16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cadw cofrestr o bobl sydd wedi dangos eu bod â chymwysterau priodol ac yn addas i weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r gofrestr yn agored i grwpiau amrywiol o weithwyr; o weithwyr cymdeithasol i reolwyr cartrefi gofal oedolion, a gweithwyr gofal cartref.

Pam ei bod hi’n bwysig cofrestru?

Mae cofrestru’n bwysig oherwydd ei fod yn rhoi tawelwch meddwl a hyder i bobl sy’n derbyn gofal fod gan weithiwr gofal y sgiliau a’r cymwysterau sy’n ofynnol i gyflawni eu swydd mewn modd proffesiynol a gofalgar. Mae’r gofrestr hefyd yn cefnogi, yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau a gafwyd gweithwyr gofal cartref.

A oes gennych y cymwysterau addas?

Os oes gennych gymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gyfwerth, yna gwnewch gais i gofrestru ar-lein wrth clico y linc: https://www.scwonline.wales

Cofrestru â phrofiad os nad oes gennych y cymhwyster gofynnol

Os nad oes gennych gymhwyster addas, ond wedi gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol am dair o’r pedair blynedd diwethaf mewn rôl gofal cymdeithasol perthnasol gallwch gael eich argymell gan eich rheolwr. Bydd rheolwyr yn asesu gweithwyr yn erbyn y cymwyseddau gofynnol ac yn darparu datganiad unigol i gadarnhau bod eich cymwyseddau’n gyfreithlon.

Cofrestru os nad oes gennych gymhwyster na’r profiad gofynnol

Os nad oes gennych y cymwysterau uchod neu’r profiad perthnasol o fewn rôl iechyd a gofal cymdeithasol bydd rhaid i chi gwblhau cwrs ac asesiad Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion neu blant a phobl ifanc). Ar ôl i chi gwblhau’r asesiad ar-lein, gallwch wedyn wneud cais i gofrestru. Ar ôl cofrestru bydd gennych dair blynedd i gwblhau cymhwyster gofynnol.

Sut i ennill y cymwysterau angenrheidiol

Mae ACT yn cynnig nifer o gyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys;

Iechyd a gofal cymdeithasol (Plant a phobol ifanc)

Mae’r cwrs hwn yn datblygu sgiliau gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ’trwy asesu eu sgiliau ymarferol a chymhwysedd. Byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan fentoriaid a fydd yn eu cefnogi gyda’u gwaith cwrs ysgrifenedig. Mae yna nifer o fodiwlau i ddewis ohonynt ar y cwrs lefel 3, gan gynnwys; cefnogi rhieni ag anableddau, hyrwyddo cefnogaeth weithredol a gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad preswyl. Mae’r cymhwyster lefel 5 wedi’i anelu at y rhai mewn rolau sydd â lefel uwch o ymreolaeth o fewn paramedrau cyfyngedig, megis; Rheolwr Gofal Plant Preswyl a Rheolwr Cynorthwyydd Preswyl. I ddarganfod mwy ewch i: https://bit.ly/2whWM4D  

Gofal iechyd a cymdeithasol (Oedolion)

Mae cymhwyster iechyd a gofal cymdeithasol oedolion lefel 2 yn cael ei gyflwyno mewn dwy gydran; cymhwyster craidd a chymhwyster ymarferol. Bydd gweithdai yn delio â materion fel; diogelu, egwyddorion a gwerthoedd a lles. Mae’r cwrs wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol, lle bydd y cymhwyster yn datblygu gallu dysgwyr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion mewn nifer o swyddi yn y sector fel; cynorthwyydd gofal iechyd, gweithiwr gofal a gweithwyr gofal cartref. Mae’r rhain yn cynnwys; cynorthwywyr gofal iechyd, gweithwyr gofal a gweithwyr gofal cartref. Mae Lefel 3 yn datblygu ac yn adeiladu ar y sgiliau hyn trwy wella hyder wrth eu rhoi mewn rolau sy’n rhoi mwy o gyfrifoldebau iddynt. I ddarganfod mwy ewch i: bit.ly/38MLJ1F

Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant

Mae ein prentisiaeth Lefel 2 yn asesu ac yn datblygu gwybodaeth a sgiliau’r rhai sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau. Yn bennaf y prif gyfrifoldeb yw gofal, dysgu a datblygu trwy chwarae e.e. meithrinfeydd, gofal dydd, crèche, neu safle warchodwyr plant. Mae’r brentisiaeth lefel 3 yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithredu’n fwy annibynnol, gan gynllunio’r cwricwlwm a chynllunio gweithgareddau. Ymgeiswyr addas fydd Ymarferydd Meithrin, Arweinydd Ystafell neu Arweinydd Crèche. I ddarganfod mwy ewch i: bit.ly/2RV5oW0 

Beth ydych chi’n aros amdano?

Mae’n ofyniad gorfodol Gofal Cymdeithasol Cymru eich bod yn cwblhau cymhwyster iechyd a gofal cymdeithasol addas ar ôl cofrestru. Mae ein cymwysterau’n cymryd 18-24 mis ar gyfartaledd i’w cwblhau … beth ydych chi’n aros amdano?

 

Rhannwch