16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Dysgwyr

Mae dysgwr cyfrifeg sy’n astudio ar gyfer ei gymwysterau gydag ACT yn myfyrio ar flwyddyn o lwyddiannau ar ôl cipio aur mewn cystadleuaeth genedlaethol.

Enillodd Gareth Williams, ynghyd â dau ddysgwr arall o ACT, fedal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024.

Cymerodd Gareth ran yng nghategori cyfrifeg y gystadleuaeth, gan ei fod ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ei gymhwyster AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg). 

Yn ystod o’r ornest, rhoddwyd tasgau i gystadleuwyr oedd yn adlewyrchu agweddau nodweddiadol cyfrifoldebau pobl sy’n astudio cadw cyfrifon. Dyluniwyd yr her i brofi sgiliau cyflogadwyedd allweddol eraill hefyd gan gynnwys ansawdd cyfathrebu ysgrifenedig a’r gallu i flaenoriaethu tasgau a gwaith tîm.

Creodd Gareth a’r tîm argraff arbennig ar y beirniaid am y ffordd y gwnaethant ffocysu ar gwblhau’r tasgau yn effeithlon.

“Roedden ni’n dîm o dri oedd yn cystadlu yn erbyn tua deg tîm ar y diwrnod,” eglurodd Gareth. “Roedd y gystadleuaeth wedi ei rhannu’n ddwy ran, yn y rhan gyntaf roedd gofyn i ni gwblhau chwe thasg amrywiol yn eu cymhlethdod ar bynciau yr oeddem yn gyfarwydd â nhw.  Yn yr ail ran roedd angen gwneud cyflwyniad byr o flaen panel.  

“Roedd y gystadleuaeth yn anodd iawn i bob un ohonom, ond fe lwyddon ni gwblhau’r gwaith i safon uchel iawn.  Roeddwn i wrth fy modd pan enillon ni’r wobr aur.”

Heb orffwys ar eu rhwyfau am yn hir, mae’r triawd bellach yn edrych ymlaen at rywbeth mwy.

Ychwanegodd Gareth: “Yn fuan wedi i ni ennill, crybwyllwyd y syniad o geisio am WorldSkills UK.”

Mae ef a’r tîm wedi cwblhau’r rowndiau rhagbrofol ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol yn ddiweddar ac maent yn aros i gael gwybod os ydynt wedi cyrraedd y rownd derfynol pan gyhoeddir y rhestr fer ddechrau mis nesaf.

Er ei fod yn dalent genedlaethol – ac yn fyd-eang erbyn hyn o bosibl, dim ond ers dwy flynedd y mae Gareth wedi bod wrthi.

“Rydw i wedi gweithio ym maes rheoli credyd ers rhai blynyddoedd ac roeddwn i’n awyddus i ennill cymwysterau cyfrifeg ers peth amser,” meddai Gareth. “Cododd y cyfle yng nghanol 2022 i ddechrau cymhwyster gydag AAT a dwi heb edrych yn ôl- rwyf wedi dysgu cymaint ag yn parhau i ddysgu.

“Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau technegol ac egwyddorion cyfrifeg ond y sgil sydd wedi fy synnu fwyaf yw gweithio mewn tîm – yn enwedig yn ystod y cystadlaethau hyn. Rwyf wedi darganfod bod y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hynod bwysig ac mae’n rhywbeth sydd wedi gwella ers cymryd rhan yn y cystadlaethau hyn.”

Mae Gareth bellach yn gweithio tuag at gwblhau ei gymhwyster AAT Lefel 3, ac mae ganddo un uned yn weddill.  Yna mae’n gobeithio canolbwyntio ar gymhwyster Lefel 4, gyda’r bwriad o symud ymlaen at gymhwyster ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig).

Dywedodd Karen Richards, cydlynydd AAT yn ACT: “Mae ein tîm AAT yn hynod falch o gyflawniadau’r tîm. Mae eu hagwedd at ddysgu a’u cefnogaeth at ei gilydd wedi bod yn rhagorol. Mae mor dda clywed eu bod wedi elwa trwy ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn tîm a datrys problemau, ill dau yn sgiliau hanfodol yn y gweithle ac ar gyfer astudiaethau pellach.”

Rhannwch