16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog

Pan ddaw mis Ionawr, mae’r sgwrs ar-lein ac oddi ar-lein, yn troi at un peth – beth yw eich adduned Blwyddyn Newydd?

Ac er bod llawer yn troi at nodau ffitrwydd neu ariannol, un dyhead a all gael effaith ddramatig ar eich datblygiad personol a phroffesiynol yw uwchsgilio.

Mae uwchsgilio yn gallu golygu amrywiaeth o bethau, ac mae ei rinwedd addasol yn ei wneud yn nod arbennig o effeithiol i roi cynnig arno yn 2025 gan ei fod yn hyblyg ac yn hawdd plethu i’ch ymrwymiadau cyfredol.

Gall uwchsgilio olygu ennill sgil newydd neu hogi un sy’n bodoli eisoes. Gall hwn fod yn gam tuag at rôl uwch yn eich diwydiant neu hyd yn oed at yrfa newydd sbon. Gellir ei ddefnyddio hefyd i wella’ch dealltwriaeth o’r rôl sydd gennych yn barod a’ch arfogi â’r sgiliau i wneud eich gwaith yn fwy effeithlon ac effeithiol. Mae rhai pobl yn defnyddio uwchsgilio am resymau gwbl bersonol, er mwyn dod yn berson cyflawn â nifer o linynnau i’w bwa.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw uwchsgilio i chi, dyma rai rhesymau pam y dylai dysgu rhywbeth newydd fod yn adduned Blwyddyn Newydd 2025:

Mae’n caniatáu i chi aros ar flaen y gad

Waeth pa sector rydych chi’n gweithio ynddo, mae rolau swyddi yn esblygu’n gyson wrth i ni lywio tirwedd ddigidol fwyfwy cymhleth. Mae uwchsgilio yn sicrhau bod gennych yr hyfforddiant a’r sgiliau perthnasol i addasu i’r newidiadau hyn – ac i ddysgu’r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi unigolion sy’n dangos ymrwymiad i ddatblygiad ac mae ennill sgiliau newydd yn dangos hyn.

Mae’n edrych yn wych ar LinkedIn

Does dim dwywaith amdani, gall ychwanegu sgiliau newydd at eich repertoire agor drysau i ddyrchafiadau, rolau newydd, neu hyd yn oed lwybrau gyrfa cwbl newydd – wedi’r cyfan, ‘mae’n rhywbeth i’r CV’.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol, gall feddu ar amrywiaeth o sgiliau eich gosod ben a chlustiau uwchben ymgeiswyr eraill a allai fod â mwy o brofiad neu sydd mewn swydd uwch na chi.

Mae’n eich helpu i adennill eich sbarc

Mae dysgu sgiliau newydd yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn cadw eich meddwl yn effro, gan roi ymdeimlad o gyflawniad i chi. Gall pob sgil newydd eich sbarduno i fynd i’r afael â heriau hyd yn oed yn fwy. Ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i’r gweithle; mae gallu dysgu rhywbeth newydd yn rhoi prawf cadarn i chi o’r hyn y gallwch chi ei wneud pan rydych chi’n troi eich meddwl ato ac mae’r gred newydd hon ynoch chi’ch hun yn effeithio ar bob agwedd o’ch bywyd.

Mae’n eich arwain at yr arian

Mae llawer o gymwysterau cyffredin yn y gwaith megis dadansoddi data, marchnata digidol neu reoli prosiectau yn gysylltiedig â chyflogau uwch. Ac er efallai nad arian yw’r prif reswm dros ymgymryd â sgil newydd, gall fod yn rhywbeth i’w groesawu.

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod cyflogwyr yn aml yn barod i dalu premiwm am arbenigedd mewn meysydd fydd yn hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn eu busnes – arbenigedd a ddaw o uwchsgilio. Hyd yn oed os nad ydych wrthi’n chwilio am rôl newydd, gall uwchsgilio eich helpu i drafod codiad cyflog gan ei fod yn dyst i’r holl bethau y gallwch gynnig yn eich swydd.

Mae’n meithrin ymdeimlad cryfach o gymuned

Mae cofrestru ar gwrs neu gymhwyster yn eich galluogi i gwrdd â gweithwyr proffesiynol â’r un weledigaeth, gan greu cyfleoedd ar gyfer cydweithio neu fentora gyda phobl na fyddech efallai wedi cwrdd â nhw fel arall. Gall gweithio tuag at yr un cymhwyster hefyd feithrin sgyrsiau a sesiynau gweithdy craff. Ac mae cael rhwydwaith cryf o gydweithwyr a chysylltiadau yn gallu bod yn hynod ddefnyddiol p’un a ydych mewn swydd neu’n mynd ati i chwilio am un.

P’un a ydych yn ceisio dyrchafiad, archwilio llwybrau proffesiynol newydd neu am ychwanegu rhywbeth cyffrous at eich portffolio personol, gallai gwneud uwchsgilio yn adduned eleni fod y cam cyntaf tuag at 2025 llwyddiannus.

Rhannwch