16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners

Roedd Callum Lucas, sy’n un ar hugain mlwydd oed, bob amser yn gwybod ei fod am gymryd y llwybr Prentisiaeth. Wedi colli allan ar gyfle Prentisiaeth ar ôl gorffen yn yr ysgol yn 2016, roedd Callum bron wedi rhoi’r gorau ar gyrraedd ei nod.

Fodd bynnag, gyda chymorth gan ACT, fe fu Callum yn llwyddiannus wrth sicrhau swydd Prentisiaeth Gweinyddiaeth yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd: un o’r pum prifysgol uchaf am ragoriaeth ymchwil.

 “Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod am fod yn Brentis, yn enwedig Prentis gweinyddol. Rwy’n mwynhau dysgu ac ennill sgiliau newydd yn y gwaith, felly roedd Prentisiaeth wir yn apelio ataf. Ar ôl cwblhau fy Lefel A, edrychais am Brentisiaeth mewn gweinyddiaeth, a dod yn agos at sicrhau rôl, ond ni chefais hon yn y diwedd. Yna bum yn gweithio mewn ffatri electroneg am ddwy flynedd, ac roeddwn i yn ei fwynhau ond roeddwn i’n gweithio mewn swydd nad oeddwn wedi ymroi’n llwyr iddi, ac roeddwn i’n teimlo y gallwn i gynnig mwy yn rhywle arall. Rwyf bob amser wedi canolbwyntio ar gyrraedd fy nod, felly roeddwn i’n teimlo nad oedd bod yn sownd mewn un swydd, heb unrhyw ddyrchafiadau, yn mynd i fod yn dda i mi, felly dechreuais ymgeisio am fwy o Brentisiaethau. Nawr fy mod yn Brentis, rwy’n meddwl mai dyma’r penderfyniad gorau i mi ei wneud. “

Yn ogystal ag ennill profiad gwaith ymarferol gwerthfawr gyda’i Brentisiaeth, mae Callum hefyd yn dysgu amrywiaeth o sgiliau newydd. A’r cyfan tra mae’n gweithio tuag at ei gymhwyster Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes.  Gan fod ei hyder yn tyfu ac mae’n parhau i ragori yn ei rôl, mae rheolwr llinell Callum wedi rhoi hyd yn oed mwy o gyfrifoldebau iddo er mwyn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau ymhellach:

“Mae gen i lawer o wahanol dasgau rwy’n ymgymryd â nhw bob dydd, gyda phob diwrnod yn wahanol iawn i’r nesaf. Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda fy rheolwr llinell i adolygu fy nghynnydd, sy’n wych, oherwydd gallaf wedyn ddefnyddio’r sgiliau rwyf yn eu dysgu i wella ar fy mherfformiad. Yr wyf bob amser yn cael dyletswyddau gwahanol i’w cyflawni er mwyn fy helpu i ddeall sut mae’r brifysgol a’r cwrs yn gweithio. Rhan mawr o fy ngwaith oedd rhedeg y cyfnod arholiadau, sef cyfnod prysuraf y Brifysgol. Er ei bod yn brysur, rwy’n mwynhau’r amser hwn, gan fy mod i’n dysgu cymaint am yr Ysgol Seicoleg.”

Yn ogystal â’i rôl o ddydd i ddydd yn yr Adran Seicoleg, mae Callum hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r swyddfa gyllid am ddeuddeg awr yr wythnos. Mae wedi cael ei nifer o gyfrifoldebau ychwanegol ac yn cael tasgau hanfodol penodol sy’n rhan annatod o rediad esmwyth y Brifysgol. Mae’r hyblygrwydd a gynigir gan y Prentisiaeth Gweinyddu Busnes wedi bod yn hynod fuddiol i Callum, gan ei fod yn teimlo ei fod yn ei wneud yn weithiwr addasadwy a hyblyg:

“Mae’r rôl bresennol hon wedi bod yn wych i mi. Rwyf wedi datblygu llawer o sgiliau gwahanol yn ystod fy nghyfnod fel Prentis, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm a meithrin perthynas gadarnhaol gyda fy nghydweithwyr. Mae’r cyfan rwyf wedi’i dysgu o’m hyfforddiant wir yn fy helpu yn fy rôl o ddydd i ddydd o fewn y Brifysgol. Rwy’n teimlo fel fy mod yn weithiwr llawer mwy crwn yn awr nag yr oeddwn naw mis cyn i mi ddechrau. “

