16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Blog

Mae cyfarwyddwyr un o salonau gwallt mwyaf chic y brifddinas yn credu bod Prentisiaid yn werth y byd.

Dywedodd Tiffany Hall, sy’n arwain Amaryllis gyda Rebecca Ryce, yn rhanbarth steilus Pontcanna yng Nghaerdydd, fod eu Prentisiaid yn arbenigwyr gyda chribau, toriadau a lliwio!

Nid yn unig y mae Amaryllis, sydd wedi bod  yn gweithio gydag ACT dros y pedair blynedd  diwethaf, yn angerddol am wallt, ond maent hefyd yn poeni’n fawr am yr amgylchedd, ar lefel fyd-eang a lleol. Nhw oedd y salon cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio cynnyrch gwallt eco Devines yn unig, a gweithio gyda’r Green Salon Collective i ailgylchu gwastraff salon.

Mae’r salon boblogaidd wedi elwa o’r cynllun Prentisiaeth wedi’i ariannu’n llawn, a chyda chefnogaeth Aseswyr ACT, mae wedi cronni aelodau staff sydd â chymwysterau llawn.

Dywedodd Tiffany fod Prentisiaethau wedi bod o fudd mawr i’r busnes, o ran lefelu aelodau staff.

Esboniodd: “Prentisiaethau yw asgwrn cefn unrhyw salon, ac rydym wedi cael dau aelod o staff sydd bellach wedi cymhwyso’n llawn.”

Ychwanegodd:

Rydym yn derbyn cymorth ariannol ac mae gennym Aseswyr gwych sy’n dod i gwblhau asesiadau gyda’n Prentisiaid, er mwyn iddynt basio eu NVQ.

Nawr mae Amaryllis yn mynd o nerth i nerth, gydag aelodau newydd y tîm yn gwneud argraff enfawr ar gleientiaid.

“Mae’r Prentisiaid yn tyfu eu cwsmeriaid eu hunain ac yn ased gwych i’r salon, sy’n fuddiol i’n busnes,” meddai Tiffany.

“Ni allem fod heb ein Prentisiaid, rydym wrth ein bodd yn eu gweld yn tyfu ac yn datblygu.”

Byddai’r Cyfarwyddwr “yn bendant” yn argymell ACT a’r rhaglen Brentisiaethau i fusnesau eraill, gan ei fod yn ffordd wych o lenwi bylchau mewn sgiliau!”

Mae Tiffany yn credu cyn belled â bod busnesau’n buddsoddi yn eu Prentisiaid drwy hyfforddiant rheolaidd a chymorth parhaus, yna gallant fod o fudd mawr i unrhyw fusnes.

Ychwanegodd: “Mae angen Prentisiaid yn ein diwydiant!”

Mae prentisiaethau’n ffordd ddelfrydol o uwchsgilio eich gweithlu presennol yn ogystal â ffordd gost-effeithiol o ddenu talent newydd. Os ydych yn gyflogwr o Gymru, cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallech chi a’ch gweithwyr elwa ar amrywiaeth o gyfleoedd a ariennir gan y Llywodraeth a chymwysterau achrededig!

Rhannwch