16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Learners

Mae gweithiwr iechyd a chymorth cymdeithasol 24 oed yn annog disgyblion yn ei hen ysgol uwchradd i ystyried prentisiaethau fel llwybr i’r yrfa o’u dewis.

Mynychodd Megan Hession, o Gaerdydd, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn y brifddinas cyn mynd i’r brifysgol yn Coventry i astudio busnes a rheoli digwyddiadau. Ar ôl graddio yn 2014, symudodd yn ôl i Gaerdydd gyda’r bwriad o ddilyn gyrfa ym maes digwyddiadau corfforaethol.

Wrth chwilio am swydd ar ôl graddio aeth i i weithio’n rhan-amser gyda’r darparwr iechyd a gofal cymdeithasol Montana Healthcare. Ond wrth weithio yno clywodd am ei raglen prentisiaeth a phenderfynodd Megan ddilyn gyrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Megan bellach wedi dringo’r ysgol i lefel rheolwraig, diolch i’r cynllun prentisiaeth, ac yn gobeithio y bydd ei stori yn dangos i ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd y gall prentisiaeth fod yn allwedd i yrfa lwyddiannus.

Meddai: “Gorffennais fy mhrentisiaeth lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2015, fy lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mai 2017 a fy ymarfer uwch ym mis Medi 2017. Rydw i bellach yn gobeithio mynd ymlaen i Ddiploma Lefel 7 mewn Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dechreuais fel gweithiwr cymorth yn Montana Healthcare, ond rydw i wedi fy nyrchafu dair gwaith yno ac rydw i bellach yn rheolwr tîm, yn rheoli dros 20 aelod o staff.

“Rydw i’n gyfrifol am ddau eiddo lle mae pobl yn byw â chymorth – un ym Margoed, yng Nghwm Rhymni , ac un yng Nghaerffili. Mae pump yn byw yn un eiddo a thri yn y llall. Mae’r eiddo byw â chymorth yn gartref i bobl sydd ag anghenion amrywiol. Felly, rydym ni’n cefnogi pobl sy’n byw gydag anafiadau i’r ymennydd, anableddau dysgu, anafiadau corfforol, awtistiaeth, pobl sydd wedi cael strôc neu drawiad ar y galon, er enghraifft. Mae Montana Healthcare hefyd yn cynnig gofal i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain hefyd.

“Mae rhai’n meddwl bod iechyd a gofal cymdeithasol a byw â chymorth yn ddim mwy na gofal personol. Ond mae’n llawer mwy na hynny. Ein nod yw grymuso’r unigolyn a hyrwyddo ei les a’i gefnogi i wneud pethau dros ei hun. Os na all goginio swper i’w hun, er enghraifft, byddem yn gofyn iddo neu iddi gwblhau tasg fach fel plicio tatws er mwyn teimlo’n rhan bwysig o’r broses.

“Rydw i’n rheoli’r ddau safle a’r timau sy’n darparu’r cymorth. Datblygais o fod yn weithiwr cymorth i fod yn rheolwr, felly rydw i wedi gwneud y gwaith y mae’r staff rydw i’n eu rheoli yn ei wneud nawr. Gall fod yn waith caled ond mae’r swydd yn un gwerth chweil. Weithiau byddwch chi’n mynd adref ac yn meddwl ‘Rydw i wedi newid bywyd rhywun heddiw’, ac mae hynny wrth wneud y pethau bychain sy’n cael eu cymryd yn ganiataol yn unig.”

Yn ôl Megan, mae’n swydd sy’n rhoi boddhad mawr ac mae gallu helpu pobl i wneud y pethau bychain sy’n cael eu cymryd yn ganiataol yn hwb enfawr iddi ac yn ei gyrru ymlaen.

“Mae tri rheolwr arall dros eu tridegau, felly fi yw’r rheolwr ieuengaf yma. Mae gennym ni nifer o bobl iau yn gweithio yma ac maen nhw’n bositif iawn am eu gwaith, ac mae’n hyfryd gweld hynny. Ac i bobl ifanc sy’n dod i’r swydd, mae’n dda iddyn nhw weld pobl ifanc eraill mewn swyddi rheoli a gweld bod hynny o fewn eu gallu.

“Rydw i’n credu bod yr ymweliadau ysgol hyn gan brentisiaid yn syniad da gan eu bod yn helpu disgyblion yn eu harddegau i sylweddoli bod prentisiaethau’n llawer mwy na gweithio fel adeiladwr, trydanwr ac ati. Siaradais â mab fy ffrind sydd ym mlwyddyn naw, ac roedd e’n awyddus i roi cynnig arni yn y dyfodol. Doedd e ddim yn ymwybodol o brentisiaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael mewn cymaint o  ddiwydiannau, felly roedd hi’n braf gallu trafod hyn gydag e.”

Meddai Karen Rowley, rheolwr adnoddau dynol a hyfforddiant yn Montana Healthcare: “Dechreuodd Megan gyda ni fel gwirfoddolwraig yn 16 oed ac mae bellach yn rheoli ei thîm ei hun. Rydym ni mor falch o’i chynnydd ac mae’n cymryd yr amser i ysbrydoli eraill i ystyried llwybr prentisiaeth.

“Mae gennym ni tua 10 prentis ar y tro. I ni mae’n ddewis busnes call ac yn sicrhau bod gennym ni’r sgiliau pwrpasol, diweddaraf sydd eu hangen ar gyfer ein busnes.”

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae Megan yn enghraifft berffaith o sut gall prentisiaethau drawsnewid bywydau, gan helpu pobl i yrfaoedd. Mae prentisiaethau yn amlygu pwysigrwydd ennill profiad ymarferol, yn y swydd sy’n rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar bobl i greu gyrfa gwerth chweil.

“Mae gan brentisiaethau gyfraniad pwysig i’w wneud at gynyddu set sgiliau cyffredinol Cymru a sbarduno twf economaidd, gan sicrhau bod y genedl yn parhau yn gystadleuol ar lwyfan byd. Mae prentisiaethau’n fuddsoddiad sy’n talu ar ei ganfed i gyflogwyr sy’n gallu hyfforddi eu gweithlu yn y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gynnal a thyfu eu busnesau.

“Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn ddathliad pwysig o’r cyfleoedd gwych mae prentisiaethau’n eu cynnig i fusnesau ac i unigolion ledled Cymru. “I unigolion, gall prentisiaethau fod yn llwybr i yrfa gyffrous sy’n rhoi boddhad. Drwy brentisiaethau mae cwmnïau’n helpu i gadw sgiliau hanfodol a diwydiannau’n fyw ac yn sbarduno twf economaidd yng Nghymru.

“Er ein bod ni’n dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau bob gwanwyn, mae Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru ar waith gydol y flwyddyn i dynnu sylw at y cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i brentisiaid a’r cyflogwyr sy’n rhoi cyfle iddynt.”

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Am ragor o wybodaeth am fiod yn brentis, ewch i www.gyrfacymru.com neu ffoniwch 0800 0284844, mewngofnodwch yn www.facebook.com/apprenticeshipscymru a Twitter @apprenticewales, a gallwch chi ddilyn y stori drwy ddefnyddio’r hashnod #AWWales.

Rhannwch