Mae Darren James yn ddeunaw mlwydd oed, o Bont-y-clun, yn cyfaddef ei fod yn ‘petrol head’ a nawr yn agos at wireddu ei freuddwyd o fod yn ffitiwr diesel cerbydau trwm. Ar ôl cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth gyda darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, ACT, mae Darren bellach yn ffynnu fel Prentis gydag un o brif drefnwyr teithiau Cymru, Edwards Coaches.
Mae Darren wrth ei fodd yn gweithio gyda cherbydau; ar ôl cael ei addysgu gartref gydol ei blentyndod, roedd yn ansicr pa gyfleoedd oedd ar gael iddo:
“Cefais fy addysgu gartref gyda fy mrawd nes fy mod i’n 15 oed ac awgrymodd ffrind i’r teulu ACT fel ffordd i ni gael mynediad i goleg. Dyma ni’n ymchwilio i’r peth ar gyfer fy mrawd yn gyntaf ac yna, pan welsom ei fod yn gwneud yn dda, dyma fi’n ei ddilyn flwyddyn yn ddiweddarach.”
Ar ôl ymchwilio i’r nifer o wahanol lwybrau sydd ar gael, ymunodd Darren â rhaglen Ymgysylltu ACT, gyda’i frwdfrydedd am gerbydau modur yn ei sbarduno i symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Atgyweirio Cynnal Cerbydau. Mae hyfforddeiaethau yn raglenni hyfforddi Cyn-Brentisiaeth sy’n paratoi unigolion 16-18 oed ar gyfer y byd gwaith.
Dyma diwtoriaid Darren yn sylwi ar ei ymroddiad a’i egni wrth oresgyn ei rwystrau i ddysgu, ac yn 2017 enwebwyd ef ar gyfer gwobr ‘Hyfforddeiaeth y Flwyddyn’ yng ngwobrau mewnol ACT yn y categori Cerbydau Modur.
Wrth sôn am yr anrhydedd, dywedodd Darren, “Synnais fy mod wedi ennill y wobr gan nad oeddwn wedi disgwyl cael fy enwebu, ond rwyf mor ddiolchgar i’r tiwtoriaid am wneud.”
Dywedodd Ros Smith, Cydlynydd Gofal, Cefnogaeth a Chanllawiau ACT, a enwebodd Darren ar gyfer y wobr ac a chwaraeodd ran allweddol ar ei daith fel dysgwr, “Ers ymuno ag ACT, mae Darren wedi dod allan o’i gragen ac mae wedi gweithio’n galed i adeiladu ei sgiliau cyflogadwyedd. Am lwyddiant i ddysgwr oedd yn ddi-hyder.”
Roedd Darren, fel nifer o bobl ifanc, yn ffeindio’r naid i’r gweithle yn heriol ac i gychwyn, yn cael trafferth i addasu i’r sefyllfaoedd gwaith a chymdeithasol newydd, ond roedd yn benderfynol o ddyfalbarhau a goresgyn unrhyw rwystrau. Roedd ei diwtoriaid yn hynod gefnogol a dyma nhw’n annog Darren i gymryd rhan mewn cynllun peilot, a alluogodd ef i gael mynediad i seicolegydd addysgol ar gyfer asesiad. Canlyniad hyn oedd bod Darren wedi ei ddatgan yn swyddogol fel bod ganddo anghenion addysgol arbennig a cafodd gefnogaeth ychwanegol gan ei diwtoriaid Cerbydau Modur trwy weithiwr ALS (Cymorth Dysgwr Ychwanegol) a ddarparodd gefnogaeth un-i-un rhagorol i Darren yn ystod ei gymhwyster.
Llwyddodd Ros i symud Darren ymlaen i gwrs Nwyddau Trwm Lefel 2 gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, a arweiniodd at Brentisiaeth gyda Edwards Coaches yn ddiweddarach. Hyn oll o fewn cyfnod o 3 blynedd.
Dywedodd Darren Gould, Arweinydd Sector Cerbydau Modur ACT, “Rwy’n falch iawn o Darren am oresgyn ei rwystrau a gwireddu ei freuddwydion. Mae’n haeddu yr holl lwyddiant am ei waith caled a’i ymdrechion.”
