16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr

Mae dysgwyr o elusen awtistiaeth leol wedi derbyn hwb i’w hyder a gwell dealltwriaeth o fathemateg trwy raglen a ariennir gan y llywodraeth, Lluosi.

Mae Lluosi yn fenter genedlaethol sy’n ceisio hybu sgiliau rhifedd y DU, yn enwedig mewn sefyllfaoedd ymarferol fel cyllid cartref a chyllidebu. Ei genhadaeth yw trawsnewid bywydau gwaith a cartref pobl trwy gynyddu eu hyder mewn mathemateg gymhwysol.

Yn lleol, mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan y darparwr hyfforddiant ACT sydd wedi bod yn helpu elusen Autistic Minds i gefnogi ei defnyddwyr.

Mae Autistic Minds, sydd wedi’i leoli ym Mhontypridd, yn grymuso oedolion awtistig trwy wella mynediad at gymorth, addysg, cyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol fel y gallant gyrraedd eu potensial llawn ac adeiladu bywyd mwy annibynnol drostynt eu hunain.

I ddechrau, roedd gan yr elusen ddiddordeb mewn dilyn y cwrs Lluosi i helpu i hyfforddi eu staff a’u gwirfoddolwyr, gan roi hwb i’w sgiliau a’u hyder.

Er bod taith pob dysgwr awtistig yn wahanol, gall rhai pobl gael trafferth gyda dyscalcwlia – anhawster dysgu sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddealltwriaeth person o brosesau rhifyddeg a mathemategol eraill.

Gydag ACT, roedd y dysgwyr yn gallu meithrin sgiliau a hyder trwy sesiynau ymarferol fel gwaith coed, yn hytrach nag astudiaethau traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth.

Wrth siarad am y ffyrdd y gallai ysgolion gefnogi gwahanol ddysgwyr gyda’u mathemateg yn well, dywedodd llefarydd ar ran Autistic Minds: “[Dylai pobl] wneud addasiadau rhesymol o ran y ffordd y mae pobl yn dysgu trwy ddefnyddio gwahanol adnoddau a thechnegau dysgu mwy cyffyrddol. [Dylai’r] addysgu ffitio’r bobl yn hytrach na’r gwrthwyneb.”

Wrth siarad am diwtoriaid ACT, fe ychwanegon nhw: “[Roedden nhw’n] hynod gefnogol ac yn rhyngweithio â phawb yn y gweithle, roedden nhw bron yn teimlo fel rhan o’r tîm.”

Os hoffech chi gael gwell dealltwriaeth o rifau neu roi hwb i’ch hyder gyda phethau fel taenlenni Excel neu gyllid, gallwch ddarganfod mwy am raglen Lluosi ACT yma. 

Rhannwch