Mae ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, yn dathlu cyflawniadau ei gymuned, ar ôl i naw o’i ddysgwyr a’i gyflogwyr ennill gwobrau yn y Gwobrau Llwyddiant Drwy Sgiliau.
Roedd y seremoni, a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar y 6ed o Chwefror yn cydnabod dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru sydd wedi rhagori yn eu taith ddysgu seiliedig ar waith.
Roedd hefyd gan y gwobrau gategorïau ar gyfer dysgwyr Twf Swyddi Cymru +, menter gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, sy’n cynnig dewis amgen yn lle coleg neu chweched dosbarth ac sy’n arfogi myfyrwyr â’r sgiliau craidd sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i fyd gwaith – boed hynny fel gweithwyr neu entrepreneuriaid.
Roedd yna hefyd gategori Dysgwr Ysgolion ACT y Flwyddyn, a enillwyd gan y cerddor talentog, Harvey Liddicoat.
Mae Ysgolion ACT yn ddarpariaeth annibynnol ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael trafferth gydag addysg prif ffrwd am resymau gwahanol. Mae’r ysgol yn frwd dros leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant trwy arfogi ei dysgwyr gyda’r set sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Cafodd enillydd y categori, Harvey, ei gydnabod am ei wytnwch wedi iddo brofi caledi ac aflonyddwch yn ei fywyd personol. Er gwaethaf popeth, mae tiwtoriaid Harvey wedi canmol ei gwrteisi, ei barchusrwydd a’i allu i ‘daflu ei hun i mewn i heriau hyd yn oed os ydyn nhw’n anodd ar y dechrau’.
Dim ond yn ddiweddar iawn y dangoswyd y rhinwedd olaf hon pan weithiodd Harvey gyda TEAM (gynt yn rhan o National Theatre Wales), gan ysgrifennu a recordio ei drac cerddorol ei hun a’i berfformio o flaen torf o’i gyfoedion.
Roedd hon yn gamp feiddgar a ailadroddodd yng ngwobrau Llwyddiant Drwy Sgiliau, nid yn unig drwy ysgrifennu cân wreiddiol ar gyfer y gwobrau ond hefyd ei pherfformio ar ei ben ei hun o flaen bron i 200 o westeion eraill.
Wrth gael ei holi am ei wobr ar y noson, dywedodd Harvey:
“Mae’n teimlo’n anhygoel [i gael ei gydnabod] mae’n dangos y gwaith caled rydw i wedi’i wneud yn fy ngherddoriaeth a’m gwaith ysgol.”
Aeth Harvey ymlaen i fod yn brif enillydd y noson, gan ennill Prif Ddysgwr y Flwyddyn.
Dysgwr arall o ACT a ddaeth i’r brig yn y seremoni oedd Lisamarie Bracey a gipiodd wobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Gan weithio yn y sector addysg, mae Lisamarie yn Berson Cyfrifol dros Gylch Meithrin Trelai a Maes y Morfa ac mae’n eiriolwr angerddol dros les cymunedol a’r iaith Gymraeg.
Trwy ei gwaith gyda Dechrau’n Deg a’r rhaglen Twf Swyddi Cymru +, mae wedi cefnogi dros 40 o ddysgwyr, gan arwain nifer trwy brentisiaethau ac i gymwysterau lefel rheoli. Dywedodd cydweithwyr fod gan Lisamarie arddull ‘bersonol, tosturiol’ o fynd i’r afael â lles, iechyd meddwl, ac anghydraddoldebau cymdeithasol, gan feithrin newid cadarnhaol i deuluoedd, staff a phobl ifanc.
Cafodd nifer o brentisiaid ACT glod uchel yn y gwobrau.
Roedd Rachel Isaac ar y rhestr fer ar gyfer Prentis y Flwyddyn. Ymunodd â Chyngor Caerdydd fel prentis fis Ebrill diwethaf ac mae wedi rhagori oherwydd ei brwdfrydedd, ei hymrwymiad a’i dull rhagweithiol o ddysgu. Gan gydbwyso ei hyfforddiant ffurfiol gydag ACT a dyletswyddau ei swydd, mae wedi cofleidio newid ymddygiad yn y maes amgylcheddol, gan gynrychioli’r cyngor mewn cyfarfodydd ledled y DU ac arwain prosiectau gyda ffocws ar yr hinsawdd.
Cafodd dau o brentisiaid sylfaen ACT eu cydnabod hefyd – Gabrielle Stapleton a Somjay Davies.
