16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Learners

Mwynhaodd grŵp o bobl ifanc Wcrainaidd, sy’n astudio gydag ACT, daith hynod ddiddorol i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Fel rhan o Ddiwrnod Cyfoethogi arbennig, buont yn archwilio’r safle treftadaeth eang, sy’n cynnwys mwy na 40 adeilad traddodiadol o wahanol gyfnodau yn hanes Cymru, gan gynnwys tai, fferm, ysgol, capel a chastell hyd yn oed. Yn ystod yr ymweliad ddydd Mercher Medi 21, cawsant gipolwg ar fywyd Cymru ar draws sawl cenhedlaeth.

Mae Dyddiau Cyfoethogi yn rhan o raglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) a gyflwynir gan ACT. Mae TSC+ yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru rhwng 16-18 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser. Dyluniwyd y rhaglen i gwrdd ag anghenion y dysgwr unigol a chynigir lwfans hyfforddi wythnosol o hyd at £55 yr wythnos a chymorth wedi’i deilwra i ddod o hyd i waith, cymhwyster sy’n benodol i’r llwybr a mwy. Mae’r Dyddiau Cyfoethogi yn gweithredu fel porth i alluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn profiadau na fydden nhw fel arfer yn cael cyfle i wneud. Drwy ddarparu mynediad at weithgareddau a gymerir yn ganiataol gan gyfoedion mwy breintiedig, maent yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Maent hefyd yn cefnogi datblygiad sgiliau’n ymwneud â gwaith, megis gwaith tîm a chyfathrebu.

Aeth y dysgwyr i Sain Fagan gyda’i Hyfforddwr Dysgu Diana Oleksiuk, sydd ei hun yn wreiddiol o’r Wcráin a ddechreuodd weithio gydag ACT ychydig fisoedd yn ôl. Fel y dysgwyr, daeth i Gymru yn dilyn dechrau’r rhyfel, ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin.

Dywedodd y myfyrwyr Wcrainaidd – sy’n dysgu Saesneg ar ein rhaglen ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) – eu bod i gyd wedi mwynhau’r golygfeydd Cymraeg gwych yn Sain Ffagan.

Dywedodd Tamara Podolska,16:

Roedd yna hen adeiladau o bob rhan o Gymru, a oedd wedi’u tynnu’n ddarnau a’u hailgodi yn yr amgueddfa. Roedd hi’n braf iawn bod yna hen siopau, fel ein bod ni’n gallu gweld sut oedd hi’n edrych cannoedd o flynyddoedd yn ôl. Roedd e’n cŵl iawn gan ei fod mor ‘vintage’. Gwych iawn!

Ychwanegodd bod adeiladau a golygfeydd hanesyddol Cymru wedi bod yn ei syfrdanu hi yn ystod ei chyfnod byr yma. Aeth ymlaen i ddweud: “Ers dod i Gymru, dwi’n hoffi bod ‘na lawer o gestyll a pharciau hardd. Hefyd, mae ‘na bobl garedig!”

Dywedodd Veronica Nahovna, sy’n 17, bod y daith agoriadol i Sain Ffagan yn uchafbwynt ei hamser gydag ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru. “Dechreuais yn ACT ychydig wythnosau yn ôl ac rwy’n hoff iawn o astudio yma,” meddai. “Yn enwedig, rwyf wrth fy modd yn cymdeithasu gyda phobl newydd, teithio a gwella fy sgiliau Saesneg.”

Meddai’r Hyfforddwr Dysgu Diana Oleksiuk, sy’n hanu o ddinas Chernivtsi, yng ngorllewin Wcráin, bod y dysgwyr wedi’u swyno i allu camu i mewn i orffennol Cymru ar safle’r amgueddfa. Ychwanegodd: “Fe wnaeth taith Sain Ffagan wneud i ni sylweddoli cymaint sydd gan bobl o Gymru ac Wcráin yn gyffredin! Mae’r Cymry yn gyfeillgar a chroesawgar iawn. Roedd yn ddiwrnod hyfryd ac yn un i’w gofio!”

Dywedodd Diana, sydd wedi dysgu ers dros 15 mlynedd, bod y diwrnod positif yn Sain Ffagan wir wedi gwneud iddyn nhw sylweddoli pa mor debyg yw Cymry ac Wcrainiaid, felly maen nhw’n gobeithio gwahodd rhai o drigolion Cymru i Wcráin rhyw ddydd, pan ddaw heddwch.

Dywedodd: “Bydd hi mor braf croesawu pobl o Gymru i Wcráin, unwaith y bydd y rhyfel wedi gorffen, i gymharu traddodiadau a dangos sut mae Wcrainiaid yn byw.

“Mae’n amser anodd iawn nawr, ond rwy’n credu bod e hefyd yn amser llawn cyfle, i ddangos gwahanol ddiwylliannau i bobl ifanc a gwella eu sgiliau iaith.”

I gael mwy o wybodaeth am yr ystod o opsiynau hyfforddiant sydd ar gael yn ACT, cliciwch yma.

Rhannwch