Fel cyflogwyr rydym yn aml yn siarad am y bwlch sgiliau, am bobl ifanc sydd heb eu paratoi i ymuno a’r gweithlu, ac am heriau recriwtio a chadw. Ond y cwestiwn mawr yw: beth ydyn ni’n ei wneud i newid hynny?
Yma yng Nghymru, mae Gwarant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru yn ymrwymiad pwysig i’n pobl ifanc 16–24 oed, gan sicrhau bod gan oedolion ifanc fynediad at gymorth, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Ond mae ei lwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth arnom ni – busnesau Cymru.
Yn ACT, rydym yn galw ar fusnesau i gamu i’r bwlch ac ymuno â’n Haddewid Cyflogwyr, ymrwymiad i gefnogi dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, rhwng 16 a 19 oed, drwy leoliadau gwaith neu gyfleoedd gyrfa cynnar. Mae’n weithred syml ond yn un bwerus sydd â’r gallu i lunio dyfodol person ifanc a chryfhau eich busnes ar yr un pryd.
Nid gwneud y peth iawn yn unig yw hyn, mae’n ymwneud â gwneud rhywbeth rhagweithiol ar gyfer eich sefydliad. Mae ein profiad o weithio gyda miloedd o gyflogwyr ledled Cymru wedi dangos bod pobl ifanc yn dod ag egni, meddwl ffres, a photensial hirdymor i’r gweithle. Maen nhw’n gofyn cwestiynau, yn cynnig safbwyntiau newydd, ac yn aml yn ein herio pan rydyn ni’n parhau a’n hen ffyrdd.
Yn allweddol, does dim cost i chi am gymryd dysgwr trwy Addewid Cyflogwyr ACT. Rydym yn talu lwfans y dysgwr tra byddwch chi’n elwa o unigolyn brwd sy’n awyddus i ddysgu a chyfrannu. Ar ben hynny, mae ein tîm ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd er mwyn sicrhau bod y broses yn un llyfn i bawb.
Wrth gwrs, mae yna hefyd gyfrifoldeb moesol yma. I lawer o bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n aml yn cael eu hanwybyddu am gyfleoedd neu sydd heb ffynnu mewn addysg draddodiadol, gall lleoliad newid eu bywyd. Mae’n cynnig cam cyntaf, hwb i’w hyder, a chipolwg ar sut ddyfodol allai fod iddynt mewn sector sydd at eu dant. Fel cyflogwyr, mae gennym y gallu – ac yn fy marn i, y cyfrifoldeb – i greu’r cyfleoedd hynny.
Mae Captiva Spa yng Nghaerffili yn un busnes sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc. Maent wedi cymryd dysgwyr sydd nid yn unig wedi dod yn aelodau gwerthfawr o’r tîm yn ystod eu lleoliadau ond wedi mynd ymlaen i ddod yn weithwyr hirdymor a hyd yn oed yn rheolwyr. Yn yr un modd, mae’r cwmni cyllid o Gaerdydd, Ramsay & White, wedi croesawu dau ddysgwr Twf Swyddi Cymru+ fel aelodau staff parhaol ar ôl eu gwylio’n ffynnu ar leoliad. Nid straeon llwyddiant eithriadol yw’r rhain, maen nhw’n enghreifftiau o’r hyn sy’n digwydd pan fydd busnesau’n buddsoddi mewn potensial.
Nid tic mewn bocs yw cefnogi Gwarant Person Ifanc trwy Addewid Cyflogwyr ACT. Mae’n gyfle i newid bywydau trwy adeiladu piblinell o dalent, cefnogi’r gymuned leol, a llunio’r math o weithlu mae pob un ohonom am ei weld – medrus, brwdfrydig, a pharod ar gyfer y dyfodol.
I’r rhai sy’n dal ar y ffens, bydden i’n eich herio i beidio â thanbrisio’r hyn y gall person ifanc gynnig i’ch tîm. Wrth gwrs y bydd angen arweiniad arnynt ond gyda’r mentora cywir maen nhw’n aml yn ein synnu gyda’u menter, eu huchelgais a’u syniadau.
Yn ACT, ein pwrpas yw ‘gwella bywydau trwy ddysgu’ ond gallwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen i fusnesau ledled Cymru ymuno a’r addewid a helpu i gefnogi ein gweithlu i ffynnu yn y dyfodol.
Dysgwch fwy am yr Addewid Cyflogwyr a sut y gall eich busnes gymryd rhan yn acttraining.org.uk/employer-information-jobs-growth-wales