16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Medi 2024 / Blog Company

Mae dysgwr iaith brwd o’r Iseldiroedd wedi ennill gwobr fawr am ei medr gyda’r Gymraeg yn y gwaith.

Cafodd Angelina Mitchell, sy’n gweithio i’r prif ddarparwr hyfforddiant Cymraeg ACT, ei henwi yn Ddysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn (lefel Ganolradd). Derbyniodd yr anrhydedd fel rhan o Wobrau Cymraeg Gwaith Cenedlaethol 2022, sy’n cael eu rhedeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn wreiddiol o Groningen yng ngogledd yr Iseldiroedd, symudodd i Gaerdydd gyda’i gŵr bellach – siaradwr Cymraeg rhugl o Bwllheli, yng Ngwynedd.

Dywedodd: “Rwy’n hapus iawn i ennill y wobr hon. Rwyf wrth fy modd yn dysgu ieithoedd yn gyffredinol, gan fy mod yn gallu siarad pum iaith arall hefyd.

“Dwi hefyd wrth fy modd yn gweld ymateb pobl pan dwi’n dechrau siarad Cymraeg. Maen nhw bob amser yn ymddangos yn hapus ac yn falch iawn bod merch o’r Iseldiroedd fel fi yn gwneud yr ymdrech i ddysgu eu hiaith!”

Ar gyfer ACT, mae Angelina yn Sicrwydd Ansawdd Mewnol mewn Gwasanaethau Digidol, lle mae’n cefnogi cydweithwyr i ddarparu ystod eang o gyrsiau mewn Dylunio Digidol, Marchnata Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol. Yn ogystal, mae hi hefyd yn rheoli ei llwyth achosion ei hun o ddysgwyr, rhai ohonynt yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf rhugl. Mae Angelina yn cefnogi’r dysgwyr hyn yn fedrus i gwblhau eu cymhwyster cyfan yn y Gymraeg.

Bob amser yn awyddus i gaboli ei Chymraeg, mae hi’n dal i fynychu dosbarthiadau ddwywaith yr wythnos ac yn cynghori unrhyw un sydd eisiau dysgu’r iaith i gofrestru ar gyfer cwrs gyda Dysgu Cymraeg neu Nant Gwrtheyrn.

Ychwanegodd: “Mae’r tiwtoriaid hyn yn wych a byddwch chi’n cwrdd â phobl anhygoel sydd ag angerdd tebyg – yr Iaith Gymraeg!

“Rwy’n mwynhau mynd i’r dosbarthiadau hyn yn fawr gan ein bod ni i gyd yn helpu ein gilydd i wella ein sgiliau iaith. Ar ben hynny, rwy’n dal i ddefnyddio apiau fel Duolingo a Memrise i ddysgu mwy o eirfa. Rwy’n gweld y rhain yn ddefnyddiol iawn a byddwn i’n bendant yn eu hargymell!”

Eisiau gwybod mwy?

Mae ACT yn cynnig ystod eang o gymwysterau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi a’ch busnes i addasu, uwchsgilio ac aros flaen y gad. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am eich opsiynau, mae ein Cynghorwyr Hyfforddi wrth law i roi arweiniad arbenigol.

Cysylltwch â ni heddiw ar 029 2046 4727 neu e-bostiwch info@acttraining.org.uk

Rhannwch