Mae merch ifanc o’r de, sydd wedi dangos nad oes raid llwyddo mewn arholiadau ysgol er mwyn serennu yn eich gyrfa, wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys.
Stella Vasiliou, 19 oed, o’r Barri, a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Meddai: “Rwy wedi cyflawni rhywubeth a fydd yn fy helpu i gyrraedd fy nod mewn bywyd. Bydd hyn gennyf am byth ac mae’n gydnabyddiaeth o’r holl waith rwy wedi’i wneud.”
Dywedodd Richard Spear, rheolwr gyfarwyddwr ACT Training, noddwyr y ddwy wobr Hyfforddeiaethau: “Rydyn ni’n falch o gael bod yn gysylltiedig â’r gwobrau hyn sy’n cydnabod pobl ifanc ysbrydoledig sydd â photensial enfawr ar ddechrau eu gyrfaoedd.”
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Stella Vasiliou yn saernïo gyrfa addawol fel saer gyda Chyngor Bro Morgannwg ar ôl rhoi cynnig ar lwybrau dysgu eraill.
Pan adawodd yr ysgol â chymwysterau mewn Coginio a Chelf 3D, cafodd ei hannog i astudio celf a dylunio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ond, ar ôl blwyddyn, penderfynodd nad hwnnw oedd y cwrs iddi hi.
Trwy’r darparwr hyfforddiant ACT Limited, darganfu nifer o yrfaoedd posibl nad oedd hi’n gwybod amdanynt cynt a phenderfynu mynd i faes adeiladu gan ei bod wrth ei bodd yn helpu ei thad, oedd yn drydanwr, yn ystod gwyliau’r ysgol.
Roedd Stella’n benderfynol o lwyddo mewn sector llawn dynion ac fe gwblhaodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Adeiladu mewn dim ond saith mis. Gan iddi wneud argraff mor dda ar leoliad gwaith gyda Chyngor Bro Morgannwg, cafodd gynnig Prentisiaeth mewn Gwaith Coed, wedi’i gyflenwi gan Goleg Caerdydd a’r Fro.
“Rwy wedi gweithio’n eithriadol o galed i gyrraedd y man lle rydw i,” meddai Stella. “Do, fe es i rownd y ffordd hir i gyrraedd yma ond fyddwn i ddim am newid hynny. Erbyn hyn rydw i wedi dod o hyd i rywbeth rwy’n ei fwynhau ac yn ei wneud yn dda a hoffwn i brofi i bobl eraill sy’n gadael yr ysgol nad graddau yw popeth. Gallwch chi fod yn llwyddiannus mewn ffyrdd eraill.”
Dywedodd Jayne McGill-Harris, uwch reolwr marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ACT Limited, bod Stella yn “ysbrydoliaeth” sy’n ddoeth iawn am ei hoedran.
Llongyfarchwyd Stella a phawb oedd yn y rownd derfynol a’r enillwyr yn arbennig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, am osod safon aur ar gyfer Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau. Canmolodd hi ei hymrwymiad i’r rhaglen Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yng Nghymru.
“Mae Prentisiaethau’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o Brentisiaethau pob-oed o safon uchel yn ystod tymor presennol y Cynulliad,” meddai.
“Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru, datblygu llwybrau sgiliau a chynyddu sgiliau lefel uwch er budd Cymru gyfan. Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod gan Gymru weithlu sydd gyda’r gorau yn y byd.”