Rydym wedi gweld llawer o newidiadau a heriau i dirwedd prentisiaethau yng Nghymru yn 2024, gan gynnwys toriadau ariannol. Er gwaethaf hyn, mae dysgu seiliedig ar waith yn parhau i ffynnu, nid yn unig drwy ddarparu cyfleoedd cyffrous i weithwyr a darpar weithwyr, ond hefyd drwy leihau’r bwlch sgiliau a chefnogi sefydliadau bach a mawr Cymru ar draws pob sector.
Er y gall y dirwedd brentisiaeth ymddangos fel petai yn newid yn barhaus, mae yna ychydig o nodweddion y gallwn eu rhagweld. Dyma beth allwn ni ddisgwyl ei weld yn ystod y 12 mis nesaf.
Bydd cymwysterau proffesiynol yn parhau i ffynnu
Mae cymwysterau proffesiynol wastad wedi bod yn gonglfaen i ddatblygiad gyrfa, ac mae eu harwyddocâd ond yn cynyddu, yn enwedig ymhlith dringwyr yr ysgol yrfa sy’n deall pwysigrwydd mireinio eu sgiliau.
O reoli prosiectau a dadansoddi data i gyngor ac arweiniad a gweinyddu busnes, mae’r cymwysterau hyn yn cynnig llwybr uniongyrchol at rolau arwain i brentisiaid.
I gyflogwyr, mae’r prentisiaethau hyn yn datblygu’r meddwl strategol a’r gallu datrys problem sydd eu hangen ar eu gweithwyr i arwain y busnes. Yn syml, mae uwchsgilio yn y maes hwn yn fuddsoddiad mewn gwytnwch busnes – nodwedd holl bwysig wrth i bawb ddygymod â’r heriau economaidd cyfredol.
Bydd uwchsgilio yn allweddol i gynlluniau Sero Net Cymru
Wrth i Gymru ymrwymo i dargedau uchelgeisiol Sero Net, rydym wedi gweld nifer sylweddol o fusnesau sydd am fod ar flaen y gad a gwneud synnwyr o beth mae hynny’n ei olygu iddyn nhw cyn iddynt ddod yn statudol.
O ystyried ei phwysigrwydd cynyddol, mae’r economi werdd yn cynrychioli her a chyfle. Mae prentisiaethau mewn pynciau perthnasol fel rheoli carbon ac ynni neu gyrsiau cynaliadwyedd achrededig IEMA yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi ymdrechion datgarboneiddio – gan dorri trwy’r jargon dryslyd a chynnig datrysiadau sy’n hawdd eu mabwysiadu ar gyfer anghenion busnes unigol.
Nid yw’n syndod felly, gyda sylw manylach ar strategaeth werdd Cymru, y gwelwn gynnydd mewn sgiliau yn y maes hwn.
Bydd sefydliadau’n buddsoddi mewn sgiliau digidol
Mae gweithio hybrid ac o bell wedi dod yn rhan annatod o’r rhan fwyaf o sefydliadau ers rhai blynyddoedd bellach. Ond oherwydd bod ei fabwysiadu cyflym wedi dod o reidrwydd brys yn hytrach na datblygiad cyson, mae gan lawer o fusnesau yr isadeiledd digidol ond heb yr hyfforddiant priodol sydd ei angen i ddefnyddio’r cynhyrchion digidol y maent wedi’u prynu’n yn llawn.
O’r herwydd, bydd prentisiaethau digidol lefel mynediad – fel Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes – yn parhau i fod yn boblogaidd, gan ddarparu hyfforddiant lefel sylfaen i unrhyw aelod o staff sy’n defnyddio cyfrifiadur (a gadewch i ni fod yn onest, mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o bobl).
Bydd pynciau digidol uwch – fel dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, marchnata digidol a seiberddiogelwch – hefyd yn gweld cynnydd yn y galw wrth i fusnesau sylweddoli pwysigrwydd ei asedau ar-lein, o safbwynt ddiogelwch yn ogystal â hyrwyddo.
Bydd yr angen am brentisiaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynyddu
Un o’r sectorau a gafodd ei tharo waethaf gan doriadau cyllid eleni oedd iechyd a gofal cymdeithasol – sy’n destun pryder dwys o ystyried ei fod eisoes dan straen aruthrol.
Mae hyn ond yn ychwanegu at y dirwedd gymhleth, gydag iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn broffesiwn deniadol i lawer, ond hefyd yn cael trafferth cyflogi a chadw staff.
O’r herwydd, mae cyflogwyr a gweithwyr yn aml yn cael eu cefnogi gan uwchsgilio a hyfforddiant yn y gwaith i sicrhau bod staff mewn sefyllfa dda i fodloni gofynion sector mor bwysig.
Nid yw’n gyfrinach bod cydberthynas uniongyrchol rhwng anweithgarwch economaidd ac iechyd cenedl, felly os yw Cymru am fwrw ymlaen â’i chynllun ar gyfer economi lewyrchus, bydd angen sicrhau mai’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yw ei chanolbwynt.
I fusnesau yng Nghymru, gall 2025 fod y flwyddyn y bydd uwchsgilio yn dod yn flaenoriaeth strategol. Trwy fuddsoddi yn y pedwar maes allweddol hwn, mae gennym gyfle i adeiladu ffrwd o dalent sy’n barod i fynd i’r afael â heriau’r misoedd nesaf a thu hwnt.