ym 1988, mae gennym ni lwyth o brofiad o ddarparu hyfforddiant i ystod o wahanol bobl o bob cefndir.

Fel rhan o’n Prentisiaethau, rydym yn falch o gynnig Gwarant y Person Ifanc. Ymrwymiad y byddai pawb o dan 25 oed yn cael cynnig cefnogaeth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig. Dysgwch fwy yma.

Mae ACT wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn gwasanaethau cyson o safon uchel ar draws y bwrdd, drwy gydol eu taith ddysgu. Peidiwch â chymryd ein gair ni amdano yn unig, edrychwch ar ganlyniadau ein Harolwg Llais Learney diweddaraf…

Dywedodd

98
y cant o'n dysgwyr fod eu cymhwyster yn berthnasol i'w rôl swydd, neu rôl swydd yn y dyfodol

Dywedodd

96
o'n dysgwyr wedi rhoi sgôr gadarnhaol i ni

Dywedodd

100
o'n dysgwyr yn teimlo'n ddiogel yn dysgu yn ACT

Eisiau dod yn Brentis?

Yn ACT rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd Prentisiaeth gorau i chi yng Nghymru. Rydym yn cynnig ystod eang o Brentisiaethau o ansawdd uchel gyda chyflogwyr blaenllaw sy’n aros i gwrdd ag ymgeiswyr ifanc angerddol fel chi.

Cymerwch olwg ar ein Cyfleoedd Prentisiaeth cyfredol

Oes gennych chi swydd yn barod?

Newyddion gwych, gallwn weithio gyda chi a’ch cyflogwr i ddarparu Prentisiaeth sy’n berthnasol i’ch swydd a’ch lefel.

Cymerwch olwg ar ein hamrywiaeth o gymwysterau

Diddordeb? Cysylltwch gyda ni!

Os ydych chi’n barod i wneud cais neu eisiau canfod rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni Prentisiaethau, cysylltwch gyda’r tîm heddiw.

Rwy'n gynorthwyydd dysgu gwell nag oeddwn i o'r blaen. Rydw i'n fwy cadarn a hyderus yn beth rydw i'n ei wneud. Dydw i ddim yn teimlo'n ddiamod rhagor.
Karen De Freitas, dysgwr Lefel 3 Cefnogi Dysgu ac Addysgu.
Rwy'n gynorthwyydd dysgu gwell nag oeddwn i o'r blaen. Rydw i'n fwy cadarn a hyderus yn beth rydw i'n ei wneud. Dydw i ddim yn teimlo'n ddiamod rhagor.
Karen De Freitas, dysgwr Lefel 3 Cefnogi Dysgu ac Addysgu.

Straeon Llwyddiant

Angelina Mitchell

Angelina’n awyddus i helpu eraill i ddeall y dechnoleg ddigidol Read More
A male Health & Social Care learner pictured in a blue uniform outside his place of work

Callum Fennell

“Dw i wir wedi datblygu fel person ers dechrau fy nghymhwyster” Read More
Sarah Bruton and learner Scarlett behind the reception counter at Captiva Spa
Gwallt a Gwaith Barbwr

Captiva Spa

Mae Captiva Spa o Gaerffili yn un o nifer o fusnesau yng Nghymru sy’n gweld manteision cydweithio proffesiynol ar ôl cynnig lleoliadau gwaith i ddysgwyr. Trwy eu partneriaeth â darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, ACT, mae Captiva Spa wedi agor ei ddrysau i brentisiaid ifanc rhwng 16 a 19 oed, gan… Read More