16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Cwmni Dysgwyr

Yn ôl yn 2021, dechreuodd y dysgwr Lois Denatale leoliad gyda busnes Sauce (Print Sauce gynt) o Gaerffili. Roedd Lois yn ei harddegau ac yn awyddus i gael profiad yn y gweithle wrth weithio tuag at ei phrentisiaeth Gweinyddu Busnes. Pedair blynedd yn ddiweddarach ac mae Lois yn dal i fynd o nerth i nerth yn y cwmni arwyddion o Dde Cymru – bellach yn aelod medrus a phrofiadol o’r tîm.

Darganfu Lois y cyfle trwy ei haseswr ACT, Michelle Marshall.

“Roeddwn i ar leoliad pan wnes i ddarganfod y gallai fod cyfle prentisiaeth gyda Sauce,” esboniodd Lois. “Roedd y rôl yn apelio ataf oherwydd ei fod yn amrywiol iawn a doedd dim dau ddiwrnod yr un peth. Gwnaeth y brentisiaeth adael i mi ddechrau heb brofiad ac i ddysgu yn y gwaith.”

Mae Sauce yn adnabyddus am gynhyrchu arwyddion pwrpasol a graffeg cerbydau ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid enwog gan gynnwys Warner Bros, Prifysgol Caerdydd, Met Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Chyngor Sir Fynwy.

Er bod peth ansicrwydd cychwynnol ynglŷn â chynnig lleoliadau i weithwyr ifanc, roedd wastad yn rhywbeth yr oedd Gary Bagstaff, cyfarwyddwr y cwmni, yn awyddus i roi cynnig arni.

“Cefais fy magu yng Nghaerffili ac felly mae cefnogi’r gymuned leol wedi bod yn bwysig i mi erioed,” meddai Gary. “Mae gallu rhoi cyfle i berson ifanc o’r dref yn gwneud i fi deimlo’n falch – mae hefyd yn dda i’r busnes.

“Cyn i ni gysylltu ag ACT, roeddwn ychydig yn betrusgar am yr hyn oedd yn gysylltiedig â chymryd prentis neu ddysgwr ifanc ymlaen. Doedd e ddim yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod unrhyw beth amdano ond unwaith i fi siarad ag ACT roedd yn syml iawn. Fe ddaethon nhw allan i’n gweld ni ac roedd y broses yn llyfn o’r diwrnod cyntaf. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw fusnes.”

Dros y blynyddoedd, mae Lois wedi cymryd cyfrifoldeb cynyddol o fewn y tîm ac, er ei bod bellach wedi cwblhau ei hastudiaethau, mae’n parhau i ddod o hyd i fwynhad a sgiliau newydd yn y gwaith.

“Mae fy lleoliad cychwynnol bellach wedi esblygu’n swydd llawn amser. Mae’n wych gweithio yma, mae’n waith hwyliog iawn.  “Mae’r lleoliad wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a gwneud i fi deimlo’n fwy hyderus wrth siarad â chwsmeriaid,” ychwanegodd. “Fe wnaeth pawb fy helpu i deimlo’n werthfawr ac yn rhan o’r tîm.”

Mae ACT yn annog mwy o gyflogwyr i gefnogi dysgwyr Twf Swyddi Cymru+ rhwng 16 a 19 oed drwy leoliadau gwaith yn y byd go iawn.

Trwy weithio gydag ACT, gall busnesau chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu talent ifanc, llunio gweithwyr proffesiynol y dyfodol, a dod â syniadau newydd i’w timau. Yn eu tro, mae dysgwyr yn ennill hyder, gwytnwch a sgiliau amhrisiadwy na ellir eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a chefnogi’r genhedlaeth nesaf, ewch i acttraining.org.uk/employer-information-jobs-growth-wales 

Rhannwch