16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Learners

Mae iechyd a lles yn dod yn derm poblogaidd rydyn ni’n clywed ym mhobman. Os mae yn dod o’r byd meddygol neu’n awgrymiadau gan y diwydiant hunangymorth, mae pwysigrwydd iechyd a lles yn amlwg! Mae hyn oherwydd ei fod yn elfen hanfodol bywyd a ddylai gael blaenoriaeth, yn enwedig lles ac iechyd cyflogwyr. Gydag ymchwil gan yr elusen iechyd meddwl, Mind, yn dangos y bydd cymaint ag 1 o bob 4 ohonom yn dioddef gyda phroblem iechyd meddwl eleni, felly mae’n amlwg y dylai strategaeth cwmnïau a modelau busnesau flaenoriaethu iechyd a lles. Yn enwedig os ydyn nhw eisiau gweithwyr iach, hapus ac ymgysylltiol. Mae’r canlyniadau cadarnhaol a gafwyd o fuddsoddi yn lles eich staff yn ddiamheuol. Dyma dri rheswm, pam y dylech fuddsoddi yn iechyd lles eich gweithwyr.

Cynyddu cynhyrchiant

Nid yw’n syndod bod gweithle iachach a hapusach yn arwain at lefelau uwch o gynhyrchiant. Pan rydym ni’n bwyta’n well ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, rydyn ni yn teimlo’n llai blinedig ac yn gweld hi’n llawer haws canolbwyntio am gyfnodau hirach o amser. Mewn gwirionedd, mae peidio â bwyta bwyd iach a pheidio ag ymarfer corff yn gysylltiedig ag arferion anghynhyrchiol yn y gweithle. Trwy annog a hyrwyddo iechyd a lles ymhlith eich gweithlu, maen nhw’n llawer mwy tebygol o deimlo cymhelliant ac ymgysylltiad yn y gwaith.

Llai o absenoldeb

Un o fanteision pwysicaf strategaethau iechyd lles yn y gweithle yw eu heffaith gadarnhaol ar weithwyr a’u hiechyd. Gall cwmnïau sy’n hyrwyddo arferion bwyta ac ymarfer corff iachach helpu i leihau pryderon ac anhwylderau iechyd y gall eu gweithlu eu profi. Yn ogystal â bod o fudd uniongyrchol i weithwyr, mae hefyd yn lleihau faint o amser y mae gweithwyr yn ei gymryd o’r gwaith oherwydd salwch. . Mae hyn yn cynnwys straen a blinder; mae ymchwil yn ei ddangos yw un o’r cyfranwyr mwyaf at iechyd gwael, gan arwain yn aml at absenoldeb. Mae ymchwil yn dangos mai straen a blinder yw rhai o’r cyfranwyr mwyaf at iechyd gwael, gan arwain yn aml at absenoldeb.

Morâl gwell

Pan mae eich staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, maent yn dechrau cyfathrebu â’i gilydd yn fwy. Mae cynnydd mewn boddhad swydd ac ymgysylltiad cryfach yn arwain at amgylchedd gwaith iachach a hapusach. Yr uchaf yw morâl tîm, yr hawsaf yw goresgyn heriau a sefyllfaoedd anodd y bydd pob busnes neu dîm yn eu hwynebu yn trwy gydol eu gyrfa. Bonws ychwanegol yw eich bod yn debygol o weld cynnydd mewn recriwtio a chadw staff. Mae’ch staff presennol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn fwy tebygol o aros yn deyrngar i’r cwmni. Yn ogystal, mae’n gynnig deniadol ar gyfer darpar dalent newydd rydych chi’n ceisio’i recriwtio. I’r rhai sy’n gwerthfawrogi eu hiechyd a’u hapusrwydd, gall pecyn iechyd a lles deniadol orbwyso ffactorau eraill, hyd yn oed cyflog. Fel maen nhw’n dweud, ni allwch roi pris ar hapusrwydd!

Mae’n amlwg bod manteision lles gweithwyr. Er hynny, gall fod yn frawychus gwybod ble i ddechrau gweithredu a gwreiddio diwylliant o les yn eich busnes. Yn ACT Training rydym yn cynnig cwrs Cyflwyniad i Iechyd a Lles, sy’n ceisio helpu unigolion i godi ymwybyddiaeth o weithgareddau ymarferol y gallant eu cyflawni i gefnogi eu hunain a’u cydweithwyr yn rhagweithiol. Cyflwynir

gwybodaeth mewn sesiwn hwyliog a gafaelgar, sy’n galluogi’r rhai sy’n mynychu i fagu hyder yn eu gallu i wella a chynnal iechyd a lles. Cliciwch y linc i ddarganfod mwy-  https://bit.ly/2W2t5iP 

Rhannwch