Rydw i wedi colli cyfrif faint o weithiau rydw i wedi clywed pobl yn beio diffyg cyngor gyrfaoedd am y nifer gymharol isel o brentisiaethau ymhlith ymadawyr ysgol.
Mae’r rhwystrau go iawn yn rhedeg yn ddyfnach; cyfuniad o nodau polisi aneglur, cyfleoedd cyfyngedig, canfyddiadau negyddol ac addysg gyrfaoedd anghyson. Rydw i wedi gweld yn uniongyrchol beth y gall gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd da ei gyflawni, ond ni all greu cyfleoedd nad ydynt yn bodoli. Mae angen strategaeth effeithiol arnom i fynd i’r afael â’r heriau isod.
Diffyg dyheadau clir
Er gwaethaf y pwyslais ar brentisiaethau ar draws nifer o strategaethau Llywodraeth Cymru, dim ond 1.6% o ymadawyr Blwyddyn 11 a 2.9% o ymadawyr Blwyddyn 13 yng Nghymru sy’n mynd yn syth i brentisiaeth. Mae’r ffigurau hyn i weld yn isel ond does dim targedau penodol na dyheadau datganedig i farnu’r perfformiad hwn yn eu herbyn. Mewn cymhariaeth, mae gwledydd sydd â systemau prentisiaeth ieuenctid cryf yn gosod nodau penodol; nid i osod cwotâu ond i ddatgan bwriad. Ni all Cymru gynllunio na darparu adnoddau’n effeithiol heb benderfynu yn gyntaf sut olwg sydd ar lwyddiant.
Diffyg cyfleoedd
Os ydym am gynyddu nifer yr ymadawyr ysgol sy’n mynd i mewn i brentisiaethau, byddai angen i filoedd o gyfleoedd gwaith priodol (h.y. prentisiaeth) gael eu creu bob haf.
I lawer o gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, mae cymryd prentis 16-18 oed yn ymrwymiad mawr – mae’r oruchwyliaeth ychwanegol, yr amser hyfforddi a’r cyfrifoldebau diogelu yn ychwanegu cost a risg.
Mae data Gyrfa Cymru yn amlygu’r diffyg cyfleoedd cyflogaeth priodol. Bob blwyddyn, mae 13–14% o ddisgyblion Blwyddyn 10 yn dweud eu bod yn awyddus i ddechrau prentisiaeth drwy’r offeryn ‘Gwirio Gyrfa’. Ond, fel y gwyddom, dim ond tua 1.6% sy’n dechrau arni ar ôl Blwyddyn 11. Rhwystrau a diffyg cyfleoedd yw’r unig esboniad am y gwahaniaeth hwnnw.
Canfyddiadau
Mae prentisiaethau yn dal i gael eu hystyried yn aml fel ‘dewis eilradd’ i Safon Uwch neu brifysgol, yn enwedig gan rieni ac athrawon. Mewn cyferbyniad llwyr, mewn gwledydd fel yr Almaen neu’r Swistir, mae llwybrau galwedigaethol yn mwynhau statws cyfartal oherwydd eu bod wedi’u hintegreiddio’n dda i broffesiynau parchus.
Mae cyfranogiad isel yn creu ei rhwystr ei hun. Mae’n sefydlu norm cymdeithasol sy’n peri i bobl sefyll allan wrth ddilyn llwybr gwahanol. Nid yw llawer o bobl ifanc (nac oedolion) yn gyfforddus yn gwneud hynny. Mae hunaniaeth gymdeithasol a pherthyn yn bwysig, mae pobl ifanc yn aml yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn y mae eraill fel nhw yn ei wneud, nid yn unig ar werthusiad rhesymegol o’u hopsiynau.
Gallai prentisiaethau uwch chwarae rhan hanfodol wrth ail-lunio canfyddiadau, yn enwedig os cant eu cyflwyno yn y proffesiwn addysg. Maent yn cynnig dewis amgen gwirioneddol i addysg uwch amser llawn, gan gyfuno cyflogaeth fedrus â chymwysterau uwch.
