16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr

Mae un o fyfyrwyr ACT wedi ennill gwobr uchel ei bri sy’n cydnabod y gwellhad yn ei sgiliau digidol.

Yn ddiweddar, derbyniodd Laura Riley, a gyflawnodd brentisiaeth Ymarferwyr Dysgu Digidol gyda’r darparwr hyfforddiant, Wobr Myfyriwr Digidol Jisc am Fabwysiadu Technoleg Addysg yn Gadarnhaol. 

Mae’r teitl yn gyflawniad enfawr i Laura, a gofrestrodd yn wreiddiol ar gyfer ei chymhwyster pan enillodd rôl cefnogaeth ddigidol yn yr ysgol y mae’n gweithio ynddi. 

Ar y pryd, roedd sgiliau digidol Laura yn wan iawn ac roedd hi’n awyddus i wneud gwelliannau er mwyn iddi allu cefnogi ei myfyrwyr yn well gyda thechnoleg ddigidol. 

Mae Laura yn cael ei disgrifio fel aelod o staff ‘hyfryd’ ac ‘ymroddedig’, sydd wedi gweithio fel cynorthwyydd addysgu yn uned cyfeirio disgyblion Canolfan Cyflawni’r Bont am y 12 mlynedd diwethaf. 

Byddai’r lle yn mynd ar chwâl hebddi,” meddai Amanda Veater, Rheolwr y Ganolfan.

“Mae Laura yn datblygu perthynas ardderchog gyda’i disgyblion a’i chydweithwyr ac mae’n aelod poblogaidd o staff. Mae Laura yn hynod drefnus ac yn rheoli ei hamser yn dda iawn. Mae pob un ohonom yn falch iawn o’i chyflawniadau.”

 Ychwanegodd Jolene Plant, Aseswr Ymarferwyr Dysgu Digidol ACT: “Ar ddechrau ei chwrs, roedd hyder Laura yn gyffredinol isel ond roddodd cyflawni’r cymhwyster a gallu rhyngweithio â dysgwyr eraill hwb enfawr i Laura. 

“Roedd yn anhygoel gweld sut y tyfodd ei hyder dros y 18 mis yr oedd hi ar y rhaglen.”

Mae’r brentisiaeth Ymarferwyr Dysgu Digidol wedi’i hanelu at unrhyw un sydd mewn rôl addysgu neu hyfforddiant. Mae’n ymdrin â llawer o agweddau allweddol ar ddysgu gan ddefnyddio technoleg ddigidol ac yn archwilio amrywiaeth o wahanol gymwysiadau er mwyn arfogi gweithwyr addysg proffesiynol yn well ar gyfer y dirwedd newidiol y maent yn gweithio ynddi.

Gallwch ddysgu mwy am y cymhwyster drwy wylio stori’r dysgwr Donna yn y fideo isod.

Dysgwch ragor am y cwrs fan hyn.

Ymarferwyr Dysgu Digidol - Donna

Mae’r Brentisiaeth Ymarferwyr Dysgu Digidol yn ymdrin â llawer o agweddau allweddol ar ddysgu gan ddefnyddio technoleg ddigidol.

Rhannwch