16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni ar ddydd Sadwrn, Mawrth 8fed, a’i thema ar gyfer 2025 fydd ‘hawliau, cydraddoldeb a grym i bob menyw a merch’.

Ond yng Nghymru, lle mae’r system addysg a’r gweithleoedd yn esblygu’n barhaus, a oes angen clywed y negeseuon hyn bellach? Ar yr olwg gyntaf, gallai ymddangos fel bod gan fenywod sylfaen gyfartal yn barod. Cloddiwch ychydig yn ddyfnach, fodd bynnag, ac mae’r data’n adrodd stori wahanol.

Er bod menywod ifanc yng Nghymru yn perfformio’n well na dynion mewn addysg, maent yn dal i wynebu rhwystrau mwy llym yn y gweithle. Mae astudiaeth Llesiant yng Nghymru 2024 Llywodraeth Cymru yn amlygu, er bod mwy o fenywod 16-24 oed mewn addysg llawn amser na dynion, mae eu cyfradd cyflogaeth gyffredinol ar ei hôl hi (70.2% ar gyfer menywod o’i gymharu â 76.8% i ddynion). Ar yr un pryd, mae anweithgarwch economaidd – sy’n aml yn gysylltiedig â chyfrifoldebau gofal – yn effeithio ar bron i un o bob pedair menyw (24.5%) o’i gymharu â dim ond 16.2% o ddynion.

Yna ceir cyflogau – tra bod 68.3% o ddynion yng Nghymru yn ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol, dim ond 58.5% o fenywod sy’n ei dderbyn. Mae hynny’n golygu bod cannoedd o filoedd o fenywod, er gwaethaf eu cymwysterau, yn ennill llai na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn gyflog teg er mwyn cael safon byw ddigonol.

Yn olaf, mae cymwysterau – yma mae menywod ar eu hennill ar bapur ond yn dal i golli yn ymarferol. Yn 2023, roedd dynion yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau (8.7%) o’i gymharu â menywod (7.1%), ac roedd menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau NQF Lefel 4 neu’n uwch. Ac eto, nid yw’r cyflawniadau hyn yn trosi’n rhagolygon swyddi na chyflog cyfartal. Mae hyn yn bennaf oherwydd dyletswyddau gofal, sy’n golygu bod menywod yn fwy tebygol o gymryd rolau rhan-amser i weithio o amgylch yr ymrwymiadau hyn na dynion.

Gall cyflogwyr anwybyddu’r ystadegau hyn yn hawdd; mae angen llenwi rolau, ond os nad yw’r rhain yn hygyrch i bawb, mae cwmnïau’n colli allan ar gronfa dalent sylweddol.

Un rhwystr sylweddol, sydd eto yn cael ei anwybyddu’n aml, y gall cyflogwyr fynd i’r afael ag ef yn hawdd yw hyblygrwydd o ran oriau gwaith a diwrnodau. Mae llawer o fenywod, yn enwedig mamau, yn gweld bod diwrnod gwaith naw i bump yn rhwystr mawr i waith llawn amser. Trwy ganiatáu amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, oriau cywasgedig, neu weithio o bell, gall busnesau helpu i ddymchwel y rhwystr hwn. Ac mae o fudd i bawb mewn gwirionedd – mae cynnig yr hyblygrwydd hwn nid yn unig yn sicrhau nad yw gweithwyr medrus yn cael eu gwthio i’r cyrion oherwydd cyfrifoldebau gofal, mae hefyd, yn aml yn arwain at gyfraddau cadw uwch a staff hapusach.

Mae gan ddysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â gwahaniaethau rhwng y rhywiau. Mae’r gallu i uwchsgilio yn eu rôl bresennol yn darparu llwybr hyfyw i fenywod symud ymlaen yn eu gyrfaoedd heb orfod gadel cyflogaeth na chymryd rhagor o gyfrifoldebau fel dosbarthiadau nos.

Mae cynnig dysgu seiliedig ar waith yn golygu y gall mwy o fenywod gael gafael ar y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddod yn fwy gwybodus yn eu rôl a gwneud cynnydd o fewn y busnes.

Nid yw cyflogwyr sy’n addasu i gefnogi menywod yn well yn cefnogi cydraddoldeb rhyw yn unig – maen nhw hefyd yn diogelu eu busnesau at y dyfodol. Mae gweithle mwy cynhwysol yn meithrin cadw staff uwch a chulhau’r bwlch sgiliau. Gyda chronfa amrywiol o dalent, mae gan sefydliadau bersbectif gwell ar y dirwedd y maent yn ei lywio a fydd o fudd i’w perfformiad yn y pen draw.

Nid yw bwlch rhywedd Cymru yn mynd i gau ar ei ben ei hun, ond gall busnesau fod ar flaen y gad yn y newid, yn enwedig drwy sicrhau taw talent sy’n pennu’r cyfleoedd maen nhw’n eu cynnig i’w gweithwyr – nid rhywedd.

Rhannwch