Gydag ACT, mae’r mantra ‘gwella bywydau trwy ddysgu’, yn ymestyn llawer pellach nag addysg a hyfforddiant yn unig. Rydym am i ddysgwyr ffynnu yn eu hastudiaethau ond hefyd magu hyder a fydd o gymorth iddynt yn bersonol ac yn broffesiynol.
Mae Lucy Davies yn ddysgwr Twf Swyddi Cymru + o Aberdâr. Daeth i ACT drwy eu rhaglen Paratowch, sydd wedi’i hanelu at ddysgwyr sydd angen lle tawelach i ddechrau dysgu, yn ogystal â rhywfaint o gymorth lles ychwanegol.
Nid oedd Lucy, sydd ag anawsterau clyw, wedi cael profiad da tra yn yr ysgol ac roedd weithiau’n teimlo ei bod yn cael ei hanwybyddu. Mae Lucy wedi bod yn rhannol fyddar ers iddi gael ei geni, sydd wedi effeithio ar ei chyfnod ym myd addysg.
Pan ddechreuodd yn ACT, roedd Lucy yn aelod tawel o’r dosbarth ac roedd angen anogaeth arni i ymuno a chymryd rhan yn y gweithgareddau dydd i ddydd. Ond, dros amser, llwyddodd i ddod i mewn i’r ganolfan yn hyderus a dechreuodd ddangos ei phersonoliaeth a datblygu ei steil dysgu.
Dywedodd tiwtor Lucy, Becky Jones:
“Ers hynny mae Lucy wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd gymorth clyw newydd ychydig fisoedd yn ôl ac mae hyn wedi ei helpu i symud ymlaen, gwneud ffrindiau a mwynhau’r holl weithgareddau sydd ar gael.”
“Mae Lucy wedi symud i linyn ymgysylltu‘r rhaglen ar ôl cwblhau’r rhaglen Paratowch yn llwyddiannus ac mae ar fin dechrau lleoliad gwaith mewn parlwr twtio cŵn, ac mae’n gyffrous iawn amdano. Mae Lucy yn hoff o anifeiliaid ac mae ganddi lawer o anifeiliaid anwes gartref felly bydd hi’n gartrefol yn y lleoliad.”
Gan fyfyrio ar ei thaith hyd yn hyn, ychwanegodd Lucy: “Rwyf wir wedi mwynhau fy amser yma yn ACT, ac rwyf wedi derbyn llawer o gefnogaeth nad wyf erioed wedi’i chael o’r blaen, yn enwedig gan Becky fy nhiwtor.
“Mae ACT wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m hyder, sydd wedi fy helpu cymaint gyda fy mywyd bob dydd. Mae gwneud ffrindiau newydd wedi gwneud fy nyddiau yn ACT hyd yn oed yn well, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb yn y ganolfan.
“Fyddwn i byth wedi cyflawni hanner y pethau rwyf wedi gwneud heb eu cariad a’u cefnogaeth.”