Er mwyn sicrhau bod taith y dysgwr mor gydlynol ac effeithlon ag y bo modd, mae ACT yn cynnig OneFile; system e-bortffolio ar-lein sy’n cofnodi cynnydd dysgwyr mewn amser real. Mae OneFile yn cadw cofnod o’r holl hyfforddiant, gwaith cwrs ac aseiniadau mae’r dysgwr wedi eu cwblhau. Wrth siarad am ei brofiad taith y dysgwr, dywedodd Callum:

 “Rwy’n teimlo’n falch iawn pan fyddaf yn dilyn fy nghynnydd ar OneFile, gan fy mod yn cyflawni rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud am rai blynyddoedd. Rwy’n mwynhau dysgu sgiliau newydd a’u defnyddio, ond mewn gwirionedd rwy’n mwynhau gweld fy nghynnydd personol fy hun o pan ddechreuais yn gyntaf. “

Yn ogystal â darparu profiad gwaith ymarferol, mae Prentisiaethau hefyd yn llenwi bylchau sgiliau ar gyfer cyflogwyr, sy’n gallu hyfforddi eu staff i fodloni eu hanghenion sgiliau penodol.  O ganlyniad mae Prentisiaid fel Callum yn cynyddu eu rhagolygon cyflogadwyedd yn fawr:

“Bydd y sgiliau a’r cymwysterau mae’r Brentisiaeth yn eu hychwanegu at fy CV yn fuddiol iawn. Heb ACT fyddwn i ddim wedi cael y cyfle hwn ac ni fyddwn yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd. Rwyf wedi bod eisiau swydd fel hon am 3 blynedd, ac roeddwn n teimlo fel nad oedd yn mynd i ddigwydd am gyfnod. Gyda ACT, nid yn unig fy mod wedi dod yn Brentis, ond rwy’n gallu gwneud swydd rwyf wir yn ei mwynhau ac rwyf wedi cwrdd â phobl wych o ganlyniad.”

Gyda ACT yn cynnig tîm medrus iawn sy’n ymroddedig i sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu huchelgeisiau gyrfa, mae Callum hefyd yn teimlo bod y profiad Prentisiaeth wedi bod yn hynod gefnogol: 

“Mae fy aseswyr wedi bod o gymorth mawr, ac mae’r tasgau a osodwyd ganddynt i mi wedi bod yn dda iawn i mi gan fy mod wedi ymchwilio i bynciau gwahanol a dysgu pethau newydd. Rwy’n teimlo na allai fy Mhrentisiaeth fynd yn well, gan fod fy nghyflogwyr ac ACT wedi bod yn wych. Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn wych gyda chaniatáu i mi gael amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn i mi allu mynychu gweithdai. Maen nhw’n deall y bydd o fudd uniongyrchol iddyn nhw pan fyddaf i’n dysgu sgiliau newydd.”

Fel miloedd o Brentisiaid ifanc eraill mae ACT yn eu cefnogi, mae Callum yn elwa’n uniongyrchol o ddysgu tra mae’n ennill. Gyda holl raglenni hyfforddi ACT, p’un ai’n Hyfforddi, Prentisiaeth neu Brentisiaeth Uwch, gallwch ddysgu yn y gwaith, cyflawni cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, ennill cyflog, meithrin sgiliau ac adeiladu gyrfa gwerth chweil fel Callum.

Wrth siarad am ei nodau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Callum, “Ar ôl i mi orffen fy nghymhwyster Lefel 2, rwyf yn gobeithio symud ymlaen i’r Lefel 3. Rwy’n teimlo y bydd yn fy nghryfhau i fel gweithiwr, ac yn cryfhau fy CV. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i gael y swydd hon, ac rwy’n gwybod y byddaf yn bendant yn dod yn fwy cyflogadwy oherwydd y Brentisiaeth hon.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Callum ac yn meddwl y gallai Prentisiaeth fod yn addas i chi, yna edrychwch ar ein swyddi gwag Prentisiaeth yma. Mae gennym gannoedd o swyddi gwag ar gael gyda chyflogwyr gorau Cymru, sy’n chwilio am ymgeiswyr ifanc talentog fel chi.  Beth ydych chi’n aros amdano? Gwnewch gais nawr.

Rhannwch