16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Cwmni

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn nodedig am nifer o fentrau codi arian ac elusennol cyffrous, i ni yn ACT ac i nifer o gydweithwyr sydd wedi  ymgymryd â heriau personol. 

Fis diwethaf fe wnaethon ni ddathlu Plant Mewn Angen gyda dillad cyfforddus a raffl, tra bod timau nôl ym mis Medi wedi gwisgo’u ffedogau a mynd ati i greu danteithion melys i gefnogi Macmillan. 

Dywedodd Jenna West, Swyddog Lles ac Ymgysylltu ACT, sy’n trefnu llawer o ddigwyddiadau codi arian y cwmni: “Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau elusennol nid yn unig yn fuddiol i’r gymuned ond i’r gweithwyr sy’n cymryd rhan. Mae ymchwil yn dangos y gall cyflawni gweithredoedd caredig neu weithio tuag at nod gytûn wella eich lles meddyliol a’ch hapusrwydd.” 

Cawsom sgwrs â thri o’n gweithiwr a gymerodd rhan mewn heriau dros achosion da ac fe wnaethant rannu eu rhesymau dros wneud a beth oedd yn ei olygu iddyn nhw. 

Yn ôl ym mis Medi, fe wnaeth David Carroll, Rheolwr Cynhwysiant Ysgolion ymgymryd ag un o’r campau corfforol mwyaf eiconig (a llym) – Ironman.  

“Fe wnes i gystadlu dros Elusen Canser Tenovus,” esboniodd Dave. “Fe wnes i ddewis yr elusen oherwydd mae’n gwneud cymaint i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Mae’n cefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser, yn ogystal â’u teuluoedd a’u hanwyliaid. Dewisais hefyd gystadlu dros Tenovus oherwydd bod fy nhad wedi cael diagnosis o ganser yn ei aren. Diolch byth, fe lwyddodd i gael triniaeth a fu’n llwyddiannus.” 

Dyma’r tro cyntaf i Dave gymryd rhan yn y digwyddiad, sy’n cynnwys nofio 2.4 milltir yn y môr, taith feicio 112 milltir a ras rhedeg 26.2 milltir (sy’n cyfateb i bellter marathon ar ei ben ei hun). 

“Mae’n cael ei adnabod fel un o’r rasys anoddaf a mwyaf heriol i’w gwblhau,” meddai Dave. “Rwy’n hoff iawn o her, felly fe wnes i osod y nod i mi fy hun o gwblhau pob un o’r pum pellter triathlon (Super Sprint, Sbrint, Olympic, Hanner Ironman, ac Ironman), a arweiniodd at yr Ironman yn Ninbych-y-pysgod.  

“Bûm yn hyfforddi am flwyddyn gyfan, gan gynnwys hyfforddi ddwywaith y dydd tra hefyd yn gweithio a hyfforddi yn fy swydd ran-amser i dîm Menywod Dinas Caerdydd. 

“Roeddwn wrth fy modd â phob munud o’r hyfforddiant, gan ei fod wir wedi fy mhrofi’n gorfforol ac yn feddyliol.” 

Ond nid agwedd gorfforol yr ymrwymiad yn unig oedd yn her gyffrous – roedd y dasg o godi arian yn her ychwanegol. 

Meddai Dave: “Roedd gen i dudalen JustGiving ond roedd fy rhieni a’m chwaer yn help anhygoel gyda’r nawdd. Maen nhw’n berchen ar Swyddfa Bost, sy’n cynnwys caffi, a bydden nhw’n dweud wrth bob cwsmer fy mod i’n cystadlu yn yr Ironman. Cyfrannodd llawer o’r cwsmeriaid drwyddynt, a rhoddwyd unrhyw newid sbâr i’r achos hefyd! Fe wnaeth hynny wir fy helpu.” 

Ar y diwrnod mawr, roedd llu o uchafbwyntiau, ond rhannodd Dave ychydig o’i ffefrynnau. 

