16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Learners

Mae darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru, ACT, yn falch o fod wedi cipio naw medal yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau 2019-20!

Llwyddodd dysgwyr o bob rhan o raglenni Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth ACT i sicrhau naw medal mewn ystod o gystadlaethau sgiliau gan gynnwys: Cyfrifeg, Trin Gwallt, Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Enillwyd cyfanswm o 5 medal aur, 2 fedal arian a 2 fedal efydd.

Mae canlyniadau llawn y diwrnod fel a ganlyn:

Medal Aur

Rebeca Geciova – Sgiliau Cynhwysol: Trin Gwallt

Kathryn Rees – Cyfrifeg

Mollie Jones – Cyfrifeg

Ellis Potter – Cyfrifeg

Morgan Griffith – Sgiliau Cynhwysol: TGCh

Medal Arian

Kidah Ball – Sgiliau cynhwysol: Trin Gwallt

Coby-Jay Barratt – Cynhwysol: TGCh

Medal Efydd

Angela Driscoll – Sgiliau Cynhwysol: Trin Gwallt

Alex Beaumont – Sgiliau Cynhwysol: TGCh

Yn dilyn llwyddiant eu perfformiad yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, mae dau o ddysgwyr ACT, Alex Beaumont a Rhiannon Fisher eisoes wedi cofrestru i gystadlu yng Nghystadlaethau World Skills UK sydd i fod i gael eu cynnal yn ddiweddarach eleni. Mae’r dysgwr hyfforddeiaeth, Alex, o raglen Gwasanaethau Busnes ACT, wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth Datrysiadau Meddalwedd ar gyfer Busnes, gyda Rhiannon Fisher, prentis Trin Gwallt, Harddwch a Gwaith Barbwr, yn cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth Trin Gwallt.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a chodi eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau. Gall enillwyr llwyddiannus o’r gystadleuaeth fod yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills UK a gallant fynd ymlaen i ddod yn rhan o garfan y DU ar gyfer Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg gan rwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu yn y gwaith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr. Wrth siarad am lwyddiant dysgwyr ACT yn y digwyddiad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear: “Mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd wych i ddysgwyr wireddu eu potensial, wrth ysbrydoli eraill yng nghelf yr hyn sy’n bosibl. Llongyfarchiadau enfawr i’n dysgwyr, a’n cydweithwyr ymroddedig sy’n eu cefnogi, ar eu cyflawniadau gwych yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.”

Rhannwch