16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Newyddion

Mae ALS Training yn falch o gyhoeddi eu bod bellach yn gallu cynnig hyfforddiant cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain (IAP) wedi’u hariannu’n llawn mewn partneriaeth â Signature. 

Nod y cwrs yw pontio bylchau cyfathrebu a chefnogi cyflogwyr a gweithwyr i greu amgylchedd gwaith mwy amrywiol a hygyrch. Gyda dros 500,000 o bobl yng Nghymru wedi colli eu clyw, does dim modd gorbwysleisio arwyddocâd hyfforddiant o’r fath. 

Caiff cyfranogwyr eu haddysgu trwy gyfuniad o wersi wyneb yn wyneb, hunan-astudio ac adnoddau ar-lein, gan ddarparu dysgu cyfunol a hyblyg sy’n gweddu i’w diwrnod gwaith. Mae sesiynau gyda’r nos ar gael i gyd-fynd ag amserlenni unigolion a busnesau. Mae’r hyfforddiant hwn ar gael ar Lefel 1, 2 a 3 trwy gyllid Addysg Bellach Rhan Amser, yn amodol ar gymhwysedd, i bobl sy’n dymuno dysgu iaith newydd gyda’i gramadeg a’i thafodiaith unigryw ei hun. 

Does dim cyfyngiad ar ddefnydd IAP. Mae’n offeryn ar gyfer cyfathrebu â’r gymuned fyddar ond gellir ei defnyddio hefyd fel mesur Iechyd a Diogelwch ac fel dull cyfathrebu pan nad Saesneg yw’r iaith a rennir.  

Mae manteision caffael hyfedredd IAP hefyd yn ymestyn y tu hwnt i ddatblygiad personol; gan effeithio ar sgiliau’r gweithlu, darpariaeth gwasanaeth cwsmer, a hyfforddiant Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant mewnol.  

Meddai Fiona Argent, Cyfarwyddwr Darpariaeth ALS, sydd newydd ei phenodi, “Credwn fod y cwrs hwn yn arwyddocaol i’n twf fel sefydliad ac i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae ein cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn ac maent yn hyblyg er mwyn gweddu at anghenion unigolion a sefydliadau.” 

Dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr Bwrdd ALS, “Mae’r cyfle newydd, a ariennir yn llawn, i ddysgu IAP yn adlewyrchiad o’r ffordd y mae ALS yn ymgysylltu â sefydliadau a chyrff dyfarnu fel Signature er mwyn diwallu gofynion cyflogwyr a dysgwyr yn lleol, ac mae’n allweddol i gynnal safle ALS fel darparwr hyfforddiant blaenllaw.” 

Bydd hyfforddiant IAP nid yn unig yn darparu dealltwriaeth o strwythur a defnydd ymarferol iaith arwyddion, ond bydd hefyd yn datblygu gwerthfawrogiad o hanes diwylliannol gyfoethog yr iaith weledol hon. 

Cymerwch y cam cyntaf heddiw a chofrestrwch i ddarganfod mwy am ein cymwysterau IAP. 

*Mae holl gyllid ALS yn amodol ar gymhwysedd  

Rhannwch