16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Press Release

Mae ACT wedi lansio canolfan ddysgu newydd ar gyfer Gwent mewn ymateb i’r galw cynyddol am ei gwasanaethau yn y rhanbarth.

Mae’r darparwr hyfforddiant blaenllaw yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn i gyrraedd eu potensial trwy raglenni hyfforddiant galwedigaethol a chymwysterau gan gynnwys Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch, hyfforddiant cyflogadwyedd, cyrsiau masnachol byr, a mwy.

Bydd eu canolfan newydd ym Mhont-y-pŵl yn helpu dysgwyr dysgu seiliedig ar waith 16-19 oed gael mynediad at raglen TSC+ Llywodraeth Cymru, lle byddant yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, yn derbyn cymorth lles a mentora ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ‘cyfoethogi’ hwyliog a heriol, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli.

Agorwyd yr adeilad newydd ar Stryd Masnach yn swyddogol gan yr Aelod Seneddol dros Dorfaen, Lynne Neagle, a gafodd gyfle i gwrdd â dysgwyr a staff, gan gynnwys Pennaeth Ymgysylltu a Hyfforddiant Ieuenctid ACT, Leon Patnett.

Dywedodd Leon: “Rydym wrth ein bodd i fod yn agor y safle newydd sbon hwn ym Mhont-y-pŵl fel rhan o’n hehangiad i’n helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc.”

Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae’r cyfuniad o sgiliau, cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr o ran dilyniant gyrfa ym mhob sector, a bydd ein canolfan yn Nhorfaen yn cynnig mynediad at bob llwybr, gan gynnwys Prentisiaethau a lleoliadau drwy gynllun TSC+, er mwyn helpu i gefnogi hyn.

Mae ACT yn darparu cymwysterau ar draws 30 o wahanol sectorau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, o Brentisiaethau Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, i gyrsiau byr mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a llawer mwy.

Yn gynharach eleni, mewn cydweithrediad â CBAC, fe wnaeth ACT hefyd lansio cymhwyster Hunanddatblygiad a Lles i helpu i fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion a’r rhwystrau y mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu, gyda’u canolfan ym Mhont-y-pŵl ar fin cyflwyno’r cymhwyster i helpu dysgwyr ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Yn dilyn ei hymweliad a chanolfan newydd ACT ym Mhont-y-pŵl dywedodd AS Torfaen Lynne Neagle: “Rwy’n falch iawn o weld ACT yn agor eu drysau ym Mhont-y-pŵl. Bydd yn cynnig cyfle gwirioneddol i bobl ifanc 16-19 oed wneud gwahaniaeth i’w bywydau trwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol.”

“Ein pobl ifanc yw ein dyfodol a bydd y cyrsiau hyfforddi a’r cyfleoedd a gynigir gan ACT yn helpu rhai ohonynt i gyflawni’r dyfodol y maent yn eu haeddu.”

Mae TSC+ yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru rhwng 16 a 19 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant llawn amser fel rhaglen hyblyg wedi’i chynllunio o amgylch anghenion y dysgwr unigol.

Mae ACT yn cynnig cymorth cynhwysfawr i ddysgwyr, gan gynnwys lwfans hyfforddi wythnosol o hyd at £60, lwfans bwyd dyddiol, a chymorth gyda chostau teithio. Yn ogystal, mae dysgwyr yn cael cymorth i ddod o hyd i waith, cymwysterau sy’n benodol i lwybrau galwedigaethol, ac adnoddau eraill i’w helpu i lwyddo.

Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT: “Mae’r ganolfan ACT newydd hon ym Mhont-y-pŵl yn mynd i’n helpu i ddod â chyfleoedd pwysig i hyd yn oed mwy o bobl ifanc sydd am dyfu a datblygu’r sgiliau a’r hyder i symud ymlaen at ddysgu uwch neu gymryd eu cam cyntaf i fyd gwaith.

“Rwy’n falch iawn o fy nghydweithwyr sydd wedi sefydlu’r cyfleuster hwn a gwn fod y tîm ym Mhont-y-pŵl yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hyd yn oed mwy o ddysgwyr yn y rhanbarth i’w cefnogi i ddilyn eu gyrfaoedd dewisol”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Hyfforddiant ACT a’r cymwysterau y mae’n eu darparu, ewch i  https://acttraining.org.uk/

Rhannwch