16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners

Roedd merch ifanc benderfynol sydd wedi dod dros sawl ergyd ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o feithrinfa St Aubin yn y Bont-faen yn dathlu llwyddiant yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Enwyd Emily Wintle, 18 oed, o Lanharri, yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd nos Wener.

“Mae’r wobr hon yn golygu popeth i mi,” meddai. “Digwyddodd llawer o bethau i mi pan oeddwn yn yr ysgol, yn cynnwys colli fy ffrind gorau a bu hynny’n ergyd fawr i fy hyder.

Mae hyn yn profi y gallwch gyflawni’ch uchelgais os byddwch wir yn benderfynol.

“Hoffwn i ddiolch i feithrinfa St Aubin am roi’r cyfle i mi ennill y wobr hon. Allwn i ddim gofyn am well cyflogwr ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y dyfodol.”

Llongyfarchwyd Emily ar ei llwyddiant gan noddwr y wobr, Caroline Cooksley, cyfarwyddwr datblygu gydag ACT Limited. “Mae Emily wedi cychwyn ei thaith ddysgu ar sail gadarn iawn a hithau mor ifanc. Rwy’n edrych ymlaen at weld ei gyrfa’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Diolch i waith caled Emily a chefnogaeth ACT Training, Pen-y-bont, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn dim ond tri mis, gyda’r hyfforddwr a’i chyflogwr yn deall ei thrafferthion.

Mae dyslecsia difrifol ar Emily ac roedd angen llawer o gymorth ychwanegol arni i ddysgu sgiliau newydd yn yr ysgol. Bu’n destun datganiad trwy gydol ei hamser yn yr ysgol, lle roedd pobl yn edrych i lawr arni am fod ganddi anawsterau dysgu. Roedd yn teimlo’n ynysig ac fe effeithiodd hynny ar ei hunan-fri a’i hyder.

Er iddi weithio’n galed iawn, roedd yn ymdrech fawr i Emily gael y pedair TGAU yr oedd arni eu hangen i ddilyn cwrs coleg ar gyfer gyrfa’i breuddwydion, theatr gerddorol. Ar ôl wynebu sawl ergyd gan nad oedd cyflogwyr yn deall ei hanghenion, llwyddodd Emily i gael lleoliad wrth ei bodd ym maes gofal plant. 

Mae’n gweithio llawn amser ac yn dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant, gan obeithio gwneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf.

Meddai Emily: “Mae gwaith caled a bod yn benderfynol wedi talu’r ffordd i mi. Rwy’n fwy penderfynol nag erioed o gyrraedd fy nod o fod yn nyrs feithrin.”

 Wrth longyfarch Emily am ennill y wobr, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae pob un a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi helpu i bennu safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol a dylid cymeradwyo hyn.

“Mae prentisiaethau a hyfforddeiaethau yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cyfartal. Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, o’r farn bod prentisiaethau a hyfforddeiaethau’n ffordd ardderchog o adeiladu gweithlu medrus a chystadleuol, mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chryfhau economi Cymru.

“Ni fu erioed yn bwysicach i ni gynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau y bydd Cymru gyfan yn elwa ohonynt ac rydym yn ymroi i barhau â’r gwaith da sydd eisoes ar y gweill gyda busnesau, darparwyr hyfforddiant ac unigolion i gyflawni hyn.”

Rhannwch