16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners

Mae prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, ACT, yn falch o ddathlu eu Hyfforddwr Gwasanaethau Busnes, Louisa Mallett, gan iddi dderbyn gwobr ‘Hyfforddwr Cymwysterau Galwedigaeth y Flwyddyn 2019’.

Roedd Louisa yn un o’r gorau o’r goreuon a gafodd eu cydnabod yng Ngwobrau Cymwysterau Galwedigaethol 2019, ‘BAFTA’s’ y byd Cymwysterau Galwedigaethol. Cynhaliwyd y seremoni ar 20 Mai yn yr Amgueddfa Genedlaethol hanesyddol yng Nghaerdydd.

Bellach yn eu 12fed flwyddyn, mae gwobrau mawreddog VQ Awards yn dathlu’r rhai sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i sicrhau llwyddiant. Mae’r wobr yn symbol o ymroddiad tuag at broffesiwn penodol. Mae’r gwobrau’n helpu i ddathlu’r dysgwyr, yr hyfforddwyr a’r cyflogwyr hynny o Gymru sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw’n fater o ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

Dyma’r ail dro i Louisa, 33, gasglu gwobr am ei gwasanaethau i ddysgu seiliedig ar waith, ar ôl cael ei enwi’n ‘Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn’ yn y gorffennol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, “Rydym yn falch iawn o weld Louisa yn ennill y wobr fawreddog hon. Mae’r VQ Awards yn arddangos y gorau o’r goreuon yn y sector dysgu seiliedig ar waith ac rydym yn credu bod Louisa yn hyfforddwr anhygoel ac yn haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth hon. Mae ACT yn ymwneud â rhoi ein dysgwyr wrth galon popeth a wnawn, ac mae Louisa, fel pob un o’n staff, yn dod i’r gwaith bob dydd i wneud hynny’n union.”

Wedi gweithio i gwmni arobryn ACT ers 2012, mae Louisa yn aelod o’r tîm sy’n cael ei gwerthfawrogi a’i pharchu’n fawr. Dros y 7 mlynedd diwethaf mae hi wedi mireinio gallu anhygoel i feithrin perthynas gyda’i dysgwyr a sylwi ar unrhyw rwystrau sylfaenol y gallant fod yn eu hwynebu. Fel tiwtor ymroddedig, mae Louisa yn credu’n gryf yn lles ei dysgwyr ac mae wedi creu adnodd ar-lein iddynt allu ei ddefnyddio gan gyfeirio dysgwyr at amrywiaeth o symptomau sy’n ymwneud â straen a phryder. Mae hi hefyd yn gefnogwr brwd o groesawu newid digidol yn yr ystafell ddosbarth ac mae wedi cyflwyno Nearpods, teclyn rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth sy’n datblygu sgiliau llythrennedd yn ogystal â galluogi dysgwyr i fynd ar eu cyflymder eu hunain.

Yn siarad wedi am ei gwobr, dywedodd Louisa, “Mae’n golygu’r byd i ennill y wobr hon ac i gael fy nghydnabod am yr hyn rwyf fi’n ei wneud.  Rwy’n cael cymaint o gefnogaeth gan fy nhîm ac ACT ac felly mae’n hyfryd cael eich cydnabod gan y sector dysgu seiliedig ar waith ehangach hefyd. Rwyf wrth fy modd gyda’r hyn rwyf yn ei wneud ac yn gwerthfawrogi’r ymddiriedaeth a roddwyd ynof i wneud fy sesiynau hyfforddi mor hwyliog a chreadigol â phosibl.  Mae lles yn rhan enfawr o hyn ac rwyf yn gobeithio y gallaf barhau i helpu dysgwyr i gyflawni eu cymwysterau yn ogystal â gweithio ar eu hiechyd meddwl hefyd.”

Rhannwch