Mae cyllideb garbon Cymru yn gosod targed uchelgeisiol o ostyngiad o 58% mewn allyriadau erbyn 2030. Ond beth mae hynny’n ei olygu i fusnesau Cymru?
Yn ôl tiwtoriaid ACT Karuna Sparks a Wallis Pegington, nid yw’n ymwneud ag aros i’r llywodraeth bennu gofynion cyfreithiol, mae’n ymwneud ag ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar fusnes ar gyfer iechyd yr economi yn ogystal â’r blaned.
Dyma bum peth y gall cwmnïau wneud nawr er mwyn lleihau eu hôl troed carbon a pharatoi ar gyfer y dyfodol:
Arwain newid diwylliant
Nid cyfrifoldeb un adran yn unig yw cynaliadwyedd, mae’n rhan o waith pawb.
Yn siarad yn y bennod ddiweddaraf o’r podlediad Little Big Actions, esbonia Karuna: “Mae angen ehangu, addasu a gwneud sgiliau gwyrdd yn berthnasol i bob gweithiwr o’r bobl ar y brig yr holl ffordd trwy’r sefydliad. Mae’n ymwneud â newid ymddygiad.”
Dechreuwch gyda sesiynau ymwybyddiaeth neu gyflwyniadau diogelwch i helpu staff i ddeall sut mae eu gweithredoedd beunyddiol yn effeithio ar yr amgylchedd.
Gwella effeithlonrwydd ynni
Gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr. Newid i oleuadau LED, gosod mesuryddion clyfar, ac annog gweithio hybrid i leihau’r defnydd o ynni mewn adeiladau.
Mae newid ymddygiad fel diffodd goleuadau a dyfeisiau trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn gamau bach sy’n adeiladu dros amser.
Ailfeddwl teithio a thrafnidiaeth
Gallwch annog staff i rannu ceir, beicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar gyfer busnesau sydd â fflydoedd, dechreuwch newid i gerbydau trydan. Mae gweithio hybrid ac o bell hefyd yn helpu i leihau allyriadau cymudo, gan arbed amser a charbon.
Dewis caffael mwy gwyrdd a lleihau gwastraff
Mae eich cadwyn gyflenwi yn cael effaith enfawr ar eich ôl troed carbon.
“Nawr, bydd yn rhaid i fusnesau bach a chanolig sy’n cynnig contractau sector cyhoeddus ddarparu cynlluniau lleihau carbon credadwy, gan gynnwys allyriadau Cwmpas 3,” esboniodd Wallis. “Dewiswch gyflenwyr lleol, blaenoriaethu deunyddiau carbon isel, digido gwaith papur, ac ailddefnyddio deunydd pacio lle bynnag y bo modd.”
Buddsoddi mewn sgiliau gwyrdd a hyfforddiant
Gall hyfforddiant fod yn sylfaen ar gyfer newid ystyrlon, gan ganiatáu i bawb, nid yn unig staff mewn rolau cynaliadwyedd penodol ond ar draws sefydliad cyfan ddeall eu hallbwn carbon yn well.
Mae ACT yn cynnig cymwysterau wedi’u hariannu’n llawn gan gynnwys y Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon a chyrsiau rheoli amgylcheddol ISEP gyda lefelau sy’n addas i bob gweithiwr ar unrhyw gam o’u gyrfa. Gall y cymwysterau hyn helpu busnesau i adeiladu arbenigedd mewnol a chydymffurfio â safonau cynaliadwyedd newydd.
Gan sgwrsio’n ddi-flewyn ar dafod yn y bennod podlediad, pwysleisiodd Wallis bwysigrwydd bod ar y blaen a rhoi sero net ar y rheng flaen mewn gweithrediadau. “Rydyn ni bellach mewn argyfwng hinsawdd,” meddai. “Mae’n ddyletswydd foesol i fusnesau weithredu.”
Os hoffech gymryd y camau cyntaf tuag at fusnes mwy cynaliadwy, gallwch ddod o hyd i gymhwyster sy’n iawn i chi a’ch tîm fan hyn.
I wrando ar y cyfweliad llawn gyda Wallis a Karuna gallwch ddilyn y ddolen.
