16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners
Mae gweithio gartref yn ystod pandemig yn diriogaeth dieithr i ni i gyd. Dyma rai awgrymiadau da a fydd yn eich helpu i gael y gorau o'ch trefn orfodedig o weithio gartref.

Mynd i’r naws gwaith
Bydd newid o’ch pyjamas, sefydlu man gwaith dynodedig neu ofod desg yn helpu i greu ffin rhwng eich cartref a’ch bywyd gwaith, a fydd yn hybu cynhyrchiant ac yn cadw eich meddwl yn iach ac yn hapus. Dywed Deborah Serani, seicolegydd ac awdur arobryn “(mae’n) bwysig i mi gadw cydbwysedd i’m bywyd yn y cartref a bywyd gwaith. Rwy’n bwyta’n dda, yn gwneud ymarfer corff, yn gwneud yn siŵr fy mod i’n cael cwsg da, ac yn ceisio mynd cael cymaint o heulwen ag y gallaf mewn diwrnod penodol.” Gall dilyn eich trefn waith flaenorol a’ch strwythur dyddiol, mor agos â phosib, hefyd arwain at bontio mwy llyfn o weithio yn y swyddfa i weithio gartref.

Creu ffiniau
Mae creu ffiniau o amgylch eich diwrnod gwaith yn hanfodol, fel arall byddwch chi’n teimlo fel eich bod chi’n byw yn y gwaith yn lle gweithio gartref. Ewch ati i greu ffiniau amser pwysig, rhoi gwybod i’ch cydweithwyr am eich argaeledd a threfnu amser penodol ar gyfer cinio. Gorffennwch eich diwrnod gwaith heb fod yn hwyrach na’r diwrnod gwaith arferol a cheisiwch ddefnyddio eich ‘amser cymudo’ arferol i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau, fel gwrando ar gerddoriaeth, myfyrio neu ddarllen. Gall gorweithio gael effaith niweidiol ar eich iechyd, gan fod gweithio oriau hir yn tueddu i leihau lefel eich ffitrwydd. Gall hyn arwain at broblemau gyda’r galon, lefelau colesterol uwch, cwsg gwael, diffyg egni a chanolbwyntio’n wael.

Cymryd egwyl yn rheolaidd
Nawr bod trefn reolaidd y swyddfa wedi mynd, felly hefyd yr ychydig wrthdyniadau a arferai helpu i dorri’r diwrnod i fyny, fel gwneud y te a dal i fyny gyda chydweithwyr. Heb y rhyngweithiadau bach hyn yn ystod eich diwrnod gwaith gartref, gallwch yn hawdd ddod yn gaeth i’ch desg a dechrau gweithio oriau hir, di-dor. Sefydlwch rywfaint o strwythur trwy gymryd rhan mewn talpiau o waith â ffocws ac yna seibiannau byr – bydd hyn yn helpu i gynnal lefelau canolbwyntio a chadw golwg ar eich lles. Bydd seibiannau hefyd yn rhoi cyfle i chi gadw’n hydradol a pharatoi prydau bwyd iawn, yn hytrach na bwyta byrbrydau o ddanteithion yn gyson sydd ddim mor iach (ond yn demtasiwn). Dyma rai awgrymiadau ar gyfer byrbrydau iach a allai eich cadw ar y llwybr iawn: https://bit.ly/2QsHrW6

Cadw mewn cysylltiad
Dylech gyfathrebu mwy na’r arfer a gwneud amser ar gyfer sgwrsio. I rai, gall gweithio gartref fod yn brofiad unig ac ynysig, tra gall eraill, sy’n byw mewn cartrefi mawr, fod yn dyheu am gefnogaeth ffrindiau a chydweithwyr. Yn ffodus, rydyn ni’n byw mewn oes ddigidol ac mae yna lawer o ffyrdd i bawb gadw mewn cysylltiad. O apiau galwadau fideo, fel WhatsApp, a FaceTime i negeseuon testun, neu ddim ond codi’r ffôn, mae rhywbeth at ddant pawb. Meddyliwch am drefnu digwyddiadau rhithwir, fel cwisiau grŵp neu gymryd eich awr ginio ar-lein trwy Microsoft Teams neu Zoom a gwahodd eraill. Os yw popeth arall yn methu, defnyddiwch y post! Pwy sydd ddim yn hoffi derbyn llythyrau, cardiau neu bethau bach eraill i godi calon yn ystod y cyfyngiadau symud?

Cofiwch…
Mae hwn yn amser rhyfeddol rydyn ni’n byw drwyddo ac er bod angen i ni geisio dod â strwythur i’n bywydau, mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n parhau i fod yn garedig gyda ni ein hunain, ac eraill gymaint â phosib yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am y systemau TG, rhaglenni, offer cyfathrebu a chynhyrchedd a all eich cefnogi gyda’ch llwyth gwaith neu gydag aros mewn cysylltiad, beth am ystyried ein cymhwyster Defnyddwyr TG? Mae wedi’i ariannu gan lywodraeth Cymru a gallai fod yn ffordd wych o ddatblygu eich sgiliau proffesiynol yn ystod y cyfnod hwn o weithio gartref. Ewch yma i ddysgu mwy: https://acttraining.org.uk/apprenticeship-learners/it-users/

Rhannwch