16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Cwmni Dysgwyr Newyddion

Yn ACT, mae sicrhau bod gan ein dysgwyr lais nid yn unig yn allweddol i’w datblygiad hwy ond hefyd i’n datblygiad ni fel darparwr addysg.

Un ffordd rydym yn cael gwybod sut y mae’r dysgwyr yn datblygu, sut maen nhw’n teimlo am fywyd yn ACT a sut y gallwn ni wella yw trwy ein Cynrychiolydd Dysgwyr, Lily Pandeles.

Rôl Lily yw eirioli dros ddysgwyr ar draws holl raglenni ACT, mewn ysgolion a chyda chyflogwyr.

Crëwyd rôl y cynrychiolydd dysgwyr i roi llais i bob dysgwr ar draws ACT. Gan eu bod wrth wraidd yr hyn y mae ACT yn ei wneud, roedd yn bwysig sicrhau bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn y sefydliad a’r dysgwyr, fel bod y dysgwyr yn gallu rhoi gwybod i ni beth sy’n gweithio, ac i’r gwrthwyneb, beth y gallwn ei wneud yn well.

Mae gan y rôl hefyd gysylltiadau cryf ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM), a Chymdeithas Genedlaethol Prentisiaid (NSOA), sy’n sicrhau bod llais dysgwyr ACT yn cael ei glywed ar raddfa leol a chenedlaethol, gan gyfrannu at welliannau ym mhrofiadau dysgwyr.

Mae’r cysylltiadau hyn hefyd yn galluogi dysgwyr ACT i gyfrannu at ymchwil leol a chenedlaethol. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â chyflogau prentisiaeth, ac anghenion lles ac iechyd meddwl prentisiaid.

Mae Lili’n gweithio ar draws dau dîm – Marchnata a Chyfathrebu ac Ansawdd.

Yn y tîm marchnata, mae Lily yn hyrwyddo rhaglenni Twf Swyddi Cymru + a Phrentisiaethau ACT i ysgolion. O fewn y tîm ansawdd, hi yw’r cyswllt rhwng y timau darparu, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae ei rôl yn allweddol er mwyn galluogi ACT i wella’r profiadau, y gefnogaeth a’r ddarpariaeth y mae’n eu cynnig.

Wrth siarad am ei phrofiad o weithio mewn dau dîm, dywedodd Lily: “Gall fod yn heriol gan nad oes dwy wythnos yr un fath, ond rwy’n teimlo bod hyn yn gyffrous ac ysgogol.

“Mae pob diwrnod yn wahanol. Gallwn fod mewn ffair yrfaoedd un diwrnod, yn cwblhau fforymau gyda dysgwyr yn un o’n canolfannau y tro nesaf, neu yn y brif swyddfa yn cael cyfarfod.

“Rwy’n mwynhau amrywiaeth y rôl a gallu gweithio’n uniongyrchol gyda dysgwyr.”

Wrth siarad am her fwyaf y rôl, tynnodd Lily sylw at y rheswm pam y sefydlwyd ei rôl yn ACT yn y lle cyntaf. Dywedodd:

“Mae llais y dysgwyr yn bwysig a dwi yma i helpu hwyluso newid positif – mae’n cael ein dysgwyr TSC+ i ddeall pa mor bwysig ydyn nhw yn hyn o beth yn heriol”

Dywedodd Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus ACT: “Fel ein Cynrychiolydd Dysgwyr , mae Lili’n gweithio ar draws pob maes yn ACT a gyda’n darparwyr partner, gan ein helpu i siapio sut a beth rydym yn gwneud. Mae gwaith Lili yn ein cynorthwyo i ddeall pa mor effeithiol mae ein prosesau’n gweithio sy’n ein helpu i benderfynu ar yr hyn sydd angen i ni ei newid.”

Wrth edrych ymlaen at yr hyn y mae’n gobeithio cyflawni yn y rôl, rhannodd Lily ei dymuniad bod ffocws mwy amlwg ar y rôl ym mhob canolfan ACT a’i fod yn gweithredu fel pont i gryfhau’r berthynas rhwng dysgwyr a staff.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am Lily a beth mae dysgwyr ACT yn gwneud drwy ddilyn Lily ar Instagram @ACT_LearnerVoice neu ar X @ACTLearnerVoice.

Rhannwch