16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners

Cyhoeddwyd: Daily Post, Wales Online, South Wales Evening Post and South Wales Echo

Rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad gwerthfawr yn y gweithle a meithrin arweinwyr chwaraeon i’r dyfodol – dyna yw gobaith Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, Gary Lewis gyda chynllun prentisiaeth newydd Urdd Gobaith Cymru.

Cychwynnodd deg o bobl ifanc rhwng 17 – 24 oed ar y cynllun prentisiaeth gyda’r Urdd chwe mis yn ôl, sydd yn cael ei gynnig ar y cyd gydag ACT Training.  Mae pump ohonynt wedi eu lleoli yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn a phump gyda’r Adran Chwaraeon yn gweithio ym mhob cwr o Gymru gan gynnwys Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Yn ystod eu cyfnod prentisiaeth 12 mis, byddant yn ennill NVQ Lefel 1 mewn Arwain Gweithgaredd, cymwysterau gan Gyrff Llywodraethu yn ogystal â phrofiad gwaith gwerthfawr fydd o fudd i’w gyrfa yn y dyfodol.

Mae Erddyn Williams, sydd yn 19 oed ac yn dod o Ddyffryn Ardudwy, yn brentis yn swyddfa’r Urdd ym Mangor.  Meddai, “Mi wnes i orffen yng Ngholeg Meirion Dwyfor llynedd, ac a bod yn onest doeddwn i ddim yn hapus gyda fy ngraddau.  Doeddwn i ddim wedi gwirfoddoli mewn unrhyw glybiau ar ôl ysgol, felly roedd hwn yn gyfle gwych i mi gael y profiad angenrheidiol i ennill lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd y flwyddyn nesaf.

“Ac mae’r chwe mis cyntaf wedi bod yn wych – yn yr wythnos gyntaf roeddwn wedi ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf a Gwobr Arweinydd Athletau.  Ers hynny rwyf wedi ennill nifer o gymwysterau ac wedi cael profiadau gwerth chweil – megis cynnal cyfarfodydd gyda sefydliadau allanol, gwneud cyflwyniadau ac addasu cynlluniau gwers ar gyfer grwpiau oed gwahanol.  Ers i mi gychwyn gyda’r Urdd ym mis Medi, rwyf wedi dysgu dros 700 o blant mewn amryw o glybiau gan gynnwys rygbi ym Mermo a thennis bwrdd ym Mhorthaethwy.  Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i mi, felly rwyf yn falch iawn mod i wedi cymryd blwyddyn allan cyn mynd i’r Brifysgol.â€

Gyda tua 80 clwb newydd yn cael eu sefydlu gan yr Adran Chwaraeon bob blwyddyn, mae’r prentisiaid wedi chwarae rhan bwysig yn galluogi hyn i ddigwydd.  Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, “Beth ydym ni angen yw gweithlu ar lawr gwlad.  Mi allwn ni roi’r hyfforddiant cywir i’r bobl ifanc yma sefydlu clybiau cymunedol newydd – sydd wedyn wrth reswm yn golygu y gall mwy o’n aelodau fwynhau gweithgareddau ar ôl ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r prentisiaid yn wych – maent mor frwdfrydig ac yn gwneud cymaint o wahaniaeth o ran yr hyn allwn ni gynnig yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.  Ein gobaith wedyn yw fod y clybiau maent yn sefydlu yn ystod eu blwyddyn gyda ni yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lleol, sydd hefyd yn derbyn hyfforddiant gennym.  Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda ACT Training ar y cynllun hwn sydd o fudd mawr i’r Urdd a’r bobl ifanc.â€

Bydd cynllun prentisiaid yr Urdd ac ACT Training yn cael ei lansio’n swyddogol yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd dydd Mawrth, 3 Mawrth yng nghwmni’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Hyfforddiant, Julie James AC.  Dywedodd, “Mae gan y diwydiant chwaraeon a hamdden swyddogaeth bwysig yn cadw pobl Cymru yn heini a iach.  Rwy’n falch iawn fod pobl ifanc yn cael cynnig cynlluniau prentisiaeth i gychwyn gyrfa yn y sector hon.  Mae’r ffaith fod y cynllun hwn yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn ychwanegu at ei werth.

“Mi all y gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg roi mantais bwysig i rhywun os ydynt yn chwilio am swydd neu os ydynt eisiau datblygu eu gyrfa ac mae busnesau sydd yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid yn cael eu gwerthfawrogi mwy gan eu cwsmeriaid.â€Â 

Ychwanegodd Caroline Cooksley, Cyfarwyddwr Datblygu ACT Training, “Mae’n amlwg fod y prentisiaid wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol yn ein cymunedau yn barod ac mae ACT yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Urdd gan gynnig y cyfle i’n pobl ifanc fod yn unigolion medrus, cymwys a chyflogadwy tra ar yr un pryd yn cefnogi’r Gymraeg.†   

Rhannwch