16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Cwmni Dysgwyr

Er bod arddulliau dysgu yn parhau i fod yn bwnc llosg sydd wedi peri dadleuon mewn  addysg ers blynyddoedd lawer, profwyd bod dulliau addysgu amrywiol yn gallu meithrin brwdfrydedd a diddordeb dysgwyr

Nid oes unrhyw ddau ddysgwr y debyg a bydd rywbeth sy’n ysbrydoli un person efallai ddim yn taro deuddeg gydag un arall, sy’n golygu bod gan ddarparwyr ddyletswydd i gynnig amrywiaeth o wahanol ddulliau a phrofiadau sy’n ymgysylltu â dysgwyr y tu hwnt i gyfyngiadau’r gweithle neu’r ystafell ddosbarth.

P’un a yw’n well gan rywun drafod wyneb yn wyneb, gwrando ar bodlediad neu dderbyn deunydd darllen manwl, mae deall bod pob person yn prosesu gwybodaeth mewn ffordd wahanol yn allweddol.

Yn ACT, rydym yn monitro ein darpariaeth yn gyson ac yn gwrando ar adborth dysgwyr i ddod o hyd i ffyrdd arloesol a chreadigol o rannu gwybodaeth a hybu sgiliau.

Dyma rai o’r ffyrdd y mae ACT yn helpu i ymgysylltu â dysgwyr mewn gwahanol ffyrdd.

Ar gyfer aseswyr dan hyfforddiant a staff cyflwyno, bu Kameron Harrhy, datblygwr cwricwlwm ACT, yn cynnal cyfres podlediad adolygu pedair rhan yn ddiweddar.  

Crëwyd y gyfres gyda thîm prentisiaethau Addysg a Datblygiad ACT ac fe’i cynlluniwyd i dywys aseswyr newydd trwy eu cymhwyster. Mae hefyd yn gweithio fel adnodd gloywi i ddarparwyr presennol wella eu sgiliau a’u gwybodaeth.

O fewn ein rhaglenni Twf Swyddi Cymru +, rydym yn sicrhau y gellir arddangos beth mae ein tiwtoriaid yn ei ddysgu mewn lleoliadau ymarferol, go iawn gyda dysgwyr yn cael y cyfle i roi’r wybodaeth y maent wedi’i hennill ar waith.

Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu gweithdai bob pythefnos mewn rhai pynciau, fel trin gwallt. Mae’r gweithdai yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio ochr yn ochr â thiwtoriaid i hogi eu sgiliau mewn lleoliad mwy ymarferol. Mae’n lle gwych i ofyn cwestiynau, ymarfer dulliau newydd a derbyn dilysiad am y sgiliau y maent eisoes wedi’u hennill. Ar gyfer myfyrwyr trin gwallt yn arbennig, mae’n garreg gamu hanfodol rhwng eu gwaith theori a disgwyliadau prysur gwaith mewn lleoliad salon.

I ddysgwyr TSC+ ac Ysgolion ACT, mae sesiynau cyfoethogi yn rhan enfawr o’u cwricwlwm. Gall sesiynau cyfoethogi fod ar ffurf teithiau diwylliannol, ymweliadau hamdden, diwrnodau gwirfoddoli neu hyd yn oed gwersi gyrru.

Er bod y cyfleoedd hyn ar eu pennau eu hunain yn gyffrous, rydym wedi datblygu ein Hadnodd Cyfoethogi ein hunain i sicrhau bod dysgwyr nid yn unig yn cael profiad hwyliog o’u diwrnod allan ond hefyd yn ennill sgiliau newydd ac yn gwneud y gorau o’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

Mae’r adnodd yn cynnig gwefan ryngweithiol i ddysgwyr sy’n llawn awgrymiadau sy’n ymwneud â’r math o daith y maent yn mynychu. Mae’n caniatáu i ddysgwyr sgrolio trwy nifer o weithgareddau ‘torri iâ’, ciwiau trafod, nodiadau ymchwil, fideos, gweithgareddau ac ambell bwynt i’w helpu i fyfyrio ar y diwrnod.

Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi symud dysgu ar-lein o rywbeth sy’n ‘braf ei gael’ i gynnig hanfodol i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Yn ACT, rydym wedi buddsoddi mewn swît ddigidol cyflwyno hybrid i symud dysgu ar-lein o wers a gyflwynir trwy we-gamera i brofiad ystafell ddosbarth rithwir rhyngweithiol.

Mae gan ein hystafell ddigidol gamera olrhain sy’n caniatáu i diwtoriaid neu siaradwyr gerdded o gwmpas yr ystafell ac arddangos trwy gydol eu haddysgu. Mae yna hefyd offer sain ymdrochol i sicrhau bod y rhai sy’n ymuno o bell yn cael yr un profiad â’r rhai sydd yn y dosbarth; gall dysgwyr glywed eu cyfoedion a chymryd rhan mewn sgyrsiau yn rhwydd.

Mae ACT wedi ymrwymo i wella bywydau trwy ddysgu a rhan hanfodol o’r ethos hwn yw deall bod gan bob unigolyn ei ffyrdd unigryw o ddysgu. Rydym yn parhau i ddatblygu ffyrdd mwy deniadol a rhyngweithiol i helpu ein dysgwyr i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol.

Rhannwch