16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Tach 2024 / Cwmni Newyddion

Mae’r wythnos hon yn nodi Wythnos Hinsawdd Cymru, cyfle i fusnesau ac unigolion ddod at ei gilydd i drafod datrysiadau arloesol ac addasol i fynd i’r afael a  newid hinsawdd.

Eleni, mae’r wythnos yn cyd-fynd â chynhadledd COP 29 y Cenhedloedd Unedig, gan ehangu’r sgwrs hinsawdd ymhellach.

Wrth lansio’r wythnos, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: “Mae newid hinsawdd yn digwydd nawr ac rydym eisoes yn teimlo’r effeithiau.

“Yma yng Nghymru, mae’n effeithio ar ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein seilwaith a’n natur ac rydym yn gwybod taw ond cynyddu bydd y newidiadau dros y blynyddoedd nesaf – hyd yn oed wrth i ni weithio i fynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd drwy leihau allyriadau.”

Daw’r wythnos, a ddatblygwyd gan Climate Action Wales a Llywodraeth Cymru, i ben gyda chynhadledd rithwir pum niwrnod ynghyd â nifer o ddigwyddiadau ymylol ac adnoddau wedi’u targedu at sefydliadau ac unigolion sy’n ceisio hybu eu hymdrechion cynaliadwyedd.

Fel rhan o’r digwyddiadau ymylol hyn, cynhaliodd ACT a Busnes yn y Gymuned drafodaeth a phanel ‘Ymgysylltu â’r Gymuned mewn Gweithredu Hinsawdd’. Gwahoddwyd cynrychiolwyr busnes lleol i’r digwyddiad brecwast i drafod ffyrdd y gallant gydweithio â chymunedau lleol i yrru mentrau cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth.

Roedd panelwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Dŵr Cymru, Mott MacDonald ac Amber.

Thema gyffredinol y bore oedd ‘ni all unrhyw fusnes wneud hyn ar ei ben ei hun’, gan hyrwyddo pwysigrwydd cymuned a chydweithio.

Fel rhan o’r wythnos, mae ACT hefyd wedi lansio podlediad. Mae’r podlediad Little Big Actions yn canolbwyntio ar y newidiadau bach y gall pobl eu gwneud sy’n gallu cael effaith amgylcheddol sylweddol.

Yn y bennod gyntaf mae tiwtoriaid ACT, Karuna Sparks a Wallis Pegington, yn trafod manteision uwchsgilio gwyrdd, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru sero net erbyn 2050.

Gwrandewch ar y podlediad yma. 

Rhannwch