16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Learners

Gyda chanlyniadau TGAU a Lefel A newydd fod, ydych chi wedi meddwl am eich camau nesaf y tu hwnt i’r ysgol? Gall fod yn anodd meddwl am eich opsiynau y tu hwnt i goleg neu brifysgol, ond mae amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa a chyfleoedd ar gael i chi. Os ydych chi’n hoffi’r syniad o ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd, gallai Hyfforddeiaeth fod y dewis iawn i chi. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy amdano!

Beth yw Hyfforddeiaeth?

Mae Hyfforddeiaeth yn rhaglen dysgu yn y gwaith gwych sy’n helpu pobl ifanc 16-18 mlwydd oed fel chi i ddod yn barod ar gyfer gwaith tra’n ennill cymhwyster. Ar ôl treulio rhan fwyaf o’ch amser yn yr ysgol neu’r coleg, mae ein Hyfforddeiaethau yn rhoi help llaw i chi symud ymlaen o addysg i’r gweithle!

Mae Hyfforddeiaethau’n cynnig opsiwn ymarferol amgen i’r gofynion parhaus o draethodau, arholiadau ac astudio y mae coleg a phrifysgol yn ei olygu. Felly, beth allwch chi ei ddisgwyl yn lle hynny?

  • Mae amrywiaeth o lwybrau i ddewis ohonynt, gan gynnwys Gofal Anifeiliaid, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gofal ac Arlwyo
  • Cefnogaeth gan ein tîm Cyfleoedd
  • Tiwtor pwrpasol
  • Lleoliad gwaith cyffrous
  • Teithiau a siaradwyr gwadd
  • Yr holl ofal, cymorth ac arweiniad sydd ei angen arnoch

Beth yw manteision y rhaglen Hyfforddeiaeth?

Ennill wrth ddysgu

Ar Hyfforddeiaeth, byddwch yn ennill hyd at £50 yr wythnos ynghyd â threuliau teithio. Mae hyn yn golygu y gallwch ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad ymarferol gyda chyflogwr Cymreig o’r radd flaenaf tra’n ennill ar yr un pryd.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan diwtor ymroddedig yn un o’n Canolfannau Sgiliau, gan ddysgu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a datblygu sgiliau cyfathrebu a rhifedd hanfodol. Unwaith y byddwn wedi eich helpu i sicrhau lleoliad, byddwch yn treulio ychydig o ddyddiau yr wythnos yn y gweithle, gan ennill profiad perthnasol a penodol i’r swydd.

Y sgiliau a’r profiad gwaith yr ydych yn eu hennill gyda Hyfforddeiaeth yw’r hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano a bydd yn allweddol wrth chwilio am Brentisiaeth neu chwilio am waith.

Gallwch ddechrau ar unrhyw adeg

Yn wahanol i goleg neu brifysgol, nid oes rhaid i chi aros tan fis Medi i ddechrau – gallwch gofrestru ar ein rhaglenni Hyfforddeiaeth (neu Brentisiaeth) ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ac, er y gall cyrsiau addysg uwch gymryd dwy neu dair blynedd i’w cwblhau, bydd Hyfforddeiaeth ond yn cymryd rhwng 6 a 12 mis.

Dewch i gwrdd â Darren

Roedd Darren James yn ansicr pa lwybr gyrfa yr oedd am ei gymryd cyn darganfod Hyfforddeiaeth Cerbydau Modur ACT. Mae bellach yn ffynnu fel Prentis gydag un o weithredwyr teithiau gorau Cymru, Edwards Coaches.

“Derbyniais fy addysg gartref gyda fy mrawd nes fy mod yn 15 mlwydd oed ac fe wnaeth ffrind i’r teulu awgrymu ACT fel ffordd i ni fynd i’r coleg. Fe wnaethom ymchwilio iddo ar gyfer fy mrawd yn gyntaf ac yna pan welsom ei fod yn gwneud yn dda, dilynais ef flwyddyn yn ddiweddarach.

“Pe na byddwn wedi mynd at ACT a dechrau fy Hyfforddeiaeth, ni fyddwn wedi cael y cyfle i ddysgu am gerbydau modur tan yn ddiweddarach yn y coleg – pe byddwn wedi cyrraedd yno i ddechrau. Mae ACT wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth i mi a byddwn yn eu hargymell yn fawr i unrhyw un. “

Fe wnaeth ymrwymiad a chymhelliant Darren i oresgyn ei rwystrau i ddysgu ddenu sylw ei diwtoriaid, ac yn 2017 cafodd ei enwebu am y wobr ‘Hyfforddiaeth y Flwyddyn’ yng ngwobrau mewnol ACT yn y categori Cerbydau Modur.

Wrth sôn am ennill ei wobr, dywedodd Darren, “Cefais sioc a’m synnu’n fawr i ennill y wobr gan nad oeddwn i’n disgwyl cael fy enwebu amdano ond rwyf mor ddiolchgar i’r tiwtoriaid am fy enwebu.”

 Sut i gofrestru

Os ydych chi wedi penderfynu bod Hyfforddeiaeth yn swnio fel y llwybr iawn i chi, gallwch ddysgu mwy yma, neu cysylltwch â’n tîm Cyfleoedd heddiw ar 029 2046 4727 neu info@acttraining.org.uk

Rhannwch