16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog

Mae uwchsgilio yn aml yn cael ei ddathlu am ei allu i wella cyfraddau cadw, meithrin boddhad swydd, ac adeiladu timau cryfach. Ond ydych erioed wedi ystyried ei rôl mewn hyrwyddo cynwysoldeb? 

Mewn gweithleoedd ledled y DU, mae creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn bwysicach nag erioed – gan alluogi mwy o bobl i gael mynediad at y gweithle a hybu cynhyrchiant.  Trwy ddarparu mynediad cyfartal i hyfforddiant a datblygiad, gall uwchsgilio helpu i roi’r un cyfle i bawb, gan sicrhau bod gan bob gweithiwr-waeth beth yw eu cefndir-yr offer sydd eu hangen arnynt i lwyddo a gwneud cynnydd. 

Gall uwchsgilio hefyd chwarae ei ran mewn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau grwpiau ymylol. Dywedodd y seicolegydd, Alice Miller, fod pathi yn tyfu wrth i ni ddysgu’ ac mae hyn yn wir am ddysgu seiliedig ar waith. Gall nifer o gyrsiau, ar bynciau fel diogelu ac iechyd meddwl, neu hyfforddiant ymwybyddiaeth roi persbectif gwell i weithwyr o’r heriau y mae eraill yn eu hwynebu a’r hyn y gallant ei wneud i’w cefnogi. Mae hyfforddiant yn rhoi dealltwriaeth a chyd-destun ehangach o faterion y gall gweithwyr fod wedi clywed amdanynt o ddydd i ddydd ond heb eu profi’n uniongyrchol. 

Yn ACT ac ALS mae ‘gwella bywydau trwy ddysgu’ yn mantra sydd nid yn unig yn diffinio ein gwaith ond hefyd y cyrsiau yr ydym yn eu darparu. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau a all helpu i hyrwyddo cynwysoldeb yn eich sefydliad. Dyma ddetholiad ohonynt: 

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl 

Gyda salwch meddwl bellach yn achos mwyaf cyffredin cyflyrau sy’n cyfyngu ar waith ymhlith gweithwyr 44 oed ac iau, ni fu hyfforddiant yn y maes hwn erioed yn fwy buddiol – nac yn fwy pwysig. 

Yn y cwrs hwn, mae dysgwyr yn ennill gwell ymwybyddiaeth ynglŷn ag afiechydon ac ymyriadau meddyliol, yn ogystal â’r strategaethau priodol sydd eu hangen er mwyn cynnig cymorth cyntaf. Mae’r cwrs hefyd yn atgyfnerthu hyder, gan helpu dysgwyr i gefnogi unigolion sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a’u lles. 

Iaith Arwyddion Prydain 

Wedi’i greu mewn cydweithrediad â Signature, nod y cwrs hwn yw pontio bylchau cyfathrebu a chefnogi cyflogwyr a gweithwyr i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol a hygyrch. Gyda dros 500,000 o bobl yng Nghymru wedi colli eu clyw, gallwn ni ddim gorbwysleisio arwyddocâd hyfforddiant o’r fath.   

Caiff cyfranogwyr eu haddysgu trwy gyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb, hunan-astudio ac adnoddau ar-lein drwy gydol y cwrs. Mae’r pynciau cychwynnol yn cynnwys cyfarchion sylfaenol a bywyd bob dydd. Gall hyd yn oed ychydig eiriau ac ymadroddion sicrhau bod y rhai sydd â nam ar eu clyw yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi mewn sgyrsiau. 

Ymwybyddiaeth Dementia 

Gyda bron i 1,000,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU yn ôl Cymdeithas Alzheimer, gall dysgu am y salwch cyffredin hwn sicrhau bod gweithleoedd yn fwy hygyrch a bod gennych y wybodaeth i gefnogi’r rhai sydd â’r cyflwr. 

Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol am ddementia, gan gynnwys ei symptomau, ei gamau, a’i effaith ar unigolion a theuluoedd. Mae hefyd yn darparu sgiliau ymarferol er mwyn gofalu am y rhai sydd wedi’u heffeithio gydag empathi a dealltwriaeth. 

Diogelu/amddiffyn oedolion bregus 

Nid dim ond mewn ambell ddiwydiant y mae diogelu yn bwysig – mae’n gyfrifoldeb cyffredinol ar draws pob gweithle. Mae’r gallu i adnabod pryderon a rhoi mesurau amddiffynnol ar waith yn sgil sylfaenol. 

Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol am y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â diogelu, yn enwedig o ran oedolion bregus. Mae’r cwrs yn esbonio sut i ddiogelu pobl ac ymarferwyr sy’n agored i niwed yn y gweithle, yn ogystal â sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon cam-drin. 

Waeth beth yw’r cwrs neu’r cymhwyster, mae uwchsgilio yn mynd y tu hwnt i lwybr cynnydd—gall fod yn offeryn pwerus ar gyfer adeiladu gweithle cynhwysol. Trwy arfogi gweithwyr â sgiliau sy’n meithrin dealltwriaeth, empathi a hygyrchedd, gall sefydliadau ddymchwel rhwystrau. O ymwybyddiaeth iechyd meddwl i BSL, mae’r cyrsiau hyn yn galluogi timau i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.   

Rhannwch