Wythnos nesaf mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025, dathliad ac arddangosfa o’r cyfleoedd y mae dysgu seiliedig ar waith yn eu cynnig i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.
Mae’n arbennig o nodedig eleni, o ystyried effaith barhaus toriadau cyllid i gynllun prentisiaethau Cymru, gyda llawer o ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a dysgwyr yn lobïo i gadw’r rhaglen ar gael i bawb.
Credwch neu beidio, mae gan brentisiaethau hanes hir yn y DU. Ond er gwaethaf bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd, mae llawer o gamsyniadau yn parhau amdanynt.
Mae ACT, un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf Cymru, wedi bod yn darparu cyrsiau i ddysgwyr yng Nghymru ers 1988 ac wedi bod yn herio’r mythau hyn ers dros dri degawd.
Dyma rai o’r camdybiaethau mwyaf cyffredin am brentisiaethau.
Myth: Mae prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phobl sy’n mentro i fyd gwaith am y tro cyntaf
Yn debygol o fod wedi tarddu o’r canfyddiad bod yn rhaid i bobl ifanc 16 oed ddewis rhwng chweched dosbarth, coleg neu brentisiaethau, delwedd ystrydebol prentis i lawer yw rhywun ifanc a dibrofiad.
Mewn gwirionedd, dim ond cyfran fach o brentisiaid yng Nghymru sydd o dan 24 oed.
Gellir ymgymryd â phrentisiaethau ar unrhyw gyfnod bywyd a gyrfa, ac nid yw wastad yn fater o ddod o hyd i brentisiaeth er mwyn cael swydd, ond dod o hyd i gwrs a fydd yn eich helpu yn y rôl sydd gennych eisoes.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn ddull poblogaidd o uwchsgilio, yn enwedig i’r rhai sydd mewn rolau rheoli ac uwch swyddi eraill.
Myth: Mae prentisiaethau yn ymwneud â swyddi gwaith â llaw yn unig
Er bod llawer o brentisiaid llwyddiannus yn y sectorau ‘coler glas’, mae cyrsiau ar gyfer gwaith â llaw ond yn gyfran fach o’r cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio fel prentisiaeth.
Yn ACT, mae cyfleoedd prentisiaeth yn amrywio o TG a rheoli prosiectau i sgiliau marchnata ac amgylcheddol. Nid yn unig y mae rhai o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd a ddarperir ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn diwydiannau corfforaethol neu swyddfa ond maent hefyd yn ddefnyddiol ar draws sectorau amrywiol.
Er enghraifft, gellir dilyn prentisiaeth mewn arweinyddiaeth, rheoli neu hyfforddi beth bynnag fo’r lleoliad gwaith – boed hynny mewn swyddfa, salon neu garej.
Myth: Mae prentisiaethau ar gyfer dynion yn unig
Mae’n debygol bod y myth hwn yn deillio o’r stereoteip swyddi â llaw ac ni allai fod ymhellach o’r gwir. Mewn gwirionedd, canfu astudiaeth fod bron i ddwy ran o dair o brentisiaid yng Nghymru (61%) yn fenywod.
Unwaith eto, mae’n mynd yn ôl i’r camsyniad mai dim ond mewn nifer fach o sectorau a nifer fach o rolau iau y mae prentisiaethau ar gael, ond nid yw hyn yn wir.
Myth: Swyddi cyflog isel yn unig yw prentisiaethau
O ystyried bod prentisiaethau’n rhychwantu sbectrwm mor eang o broffesiynau a sectorau, byddai’n wirion tybio bod pob lleoliad gwaith yn cynnig yr un lefel o dal .
Yn dibynnu ar y maes y mae prentisiaid yn dewis, gall eu cyflog cychwynnol amrywio’n sylweddol.
I ddysgwyr sydd eisoes wedi ymsefydlu mewn gyrfa, gall defnyddio eu prentisiaeth i uwchsgilio arwain at godiad cyflog a dyrchafiad wrth iddyn nhw gymhwyso a dod yn fwy medrus.
Myth: Nid yw dilyn prentisiaethau’n llwybr addysgol uchel ei barch
Mae hyn yn gamargraff hen ffasiwn arall. Nid yw addysg uwch bellach yn cael ei ystyried fel yr unig opsiwn ar gyfer gyrfa lwyddiannus ac uchel ei barch.
Mae llawer o gyflogwyr yn edrych ar brofiad eu hymgeiswyr, yn ogystal â’u cyflawniadau academaidd. Mae prentisiaethau’n dangos sgiliau ymarferol wedi’u meithrin yn y diwydiant a gwybodaeth arbenigol mewn lleoliad gwaith.
Gall prentisiaethau fod yn gam ymlaen neu hyd yn oed yn sbardun i yrfa uchel ei barch.
Yn groes i’r camdybiaethau hyn, gall llwybrau prentisiaeth fod yn gyfoethog a gwerth chweil, gan gynnig y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich bywyd personol a phroffesiynol.
Ddim yn siŵr pa brentisiaeth sy’n iawn i chi? Cysylltwch ag ACT yma.