Addysg gyrfaoedd wedi’i wasgu allan o’r cwricwlwm
Mae addysg gyrfaoedd yn ddysgu cynlluniedig, blaengar mewn cwricwlwm ysgol sy’n datblygu gwybodaeth, sgiliau ac agweddau myfyrwyr i reoli eu gyrfaoedd trwy gydol oes. Mae wedi’i ymgorffori ar draws y Cwricwlwm i Gymru (3–16) drwy’r fframwaith Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith. Mae’n cael ei gyflwyno gan athrawon ac mae pob ysgol yn dylunio ei dull Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith ei hun.
Mae fframwaith Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith Cymru yn uchelgeisiol ar bapur ond mae’n dod o dan bwysau gan flaenoriaethau eraill. Mae’n statudol, ond nid yw’n cael ei fonitro, ei ariannu na’i arolygu mewn ffordd ystyrlon. Mae ysgolion yn cael eu beirniadu ar ganlyniadau TGAU a Safon Uwch, nid ar ba mor dda maen nhw’n paratoi pobl ifanc ar gyfer gwaith, felly mae Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith yn aml yn cael ei wasgu allan.
Yn Lloegr, mae’r Meincnodau Gatsby yn rhoi diffiniad clir i bob ysgol o sut olwg sydd ar addysg yrfaoedd dda; cysylltu pynciau â swyddi go iawn, sicrhau cyfarfodydd lluosog â chyflogwyr, ac olrhain canlyniadau trwy ddata cyrchfannau. Mae Ofsted yn archwilio’n benodol y llinyn ‘datblygiad personol’, sy’n cynnwys addysg gyrfaoedd, dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith a data cyrchfannau’.
Mae’r Alban yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd cyrchfannau yn bwysig. Ers 2010, mae pob ysgol yn yr Alban wedi cael ei olrhain ar gyfran y disgyblion mewn ‘cyrchfan gadarnhaol’ ar ôl gadael. Mae’r data hwn yn gyhoeddus, wedi’i gynnwys mewn arolygiadau ac yn dylanwadu ar benderfyniadau cyllido lleol. Dros amser, mae’r dull wedi arwain at drawsnewidiad mwy cyson a chynnydd mewn cyfranogiad prentisiaethau ieuenctid.
Datrysiadau posibl
Felly, sut allwn ni gynyddu nifer y prentisiaid ifanc?
- Egluro uchelgais: Gosod nodau clir, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, nid targedau mympwyol ond uchelgais sy’n ddigon penodol i yrru gweithredu a buddsoddiad.
- Cymhelliant cyflogwyr: Cyflwyno cymhellion wedi’u targedu’n dda sy’n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig sy’n recriwtio prentisiaid 16 i 18 oed wrth iddynt adael addysg amser llawn.
- Annog y sector cyhoeddus: Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio amodau cyllido i sicrhau bod pob ymddiriedolaeth GIG, awdurdod lleol a chorff noddedig yn cynnig cyfleoedd prentisiaeth strwythuredig i bobl ifanc fel rhan o’u cynllunio gweithlu.
- Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth wedi’u targedu: Mae angen ymgyrchoedd penodol, parhaus ar Gymru, nid marchnata generig wedi’u targedu at gyflogwyr, rhieni, ysgolion a phobl ifanc.
- Porth recriwtio: Mae angen porth modern ac effeithiol arnom i baru pobl sy’n gadael yr ysgol â chyfleoedd prentisiaeth.
- Mesurau perfformiad ysgolion: Stopio rhoi pwysau ar ysgolion i ganolbwyntio’n gul ar gyrhaeddiad cymwysterau a chyflwyno data cyrchfan fel mesur perfformiad ysgol allweddol.
- Llwybrau galwedigaethol i addysgu: Dylai Cymru gyflwyno llwybrau prentisiaeth mewn addysgu i adlewyrchu ei hymrwymiad i gydraddoldeb parch, cryfhau recriwtio a chreu llwybrau dilyniant clir o rolau fel Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (HLTAs).
Ni all arweiniad gyrfaoedd drwsio system nad yw’n creu digon o gyfleoedd. Ar hyn o bryd, nid angen mwy o arweiniad mae pobl ifanc ond angen mwy o swyddi prentisiaeth gwych i gael eu tywys iddynt.
Mae ehangu prentisiaethau yn golygu buddsoddi mewn cyfleoedd trwy uchelgais glir, cyllid parhaus a system sy’n gwerthfawrogi ble mae pobl ifanc yn mynd, nid dim ond y graddau maen nhw’n eu hennill.