16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Learners

Nid yw cyflogi’r ymgeisydd perffaith ar gyfer eich busnes yn hawdd, ac fel rhan o’r broses recriwtio, mae cyfweliad yn rhoi cyfle gwych i chi gyfarfod eich gweithiwr posibl ac asesu eu profiad, sgiliau ac addasrwydd diwylliannol. Felly, sut ydych chi’n manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn? Parhewch i ddarllen er mwyn gweld ein awgrymiadau cyfweld ar gyfer cyflogi’r ymgeisydd perffaith ar gyfer eich busnes.

Buddsoddwch amser i baratoi

Yn gyntaf, trefnwch y cyfweliad. Dylech neilltuo amser yn eich dyddiadur i weld yr ymgeiswyr ar y rhestr fer a gwahodd rhywun o’r adran Adnoddau Dynol neu aelod arall o’ch tîm i gyfweld ochr yn ochr â chi. Mae cael rhywun arall yn yr ystafell gyda chi yn allweddol o safbwynt AD, yn ogystal â gallu cael dwy farn.

Llogwch fan tawel ar gyfer cynnal eich cyfweliadau, neu os nad oes gennych y gofod hwn, trefnwch i gyfarfod mewn caffi tawel gerllaw. Dylech sicrhau eich bod yn caniatáu amser ar gyfer seibiant rhwng pob cyfweliad er mwyn i chi gofnodi unrhyw nodiadau, trafod yr ymgeisydd gyda’ch cydweithiwr, a chael cipolwg dros gais yr ymgeisydd nesaf cyn i chi gwrdd â nhw.

Offeryn gwerthuso defnyddiol yw ‘cerdyn sgorio’. Mae creu system sgorio safonol yn ddefnyddiol os ydych chi’n cyfweld nifer o ymgeiswyr ar gyfer cymhariaeth deg. Nid oes rhaid iddo fod yn gymhleth; fe allech chi ddyrannu sgôr rhifiadol ar gyfer pob cwestiwn/maes rydych chi’n holi amdanynt, e.e. 1 = ateb gwan, 2 = ateb cryf, 3 = ateb yn gryf iawn.

Nesaf, trowch eich sylw at yr elfen y gelid dadlau sydd bwysicaf mewn cyfweliad: y cwestiynau.

Cwestiynau i’w gofyn

Amser byr yn unig sydd gennych chi i benderfynu p’un ai’r darpar weithiwr yw’r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd, felly mae’n hanfodol bwysig i ofyn y cwestiynau iawn. Nod y cyfweliad yw darganfod cymaint o wybodaeth oddi wrth eich ymgeisydd â phosibl, felly dylech sicrhau bod eich holl gwestiynau yn agored ac yn gofyn am fwy na ie syml neu dim ateb. Er enghraifft, gofynnwch ‘pam ydych chi eisiau’r swydd hon?’ yn hytrach na ‘ydych chi eisiau’r swydd hon?’

Yn gyntaf, gofynnwch i’ch adran adnoddau dynol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau safonol i’w gofyn. Er enghraifft:

  • Beth ydych chi’n ei wybod am y cwmni?
  • Beth ddenodd chi at y swydd hon?
  • Pam mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon?

Nesaf, cyfeiriwch at yr hysbyseb swydd a’r manyleb i’ch helpu i ysgrifennu cwestiynau perthnasol. I gael gwybod mwy am sut maen nhw’n meddwl, yn ymddwyn ac yn mynd i’r afael â heriau, gallwch ofyn cwestiynau ymddygiadol megis:

  • Dywedwch wrthyf am adeg pan wnaethoch chi arwain tîm i lwyddiant
  • Disgrifiwch adeg pan wnaethoch ddod ar draws problem a sut wnaethoch chi ei datrys
  • Beth sy’n eich ysgogi yn y gwaith?

Os yw’r swydd yn gofyn am lefel sgiliau penodol mewn maes penodol, dylech brofi set sgiliau eich ymgeisydd gyda chwestiynau profiad fel:

  • Pa brofiad sydd gennych chi o reoli tîm?
  • Dywedwch wrthyf am gyflawniad sy’n dangos y byddwch yn ffynnu yn y rôl hon
  • Pa mor gyfarwydd ydych chi gyda defnyddio meddalwedd fel (nodwch raglenni perthnasol)?

Awgrym: profwch eich cwestiynau drwy geisio eu hateb eich hun.

