16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Learners
Nid oes amheuaeth amdano, rydyn ni’n byw mewn cyfnod eithriadol. Ers dechrau argyfwng COVID19 a'r cyfyngiadau symud dilynol, ar hyn o bryd, nid oes llawer yn teimlo'n normal. Mae un peth yn sicr, fodd bynnag, nid yw gofalu am eich iechyd meddwl a lles erioed wedi bod mor bwysig. Isod, mae nifer o gynghorion ar sut yn union i wneud hynny.

Cadw mewn cysylltiad
Yn ystod y cyfnod hwn o unigrwydd, mae’n hanfodol ein bod yn cadw mewn cysylltiad â’n hanwyliaid ac, os oes modd, ein cymuned ehangach. Diolch byth, yn yr oes ddigidol hon mae yna bob math o ffyrdd o estyn allan a chysylltu. Boed yn alwad ffôn, yn neges destun neu’n alwad fidio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ar bobl eraill. Gall unigrwydd hir gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl, felly mae’n hollbwysig ein bod yn edrych allan am ein gilydd ac yn cadw mewn cysylltiad!

Cynnal diet cytbwys ac aros yn hydradol
Ceisiwch sicrhau eich bod yn cael cymaint o ffrwythau a llysiau â phosibl yn eich diet. Mae diet cytbwys yn hanfodol ar gyfer iechyd da ac i roi hwb i’n system imiwnedd. Mae hefyd yn werth nodi, mae unigrwydd yn golygu ein bod yn y tŷ yn llawer mwy, felly efallai y byddwn yn llawer llai actif nag arfer. Ceisiwch roi sylw i’ch dognau bwyd a lle bo hynny’n bosibl, dylech fwyta dim ond pan fyddwch yn llwglyd. Mae cadw’n hydradol hefyd yn hanfodol i’n hiechyd. Ceisiwch yfed rhwng 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd.

Cadw’n actif
Nid yn unig mae ymarfer corff yn cadw ein cyrff yn heini ac yn iach, mae hefyd yn cadw ein meddwl mewn cyflwr da. Mae’r ddau yn hanfodol ar hyn o bryd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu rhyw fath o ymarfer corff bob dydd. Mae nifer o fideos ymarfer corff rhad ac am ddim ar gael ar-lein – dewiswch beth sy’n gweithio i chi. O ymarfer ioga a Pilates, i ddawnsio ac ymarferion cardio, byddwch yn dod o hyd i gyfoeth o gynnwys i ddewis ohono. Gall hyd yn oed taith gerdded fach o amgylch eich cymdogaeth i glirio eich pen ac ymestyn eich corff arwain at fuddion cadarnhaol enfawr ar gyfer ein meddylfryd. Dim ond i chi gofio cynnal y rheolau cadw pellter cymdeithasol!

Creu arferion cysgu da
Mae cwsg o ansawdd da yn bwysig iawn i’n lles, gydag ychydig o gwsg, neu fawr ddim cwsg, yn cael effaith negyddol enfawr ar ein cyrff a’n meddyliau. Mae corff sydd wedi gorffwys yn dda nid yn unig yn cadw ein system imiwnedd yn gweithredu, ond mae hefyd yn helpu i leihau straen yn ein cyrff. I’r rhai ohonom sy’n ei chael hi’n anodd ymlacio yn y nos, ceisiwch orfodi arferion a fydd yn helpu i leddfu’r sefyllfa. Sefydlwch amserlen gysgu reolaidd a chyson drwy gydol yr wythnos, a lleihau faint o gaffein neu alcohol rydych chi’n ei yfed cyn amser gwely. Mae hefyd yn ddefnyddiol cyfyngu neu osgoi amser sgrin am o leiaf 30 munud cyn i chi fynd i gysgu. Mae hyn yn rhoi cyfle i’ch meddwl ymlacio a throi i ffwrdd yn raddol.

Dod o hyd i allfa greadigol
Os ydych chi wedi canfod eich hun gyda rhywfaint o amser rhydd, gallai nawr fod yn amser gwych i naill ai ddechrau neu orffen prosiect yr ydych wedi bod yn ei roi i ffwrdd. Neu, yn well fyth, dysgwch sgìl neu hobi newydd. Mae cymaint o gyrsiau, fideos ac aps ar gael i’ch helpu i wneud hynny. Nid yn unig y bydd allfa greadigol yn tynnu sylw oddi wrth y sefyllfa bresennol, ond mae dysgu sgiliau newydd hefyd yn gwella ein lles!

Ffynonellau newyddion dibynadwy
Ar hyn o bryd, gall deimlo fel ein bod yn cael ein boddi gan wybodaeth o bob ongl. P’un a yw’n newyddion byw ar y teledu neu gynnwys o’r cyfryngau cymdeithasol, gall y lefel o orlethu ein harwain i deimlo’n fwy pryderus fyth. Fel y cyfryw, mae’n bwysig nid yn unig cyfyngu faint o newyddion yr ydym yn ei wylio neu ei ddarllen ond hefyd o ble rydym yn ei gael. Mae llawer o wybodaeth anghywir ynghylch COVID-19 felly mae’n bwysig ein bod yn cael ein gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy y gellir ymddiried ynddynt, megis gwefannau’r llywodraeth neu wefannau sefydliadau cenedlaethol neu ryngwladol dibynadwy.

Un peth olaf…
Mae’n werth nodi, yn debyg iawn i’r tymhorau, bod ein profiadau a’n hwyliau yn ystod yr amseroedd hyn yn mynd i newid. Mae’n anochel. Dyma fywyd wedi’r cwbl! Bydd dyddiau da a bydd dyddiau nad ydynt cystal. Y peth pwysicaf i’w gofio pan fyddwch chi’n teimlo ychydig yn ansefydlog ar eich traed yw cofio y bydd hyn hefyd yn pasio. Bod yn garedig â chi eich hun, cymryd seibiant, a chofio estyn allan at eich anwyliaid i gael cymorth. Gyda’n gilydd rydym yn gryfach a gyda’n gilydd fe fyddwn yn dod drwy hyn!

Rhannwch