“Roedd clywed anthem genedlaethol Cymru’n cael ei chwarae a’i chanu gan yr holl athletwyr a gwylwyr yn anhygoel,” meddai. “Roedd gweld fy nheulu a’m partner ar adegau gwahanol yn deimlad gwych. Roedd reidio i fyny ‘Heartbreak Hill’ ar y cwrs beics yn anhygoel – roedd linell o bobl tua milltir o hyd yn bloeddio’u cefnogaeth wrth i chi ddringo’r bryn—roedd yn teimlo’n union fel y Tour de France!  

“Ond, mae rhedeg i lawr y carped coch a chlywed, ‘David Carroll, YOU’RE AN IRONMAN’ yn rhywbeth a fydd yn aros yn y cof am byth. 

Llwyddodd Dave i godi £1,812 i Tenovus a chwblhaodd ei Ironman mewn 14:25:18. 

Ar ddechrau mis Hydref, aeth dau gydweithiwr i’r afael a Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer dwy elusen arbennig. 

Cymrodd ein Pennaeth Ysgolion, Antony Leach, yr her ar ran Arch Noa. 

“Ym mis Mehefin 2023, cafodd Ruby fy merch, oedd yn 12 oed ar y pryd, ddiagnosis o Lymffoma nad yw’n Hodgkins cam 3 sef canser y gwaed,” esboniodd Antony. “Fe wnaeth staff Arch Noa gymryd gofal eithriadol ohoni ac mae hi wedi gwella dros dro. 

“Mae eistedd ar ward canser plant yn brofiad anhygoel o ostyngol  ac mae’r staff yn cefnogi plant sâl iawn a’u teuluoedd. Does ganddyn nhw ddim digon o arian felly roedd dewis yr elusen yma’n hawdd.”  

Er nad hon oedd ras gyntaf Antony o’r pellter hwn, roedd ei hanner marathon olaf saith mlynedd yn ôl. Ond cafodd gefnogaeth ei chwaer-yng-nghyfraith a redodd gydag ef am yr achos a chawsant ddigon o gefnogaeth ar hyd y ffordd hefyd. 

“Roeddwn i’n cael galwadau rheolaidd wrth redeg i roi gwybod i mi os oeddwn i’n mynd yn rhy gyflym a rhoi gwybod i mi am fy nghyflymder. Roedd yn wych bod Ruby a fy nheulu yno hefyd. 

“Fy uchafbwynt oedd rhedeg o gwmpas y tro olaf a chlywed fy hoff air… “DAAAD!!” Ruby oedd yno, â’r wên fwyaf erioed ar ei hwyneb. Hi oedd y rheswm pam y gwnes i’r cyfan. Dwi mor falch ohoni hi a pha mor ddewr yw hi. Nid yw tair milltir ar ddeg yn ddim o’i gymharu â’i thaith. Wna i fyth anghofio’r foment yna.”  

Ddim yn un i orffwys ar ei rhwyfau, mae Antony eisoes wedi cofrestru ar gyfer y ras y flwyddyn nesaf ac mae’n edrych ymlaen ati. 

Roedd ein Rheolwr Cyfathrebu, Millie Reeves, hefyd ymhlith y 27,000 o redwyr a redodd Hanner Marathon Caerdydd eleni. Cychwynnodd hi’r her i’r NSPCC. 

“Mae neges yr elusen bod ‘pob plentyndod werth ymladd drosto’ yn dweud y cyfan,” meddai. “Yr NSPCC oedd prif bartner elusen y ras ac fe lwyddais i gael lle trwyddyn nhw. Roeddwn i mor falch o allu cefnogi elusen mor werth chweil.” 

Ymunodd Millie â’r ras llai na deufis cyn y diwrnod mawr ac wynebu nod codi arian brawychus o £300. 

“Diolch byth bod ACT yn gallu fy nghefnogi,” eglurodd. “Gofynnais a allwn i werthu llyfrau dirgelwch a chynnal gwerthiant pobi bach yn y swyddfa. Roedd Tammy, y derbynnydd yn y brif swyddfa yn help enfawr gan roi lle i’r llyfrau ar y dderbynfa, a phrynodd lawer o gydweithwyr fy nghacennau. 

“Fyddwn i ddim wedi gallu cyrraedd fy nod heb nawdd ACT a haelioni fy nghydweithwyr.” 

Rhannwch