Mae Gabrielle wedi goresgyn heriau dyslecsia, gan gymryd mantais o gefnogaeth un-i-un i ennill cymwysterau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, yn ogystal â Gofal Plant — ei rôl gyntaf yn y maes. Ers hynny mae wedi dilyn ei hangerdd dros y sector, gan ennill canmoliaeth gan ei chyflogwr am ei gallu naturiol a’i hymroddiad eithriadol, yn enwedig wrth gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Enwebwyd Somjay am ei hymroddiad i’w hastudiaethau. Saesneg yw ei hail iaith, ac eto mae’n rheoli’r holl ddyletswyddau gofal plant yn Saesneg ac mae hi hyd yn oed yn dysgu caneuon a rhigymau Cymraeg. Mae hi wedi cael ei disgrifio fel ‘aelod gwirioneddol allweddol o’r tîm’ gan ei chydweithwyr.
Daeth buddugoliaeth brentisiaeth fawr arall i ACT gan Gareth Williams a Jess Poole a gipiodd arian yng nghategori Prentis Uwch y Flwyddyn.
Roedd y ddau eisoes wedi cynrychioli ACT, yn ogystal â chynrychioli Tîm Cymru, yng nghyfres World Skills y llynedd, gan dderbyn medal efydd yn eu maes cyfrifeg yn y pen draw.
Fe’u cydnabuwyd ymhellach yng ngwobrau Llwyddiant Drwy Sgiliau am eu gwaith tîm anhygoel a’u hymroddiad i’w cymwysterau AAT.
Dywedodd Nerys Hiscocks, tiwtor AAT Gareth a Jess yn ACT: “O ystyried bod Jess a Gareth wedi dechrau eu cymwysterau Lefel 3 ychydig dros flwyddyn yn ôl ac eisoes wedi cystadlu yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru a World Skills, mae’n anhygoel gweld faint maen nhw wedi tyfu a llwyddo.
“Roedd y wybodaeth a’r sgiliau a gyflwynwyd ganddynt i’r gystadleuaeth yn rhyfeddol, ac rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint ganddyn nhw ag yr wyf wedi dysgu iddyn nhw. Mae gan y ddau ddyfodol disglair o’u blaenau, ac rwyf mor falch fy mod wedi chwarae rhan yn eu taith.”
Aeth disgybl Twf Swyddi Cymru +, Benji Walker, a gwobr arian adref yng nghategori Dysgwr Ymgysylltu y Flwyddyn TSC+.
Er ei fod yn ansicr o’i ddyfodol i ddechrau, gydag arweiniad a chefnogaeth darganfu Benji angerdd am drin gwallt a gwaith barbwr.
Yn ymroddedig i’w ddysgu, rhagorodd Benji wrth gwblhau ei fodiwlau Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, ymunodd â llyfrgell am y tro cyntaf i gynorthwyo ei dwf personol, a hyd yn oed cymerodd rôl arwain yn y dosbarth, gan helpu dysgwyr newydd.
Wrth oresgyn her rhwystr lleferydd, mae Benji bellach wedi caffael lleoliad mewn salon ac mae’n gweithio’n galed fel triniwr gwallt a barbwr dan hyfforddiant.
Enillydd terfynol y noson i ACT oedd Chuckles Nursery a gipiodd arian yng nghategori Cyflogwr Bach a Chanolig y Flwyddyn.
Cafodd y feithrinfa o Gasnewydd ei chydnabod am ei gwaith arloesol ym maes addysg plentyndod cynnar a datblygiad staff. Yn 2023, cafodd ei graddio’n “Ardderchog” ym mhob un o’r chwe ardal arolygu AGC ac Estyn – anrhydedd a rannwyd gan un feithrinfa arall yng Nghymru yn unig.
Mae Chuckles wedi cefnogi dros 38 o ddysgwyr trwy eu prentisiaethau mewn cydweithrediad ag ACT, gyda deg yn dilyn cymwysterau o Lefel 2 i Lefel 5.
Dan arweiniad y rheolwr Amy Baugh, sy’n hyrwyddo twf proffesiynol, mae Chuckles yn meithrin diwylliant o ddysgu a rhagoriaeth barhaus.
Wrth fyfyrio ar lwyddiant cymuned y sefydliad yn y gwobrau, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear: “Mae’r teithiau anhygoel a rannwyd gan ein dysgwyr a’n cyflogwyr yn dyst i wytnwch, ymroddiad a phŵer trawsnewidiol uwchsgilio. Mae eu llwyddiannau’n profi y gall prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith newid bywydau.”