Yn ystod y cyfweliad ei hun, peidiwch â bod ofn mynd i ffwrdd o’r sgript os yw eich ymgeisydd yn sôn am rhywbeth rydych am wybod mwy amdano. Os ydych chi’n gwneud hyn dylech fod yn ymwybodol eich bod yn dod â’r sgwrs yn ôl at y cwestiynau a baratowyd ymlaen llaw fel nad ydych chi’n colli unrhyw wybodaeth allweddol.

Cwestiynau i’w hosgoi

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod digon am yr hyn y gallwch ac na allwch ei ofyn, gan fod rhai cwestiynau yn amhriodol neu’n anghyfreithlon hyd yn oed. Mae gofyn cwestiynau am oedran, crefydd, hil, statws priodasol, plant/cynlluniau teuluol yn y dyfodol, rhywioldeb, anabledd cyfwelai neu gofnod troseddol yn anghyfreithlon a gallai gael ôl-effeithiau difrifol ar eich busnes. Unwaith y byddwch wedi llunio eich rhestr o gwestiynau, gofynnwch i rywun o’ch adran AD eu gwirio am gyfreithlondeb.

Tasgau Ymarferol

Yn dibynnu ar eich diwydiant a rôl y swydd, efallai y byddai’n werth gofyn i’ch ymgeisydd posibl i gwblhau tasg fel rhan o’u cyfweliad. Er enghraifft, y ffordd orau o recriwtio cogydd yw iddynt goginio pryd o fwyd i chi. Hyd yn oed mewn swyddi yn y swyddfa, gall gosod tasg fod yn ffordd wych o wahaniaethu rhwng ymgeiswyr.

Gwnewch argraff dda

Peidiwch ag anghofio bod y broses gyfweld yn ymwneud cymaint ag yr ymgeisydd yn penderfynu a ydynt am weithio i chi, ag y mae’n ymwneud â chi’n penderfynu a ydych am eu cyflogi. Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi argraff dda o’r cwmni i’r gweithiwr posibl, felly gymaint ag y byddwch am iddynt fod ar amser, wedi’u cyflwyno’n dda ac yn gwrtais, gwnewch yn siŵr eich bod chi hefyd.

Ar y diwrnod

Ail-ddarllenwch CV pob ymgeisydd cyn eu cyfweliad i atgoffa eich hun. Bydd hyn yn helpu osgoi gofyn cwestiynau y gall eu CV eisoes eu hateb a’ch atgoffa o unrhyw gwestiynau penodol am eu profiad rydych chi eisiau eu gofyn.

Pan fydd yr ymgeisydd yn cyrraedd, sicrhewch eu bod nhw’n gartrefol drwy eu cyfarch yn gynnes a chynnig gwydraid o ddŵr neu baned o de iddynt neu eu cyflwyno i staff y cwmni. Gall cael diod wrth law fod yn ddefnyddiol os ydynt yn nerfus neu gall cymryd llymaid rhoi cyfle iddynt feddwl am beth i’w ddweud nesaf.

Amlinellwch strwythur y cyfweliad cyn i chi fynd i ofyn y cwestiynau; mae rhedeg drwy ddisgrifiad o’r cwmni ac amlinellu rôl y swydd hefyd yn helpu i wneud yr ymgeisydd deimlo’n gartrefol.

Peidiwch ag anghofio cofnodi ychydig o nodiadau am yr ymgeisydd, naill ai yn ystod y cyfweliad neu ar y diwedd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn cyfweld nifer o bobl.

Y Camau Nesaf

Ar ddiwedd y cyfweliad, peidiwch ag anghofio gofyn i’ch ymgeisydd os oes ganddynt unrhyw gwestiynau i chi.

Byddwch yn barod am ymholiadau megis:

  • A yw’r rôl hon yn newydd? Sut mae wedi esblygu?
  • A oes cyfleoedd ar gyfer cynnydd gyrfa?
  • Sut mae diwrnod arferol yn edrych?
  • Sut beth yw hi i weithio yma o’ch safbwynt chi?
  • Pa gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael?

Peidiwch ag anghofio gadael iddynt wybod sut y byddwch yn dilyn y drefn cyfweliad a phryd y gallant ddisgwyl clywed oddi wrthych.

 Am ddod o hyd i’r ymgeisydd perffaith ar gyfer eich busnes? Defnyddiwch ein Gwasanaeth Recriwtio a Chyflawni Prentisiaeth rhad ac am ddim! I gael gwybod mwy: https://acttraining.org.uk/recruit-an-apprentice/

Rhannwch