16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Medi 2024 / Blog

Mae’r aros ar ben, mae canlyniadau’r arholiadau wedi cyrraedd ac erbyn hyn mae’r arholiadau TGAU yn swyddogol y tu ôl i chi. Mae’n gyfnod cyffrous, ond i lawer mae hefyd yn gyfnod o ansicrwydd, sy’n codi’r cwestiwn ‘beth yw fy ngham nesaf?’

Efallai eich bod yn meddwl nad oes llawer o ddewis rhwng addysg ffurfiol neu brentisiaeth ond mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, yn cynnig opsiwn arall.

Efallai eich bod yn barod i adael yr ystafell ddosbarth ond angen rhywfaint o gefnogaeth  i ddod o hyd i rôl sy’n iawn i chi – gall rhaglen Twf Swyddi Cymru + (TSC+), rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, bontio’r bwlch rhwng yr ysgol a’r gwaith.

Mae TSC+ yn rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth, sefydlu eu busnes eu hunain neu ennill swydd eu breuddwydion.

A gorau oll,  byddwch yn ennill wrth i chi ddysgu – mae myfyrwyr hefyd yn derbyn cyflog o hyd at £60 yr wythnos ar ben lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos.

Mae TSC+ wedi’i rannu’n ddau linyn. Mae’r llinyn  ‘ymgysylltu’ yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sy’n ansicr o beth maen nhw am ei wneud yn y dyfodol, neu sydd angen rhywfaint o gymorth i ddeall yr hyn y gallent fod yn gweithio tuag ato.

Mae ‘Datblygu’ ar gyfer dysgwyr sydd â syniad bras o’r hyn y maent am ei wneud neu sydd â diddordeb penodol neu lwybr gyrfa mewn golwg. Yn ogystal â gweithgareddau yn y ganolfan, gall y rhai sydd ar y llinyn Datblygu ymgymryd â lleoliadau gwaith, prosiectau o fewn y gymuned neu waith gwirfoddol.

Bydd y cyfleoedd hyn yn adlewyrchu’r maes y mae gennych ddiddordeb ynddo, a chewch gyfle i brofi amrywiaeth o weithgareddau sy’n adlewyrchu sut brofiad yw gweithio mewn rolau proffesiynol penodol.

Mae cyrsiau TSC+ yn cynnwys gofal anifeiliaid, adeiladwaith, moduro, iechyd a gofal cymdeithasol a mwy, felly rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth at eich dant.

Dywed Leon Patnett, pennaeth ymgysylltu a hyfforddiant ieuenctid ACT, sy’n goruchwylio TSC+: “P’un a gawsoch chi’r graddau roeddech chi’n gobeithio amdanynt ai peidio, mae heddiw yn garreg filltir anhygoel ac fe ddylech fod yn falch o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni.

“Mae’n bwysig cofio nad oes angen i chi fod wedi datrys y cyfan ar hyn o bryd – mae’n iawn archwilio gwahanol opsiynau a gweithio pethau allan wrth i chi fynd yn eich blaen.

“Mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru + wedi’i hadeiladu i’ch datblygu yn ôl eich anghenion addysg, dysgu a lles.

“Ein nod yw datblygu pob dysgwr i fod yn unigolion iach, hyderus ac yn fyfyrwyr uchelgeisiol, galluog.

“Rydyn ni wedi edrych ar y meysydd lle mae prinder sgiliau ac sydd â swyddi gwag ac wedi dylunio’r hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod gan bawb y siawns orau o gael gwaith yn y dyfodol.”

Os hoffech ddysgu mwy am raglen Twf Swyddi Cymru + gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion a chyrsiau yma.

Rhannwch