16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Learners

Ydych chi bob amser yn breuddwydio am fywyd fel Triniwr Gwallt neu Farbwr, ond yn poeni na fyddech chi’n llwyddo? Efallai eich bod eisoes yn meddu ar y sgiliau allweddol.

Mae llawer mwy i swydd Trin Gwallt na gwybod beth yw’r ffasiwn ddiweddaraf ar gyfer bobiau, bargodion a sychu gwallt. Er bod ymdeimlad brwd o steil yn amlwg yn helpu, mae rhinweddau eraill yr un mor bwysig!

Ydych chi’n wrandäwr naturiol sy’n gweithio’n dda gyda’u dwylo? Allwch chi fod yn drylwyr a rhoi sylw i fanylion? Allwch chi ddangos sgiliau cwsmeriaid gwych a darparu gwasanaeth gyda gwên? Ydych chi’n rhywun sy’n cadw eu cŵl mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen?

Os yw hyn yn swnio fel chi, yna mae gennych eisoes y set sgiliau graidd sydd ei hangen, ar gyfer bywyd yn llawn cwsmeriaid, cyrls a lliwio!

Rhaid i Driniwr Gwallt fod yn bersonol ac yn gyfeillgar, gan fod yn rhaid i’r cwsmer ymddiried ynoch chi ar bob cam o’r broses.

Yn ACT, mae Salon Hyfforddeiaeth llawn offer ar gyfer darpar Farbwyr a Thrinwyr Gwallt i ddysgu ystod eang o sgiliau, i gyd o dan lygad barcud ein tiwtoriaid profiadol yn y diwydiant.

Unwaith y byddwch wedi meistroli’r pethau sylfaenol, gallwch symud ymlaen i Brentisiaeth mewn salon proffesiynol, lle byddwch yn dysgu hanfodion y gêm steilio gwallt a sut y gellir eu datblygu, gyda’ch dawn bersonol eich hun! Mae unedau’r cwrs yn cynnwys: Steilio a gorffen, Gosod a gwisgo gwallt, Plethu a throelli gwallt, Lliwio a goleuo gwallt, yn ogystal ag atodi g wallt dros dro i wella steil.

Bydd modiwlau pellach, fel Cynghori ac ymgynghori â chleientiaid, Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon neu Ddatblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith, yn helpu i’ch gwneud yn ased cyflawn i unrhyw fusnes trin gwallt!

Mae ACT Training yn gwerthfawrogi’r profiad o ddysgu – sy’n ennyn diddordeb ac yn hudolus – ac yn annog pawb i anelu at gyrraedd eu nodau. Mae ymgeiswyr addas hyd yn oed yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau a sioeau mawreddog e.e. Salon Cymru, The World Skills, Yr Eisteddfod a Gwallt a Harddwch Cymru.

Efallai y byddai’n cymryd amser i chi ddod yn Nicky Clarke neu Vidal Sassoon nesaf, ond mae’r daith yn dechrau yma a gallwch fod yn llwyddiannus cyn i chi droi rownd!

 

Rhannwch