16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Blog

Gyda chynnydd yn y nifer o offer cynhyrchiol AI bu llawer o drafod, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf, ynglŷn â beth fydd yr effaith ar fyd gwaith.

Er bod y cyhoedd wedi dechrau defnyddio AI yn fwy eang yn ystod y misoedd diwethaf (does dim ond angen edrych ar y cyfoeth o ddelweddau sy’n cael eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol i weld hyn) mae AI wedi cael ei ddefnyddio fel offeryn busnes ers amser maith. Ers degawdau a dweud y gwir.

Efallai nad yw manteision AI ar gyfer eich busnes yn amlwg, yn enwedig os nad ydych chi yn y sector digidol neu dechnoleg, ond gellir gweithredu AI mewn unrhyw sefydliad er mwyn gwella effeithlonrwydd, arbed arian a hyd yn oed gynyddu arloesedd.

Nid yw ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, yn newydd i’r gêm AI chwaith. Rydym yn profi y gellir gweithredu’r dechnoleg hon waeth beth fo’r diwydiant.

Yn ACT rydym wedi defnyddio ChatGPT yn ein tîm Datblygu Systemau. Mae’n helpu’r tîm i ddatrys problemau fel darganfod pam nad yw darn penodol o god yn gweithio. Mae hyn yn caniatáu iddynt gwblhau tasgau’n fwy effeithlon, gan ryddhau ein staff i wneud gwaith mwy pwysig.

Rydym hefyd yn defnyddio’r rhaglen wrth recriwtio. Fe’i defnyddir i greu tasgau a chwestiynau cyfweliad effeithiol, yn seiliedig ar feini prawf allweddol y swydd, gan greu cwestiynau syml ond effeithiol sydd wedi’u cynllunio i ddysgu mwy am wybodaeth a phrofiad yr ymgeiswyr.

Mae ein tîm Cwricwlwm a Datblygu Adnoddau yn ei ddefnyddio i’w hysbrydoli ac i oresgyn ‘tudalen wag’ ar ddechrau prosiect. Gellir rhoi’r canlyniadau dysgu i’r offeryn a gofyn iddo greu syniadau ar gyfer sesiwn neu welliannau i’r adnoddau presennol.

Wrth siarad am ddylanwad deallusrwydd artiffisial yn y sector addysg a’r byd gwaith ehangach, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT Richard Spear:

Mae AI yn ddatblygiad hynod bwerus a chyffrous sydd â’r potensial i ychwanegu hyd yn oed mwy o werth at y gwasanaethau rydym yn darparu i ddysgwyr.

“Ar hyn o bryd rydym yn datblygu hyfforddiant i helpu staff a dysgwyr ddeall sut i ddefnyddio AI yn synhwyrol ac yn foesegol.

“Yn y pendraw, mae ein gwaith yn ymwneud â phobl ac ni fydd hynny’n newid. Nid yw AI yn gallu ysgogi, dangos empathi, hyfforddi nac annog ein dysgwyr.

“Dydw i ddim yn gweld bod AI yn fygythiad i swyddi, ond yn rhywbeth sy’n gallu ein helpu i ddatrys problemau, cynhyrchu adnoddau a bod hyd yn oed yn fwy effeithlon.”

Ffordd arall y mae technoleg yn newid y sector addysg, yn benodol yn y ffordd y caiff ei gyflwyno, yw trwy addysgu hybrid.

Arweiniodd y pandemig at gynnydd mewn dysgu o bell ac er bod llawer ohonom wedi ceisio gwneud ein gorau gyda galwadau fideo, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gall ystafell ddosbarth neu fan cyfarfod anghysbell ei ddarparu.

Yn ddiweddar, mae ACT wedi buddsoddi mewn ystafell ddigidol, gan gyfuno technoleg o’r radd flaenaf a lleoliad addysgu.

Un o nodweddion yr ystafell yw camera sy’n cael ei reoli trwy ystumiau llaw. Gyda hwn gall y cyflwynydd neu’r siaradwr gyflwyno tra’n symud o gwmpas yr ystafell a bydd y camera arloesol yn dilyn eu symudiadau. Gall hefyd ffocysu ar wahanol bobl, yn ogystal â chloi ar y bwrdd gwyn er mwyn rhannu gwybodaeth ddi-dor.

Mae’r ystafell yn hawdd i’w defnyddio, gan fod dim ond angen meicroffon llabed a hyfforddiant sylfaenol i lywio’r system.

Dywed Sam Holland, Rheolwr Datblygu’r Cwricwlwm ACT: “Mae’r ystafell ddigidol yn fuddsoddiad mewn darpariaeth gynhwysol. Mae’n golygu bod dysgu’n fwy hyblyg a gall dysgwyr gychwyn ar gwrs sy’n cyd-fynd â’u hymrwymiadau personol.

“Pryd bynnag y cyflwynir gweithdai yn yr ystafell ddigidol, fe’u cyflwynir mewn ffordd hybrid. Felly, p’un a ydych chi’n mynychu’n bersonol neu o’ch cartref, rydych chi’n dal i gael yr un profiad.”

Rhannwch