16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Newyddion

Mae ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, wedi ennill gwobr fawreddog yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru y mis hwn.

Gwnaeth ACT, sy’n arddel y genhadaeth ‘gwella bywydau trwy ddysgu’, gipio’r wobr Lles yn y Gweithle yn y seremoni ar yr 2il o Hydref.

Sefydlwyd y gyfundrefn ym 1988 ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i weithio gyda mwy na 14,000 o gyflogwyr, gan helpu 75,000 o ddysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfa trwy brentisiaethau, darpariaeth ysgolion a chynlluniau hyfforddi. Ond roedd y wobr yn cydnabod ymroddiad y cwmni i’w staff yn benodol, gan ddathlu’r rhaglenni a’r diwylliant sydd ar waith i hyrwyddo gwell iechyd meddwl a lles o fewn ACT fel gweithle.

Mae hapusrwydd ac ymgysylltiad staff yn un o’i werthoedd craidd ac yn nod strategol i’r busnes. Yn gymaint felly bod gan ACT swyddog lles ac ymgysylltu staff dynodedig sy’n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth gyfannol i staff yn ogystal â sicrhau bod gan y busnes ymagwedd gyson at les.

Yn y gwobrau, canmolwyd ACT am ei ymrwymiad i fentrau lles gan gynnwys paneli cynghori staff rheolaidd, polisi drws agored gwirioneddol gyda’i gyfarwyddwyr, a nifer o gynlluniau a chyrsiau i annog staff i gymryd amser allan o oriau gwaith rheolaidd er mwyn gwella a gofalu am ei hunain.

Nid dyma’r tro cyntaf i ACT gael ei gydnabod am ei ymroddiad i les staff. Mae’r sefydliad wedi cael ei enwi’n ymhlith y 100 lle gorau i weithio yn y Sunday Times yn olynol yn ogystal â chynnal achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl Platinwm am nifer o flynyddoedd.

Wrth siarad am ffocws a dull gweithredu ACT o ran lles, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Richard Spear: “Mae’n wych cael ein cydnabod am ein hymdrechion mewn rhan mor bwysig o fywyd gwaith bob dydd. Efallai ei fod yn rhywbeth amlwg ond rydym ni yn ACT yn credu, os yw staff yn dod i mewn i’r swyddfa yn hapus, yna byddant yn gwneud ei gorau glas. O gofio ein bod yn gweithio gyda dysgwyr, mae hyn yn arbennig o bwysig nid yn unig i’r staff a’r busnes ond i’r gymuned rydym yn ei wasanaethu.

“Rydym yn adolygu ac yn monitro effeithiolrwydd ein mentrau lles yn gyson ac, er bod y wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o’n hymrwymiad, rydym bob amser yn ymdrechu i wneud mwy i’n staff a’n dysgwyr.

Rhannwch