16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Cwmni

Mae ACT wedi ennill gwobr efydd ardystiad Bog Standard Grŵp PHS sy’n graddio cwmnïau ar gynnwys cyfleusterau gwastraff anymataliaeth mewn tai bach dynion.

Mae’r wobr, sydd mewn partneriaeth â Prostate Cancer UK, wedi’i chynllunio i addysgu a sicrhau bod busnesau a’r sector cyhoeddus yn darparu’r cyfleusterau sydd eu hangen ar ddynion i waredu gwastraff anymataliaeth ag urddas.

Er mwyn cyflawni gwobr efydd, rhaid i sefydliadau ddarparu biniau anymataliaeth gwrywaidd yn eu hystafelloedd ymolchi lle gall staff gael gwared â’u gwastraff mewn ffordd ddiffwdan a hylan.

Bydd tua un o bob wyth o ddynion yn datblygu canser y prostad yn ystod eu hoes, sy’n cyfateb i dros 52,000 o ddynion bob blwyddyn yn y DU sy’n cael y diagnosis hwn sy’n newid eu bywydau.

O’r dynion hynny, bydd 65% yn dod yn anymataliol. Er gwaethaf hyn roedd 78% o ddynion yn teimlo’n bryderus am gael mynediad at gyfleusterau gwaredu y tu allan i’r cartref, gyda mwy na hanner (64%) yn dweud eu bod wedi colli digwyddiadau bywyd pwysig oherwydd eu hanymataliaeth.

Dywedodd Emma Page, Rheolwr Cyfleusterau ACT:

“Dylai pawb gael yr hawl i deimlo’n gyfforddus ac yn rhydd o embaras yn eu lle gwaith ac addysg. Mae sicrhau bod gan bawb fynediad i’r cyfleusterau hyn yn beth mor syml ac eto’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’r unigolion sy’n eu defnyddio.”

Ychwanegodd Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus ACT: “Mae hwn yn gam arwyddocaol arall eto o ran hyrwyddo cynwysoldeb ac urddas i bob unigolyn, ac mae’n tynnu sylw at ymrwymiad ACT i sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u hamgylchiadau, yn gallu manteisio ar y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. Mae anymataliaeth yn realiti i lawer o ddynion, yn enwedig y rhai y mae canser y prostad yn effeithio arnynt, a gall y diffyg cyfleusterau gwaredu priodol achosi straen a phryder diangen.

“Mae cynhwysiant ac urddas yn greiddiol i’n gwerthoedd, ac rydym yn cydnabod y gall newidiadau bach, meddylgar yn ein hamgylchedd wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau’r rhai yr effeithir arnynt. Mae darparu cyfleusterau fel y rhain yn parhau i adlewyrchu ein cred bod ein holl weithwyr a dysgwyr/disgyblion yn haeddu mannau lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi.”

Rhannwch