Ychwanegodd Darren ei hun, “Ni allwn gredu ar y dechrau pan gynigiodd Edwards y Brentisiaeth i mi. Roeddwn mor gyffrous. Rydw i bellach yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos ac yn gweithio gyda grŵp gwych o ddynion sy’n ‘cymryd y mick’ yn aml ond sydd hefyd yn cymryd amser i ddysgu’r swydd i mi.”
Dywedodd Jason Campfield, Peiriannydd Fflyd Edwards Coaches, “Mae Darren wedi bod gyda ni ers mis Medi ac mae’n setlo’n dda iawn. Mae bob amser yn awyddus i fynd i’r afael â thasgau’r dydd, sy’n wych. Mae’n gynnar yn ei Brentisiaeth ond mae’n dysgu llawer ac mae digon o gyfleoedd iddo barhau i ddatblygu ei sgiliau a’i wybodaeth ymhellach er mwyn iddo allu cael hyd yn oed mwy o gyfrifoldebau. Rydym yn cefnogi ein Prentisiaid bob cam o’r ffordd ac rydym ar hyn o bryd yn cefnogi Darren gyda’i brawf gyrru hefyd, felly gobeithio y bydd ganddo drwydded yn fuan. Rydym yn cydweithio’n agos â’r coleg, felly rydym bob amser yn ymwybodol o sut mae’n datblygu a beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi ei ddysgu ar lefel ymarferol.
Bu cynlluniau prentisiaeth yn adnodd ardderchog i Edwards Coaches, sy’n defnyddio’u Prentisiaid i dyfu a meithrin gweithlu medrus i ddiwallu eu anghenion busnes a darparu swyddi o fewn y gymuned ble y magwyd teulu Edwards eu hunain. Ar hyn o bryd mae ganddynt tua 10 o Brentisiaid sy’n gweithio ar draws eu busnes.
Ychwanegodd Jason, “Fel cwmni, rydym yn elwa’n fawr o gynlluniau Prentisiaeth gan ein bod yn medru mowldio ein dysgwyr i’n anghenion penodol. Mae technegwyr aml-fedrau sydd â phrofiad o gynnal a chadw PCV yn brin, felly nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i staff gyda’r sgiliau penodol yma. Mae datblygu staff ein hunain a gwylio eu bod yn dod yn dechnegwyr cymwys hyderus yn hynod o foddhaol. Buasem bendant yn argymell cynlluniau Prentisiaeth i fusnesau eraill gan eu bod yn caniatáu i chi hyfforddi eich gweithlu i gyd-fynd â’ch gofynion penodol.”
Mae Darren yn un o filoedd o Brentisiaid sy’n elwa ar y cyfle i arbenigo a datblygu eu sgiliau, ac mae’n edrych ymlaen at fanteisio ar y nifer o gyfleoedd sydd o’i flaen. Wrth ystyried ei daith hyd yn hyn, dywedodd:
“Pe na bawn i wedi mynd at ACT a dechrau ar fy Hyfforddeiaeth, ni fyddwn wedi cael y cyfle i ddysgu am gerbydau modur tan yn ddiweddarach yn y coleg – pe bawn i wedi cyrraedd yno o gwbl. Mae ACT wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth i mi a byddwn yn eu hargymell yn fawr iawn i unrhyw un.”
Wrth siarad am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, ychwanegodd Darren, “Rwy’n edrych ymlaen at gwblhau’r Brentisiaeth, gan gynnwys y flwyddyn gwellhäwr ychwanegol rydw i’n dilyn ar hyn o bryd, ac yn gweithio tuag at fy nod o fod yn ffitiwr sy’n meddu ar gymhwyster diesel cerbyd trwm. Rwy’n hynod gyffrous am y dyfodol.”
Wedi dy ysbrydoli gan stori Darren ac yn credu y gallai Hyfforddeiaeth neu Brentisiaeth fod yn addas i ti? Rydyn ni yma i helpu. Os wyt ti’n 16-18 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser, dysga fwy am ein rhaglenni Hyfforddeiaeth yma. Mae gennym hefyd gannoedd o Brentisiaethau gwag gyda chyflogwyr gorau Cymru sy’n chwilio am ymgeiswyr ifanc llachar fel ti. Gyda chysylltiadau uniongyrchol â thros 1,100 o gyflogwyr, rydym wedi helpu dros 6,500 o bobl ifanc Cymru y flwyddyn i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfaol. Am beth wyt ti’n aros? Gwna gais nawr.