16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr

Mae un o ddysgwyr ACT a ddaeth i’r DU yn dilyn dechrau’r gwrthdaro yn Wcráin wedi cael ei derbyn i Brifysgol Caerdydd.

Roedd cyn-ddysgwr ESOL, Veronika Makarkina, wedi ennill nifer o gymwysterau yn Wcráin, ond nid oeddent yn cael eu cydnabod gan brifysgolion y DU. Heb ddigalonni cyflawnodd Veronika gymhwyster Cymhwyso Rhif ac ardystiad Lefel 2 Cyfathrebu, tra hefyd yn paratoi ar gyfer ei phrofion IELTS (System Ryngwladol Profi Iaith Saesneg).

Er gwaethaf ei llwyddiannau, ni fu’r llwybr yn llyfn.

“Pan gyrhaeddon ni’r DU am y tro cyntaf, roedd gen i gymaint o ofn siarad â phobl fel na allwn hyd yn oed ddweud ‘diolch’ neu ‘helo’ heb deimlo fy mod i’n gwneud camgymeriad.

“Rhoddais hwb i fy hyder yn ACT trwy siarad â myfyrwyr a thiwtoriaid eraill, gwneud ffrindiau ac adeiladu fy mherthynas â’r Saesneg.

“Yn y pen draw, cefais ddigon o arweiniad gan Sera a Diana (tiwtoriaid) i wneud cais i’r Brifysgol. Pan wnes i, dywedont fod yn rhaid i mi basio’r arholiad IELTS Academaidd. Edrychais ar y samplau gyda Sera ac fe wnaeth hi jocian na fyddai hi na llawer o siaradwyr brodorol eraill yn gallu ei basio, felly roeddwn i’n teimlo ychydig yn hapusach y byddai’n iawn rhoi cynnig eto.

“Fe wnaeth fy athrawes Saesneg Sara fy helpu yn fawr i roi hwb i fy hyder. Llwyddais i gredu yn fy hun a phasio’r prawf gyda sgôr anhygoel, yn enwedig pan ddarllenais fod llawer o fyfyrwyr yn cymryd dwy flynedd neu fwy gyda thiwtora, tra fy mod i wedi paratoi ar ei gyfer mewn prin chwe mis ar fy mhen fy hun.  Roeddwn i yn yr Almaen pan gefais fy nghanlyniadau, roeddwn i’n rhy gyffrous a phryderus i edrych arnynt, felly fe roddais fy ffôn i fy ffrindiau yn gyntaf. Fe wnaethon nhw wirio’r canlyniadau a sgrechian fy mod i wedi pasio! Roedd yn deimlad gwych na fyddaf yn anghofio’n fuan, anfonais neges i’r brifysgol a derbyn fy lle. 

“Roedd ac mae fy nhiwtoriaid yn ACT mor falch ohonof, roeddwn i’n teimlo ei fod yn anrhydedd cwrdd â nhw oherwydd fel arall byddwn i wedi aros yn yr unfan ac ni fyddwn yn ddigon hyderus i ddweud ‘diolch’ na ‘helo’.”

Nod Veronika yw astudio ieithoedd yn y brifysgol, gyda’r gobaith o ddilyn gyrfa mewn cysylltiadau rhyngwladol. Gwnaeth gais am dair prifysgol i gyd a chafodd ei derbyn yn ei dewis cyntaf, Prifysgol Caerdydd, i astudio Almaeneg a Japaneg.

“Rwy’n mynd i astudio’n galed fel rydw i’n gwneud fel arfer,” ychwanegodd. “Yn fy nhrydedd flwyddyn rwy’n ystyried mynd i’r Almaen i ddysgu Saesneg i fyfyrwyr Almaeneg a mynd i Japan i astudio fel myfyriwr cyfnewid am weddill y flwyddyn ryngwladol.

“Ar ôl cwblhau fy nghymwysterau, hoffwn ddod o hyd i swydd yn y brifysgol i ddysgu ieithoedd i fyfyrwyr a sut i gredu ynddynt eu hunain. Hoffwn fod yr athro hwnnw sy’n helpu eu myfyrwyr i ddeall y gallant wneud unrhyw beth os ydynt yn gweithio’n galed ac yn mwynhau’r broses.

“Cefais lawer o fewnwelediadau gan fy nhiwtoriaid ac rwyf am efelychu eu dulliau addysgu.”

Dywedodd asesydd ACT, Sera LoveluckFrank: “Roedd Veronika wastad yn bleser pur i’w haddysgu. Roedd ei hymroddiad i hybu ei haddysg a dilyn ei nodau yn rhagorol, a gwnaeth hi ddim gadael i unrhyw beth ei  rhwystro rhag eu cyflawni.

“Rwy’ wrth fy modd ei bod wedi cael lle ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy’n hyderus y bydd hi’n mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych.

“Rwy’n dymuno’r gorau iddi yn ei hymdrechion yn y dyfodol ac rwy’n edrych ‘mlaen i weld y pethau anhygoel y mae hi’n eu cyflawni. Pob lwc gyda phopeth, Veronika!”

Rhannwch