16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Learners

Mae gadael yr ysgol a phenderfynu beth fydd eich camau nesaf yn peri straen. Roedd y diwrnod y canlyniadau’n wahanol iawn eleni, mae’r pandemig wedi dod â’i set ei hun o heriau ac wedi effeithio ar gynlluniau pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

Rhwng straen y diwrnod canlyniadau ac ansicrwydd economaidd, efallai eich bod yn chwilio am opsiwn amgen i Brifysgol. Os ydych am ennill sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr eu hangen, a’r cyfle i roi hwb cychwynnol i’ch gyrfa, yna mae Prentisiaeth yn berffaith i chi.

Felly, beth yw prentisiaeth?

Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw Prentisiaeth sy’n eich galluogi i ddysgu yn y swydd, ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, datblygu eich sgiliau, ennill cyflog ac adeiladu gyrfa werth chweil.

Mae prentisiaethau’n cynnig dewis amgen i draethodau, arholiadau ac astudio y mae prifysgol yn ei olygu. Felly, beth allwch chi ei ddisgwyl yn lle hynny? Nid oes ystafelloedd dosbarth na gwaith cartref; rydych chi’n dysgu tra’n gweithio gyda chymorth a chefnogaeth gyda Sgiliau Hanfodol mewn Saesneg a Mathemateg os oes angen. Gallwch fod yn brentis mewn unrhyw sector bron! Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod y gallwch wneud Prentisiaeth mewn Marchnata Digidol neu Weinyddu Busnes? Efallai eich bod wedi meddwl mai dim ond ar gyfer crefftau â llaw fel trydanwyr a phlymwyr mae Prentisiaethau ond nid yw hyn yn wir, mae ACT yn cynnig Prentisiaethau mewn dros 30 o sectorau!

Felly, beth yw manteision y Prentisiaeth?

Ennill wrth ddysgu

Mae Prentisiaeth yn eich galluogi i ennill cyflog tra’n ennill profiad ymarferol mewn sector penodol, gan roi cyfle i chi ddefnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu mewn amgylchedd gwaith ar unwaith. Dyma’r profiad gwaith gorau y gallwch chi ei gael! Ar y llaw arall, mae’r rhan fwyaf o gyrsiau prifysgol yn seiliedig ar ddamcaniaeth, gan eich cyfeirio’n unig at y byd gwaith mwy ymarferol ar ôl graddio. Bydd y profiad gwaith a’r sgiliau fyddwch chi’n eu meithrin gyda phrentisiaeth yn rhoi’r wybodaeth a’r offer i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Ar hyn o bryd, isafswm cyflog Prentisiaeth yw £4.15 yr awr ond mae llawer o gwmnïau’n talu cyflog uwch na hyn. Ein cyflog prentisiaeth uchaf oedd £25,000 y flwyddyn!

Dim dyled!

I lawer o unigolion, gall y posibilrwydd o fynd i ddegau o filoedd o bunnoedd o ddyled fod yn ffactor hollbwysig wrth benderfynu a ddylid mynd i’r brifysgol neu fynd ar drywydd opsiynau amgen fel prentisiaethau. Fodd bynnag, mae cyllid llywodraeth Cymru yn golygu nad oes rhaid i chi, a’ch cyflogwr, dalu ceiniog am eich hyfforddiant Prentisiaeth. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu benthyciad myfyriwr am y deng mlynedd ar hugain nesaf!

Gallwch ddechrau ar unrhyw adeg

Gallwch ddechrau prentisiaeth ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn – does dim rhaid i chi aros tan fis Medi i ddechrau fel coleg neu brifysgol. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n y coleg ar hyn o bryd ac yn ystyried rhoi’r gorau iddi, y gallwch gael lle ar un o’n rhaglenni hyfforddi neu wneud cais am unrhyw un

o’n swyddi Prentisiaeth byw ar unwaith. Hefyd, mae gradd prifysgol safonol yn cymryd tair blynedd i’w chwblhau, ac eto gall prentisiaeth gymryd cyn lleied â 12 mis i’w chyflawni.

Sut i gael prentisiaeth?

Mae llwybrau gwahanol i Brentisiaeth. Os oes gennych chi swydd ar hyn o bryd a’ch bod am ddatblygu eich sgiliau a gweithio eich ffordd i fyny’r ysgol yrfa yna gwych, gallwn weithio gyda chi a’ch cyflogwr i’ch helpu i gwblhau Prentisiaeth. Gallech gael dyrchafiadau yn eich swydd o ganlyniad.

Ar y llaw arall, os credwch y gallai prentisiaeth fod y cam nesaf cywir ac nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gallwn helpu. Mae gennym gannoedd o Brentisiaethau gwag gyda chyflogwyr gorau Cymru, sy’n chwilio am ymgeiswyr ifanc disglair fel chi.

Os ydych chi angen mwy o amser meddwl ac am roi cynnig ar rai opsiynau gwahanol, a’ch bod rhwng 16-18 mlwydd oed, yna gallai ein rhaglen Hyfforddeiaeth fod i chi! Mae Hyfforddeiaeth yn rhaglen wych cyn Prentisiaeth sy’n eich paratoi ar gyfer byd gwaith. Bydd ein ymgynghorwyr cyfleoedd yn ein 7 canolfan ledled De Cymru yn gallu eich helpu i ddarganfod pa lwybr gyrfa yr ydych am ei ddilyn, a’ch helpu i ddod o hyd i leoliad hefyd. Byddwch hefyd yn cael £30-50 yr wythnos.

Os credwch y gallai Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth fod yn gam cywir i chi, beth ydych chi’n aros amdano? Gwneud cais nawr!

Rhannwch