16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion Cwmni

Ymunodd Owen Williams, cyn-bennaeth Cyfryngau Cymdeithasol BBC One, â dysgwyr a marchnatwyr proffesiynol mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan y darparwr hyfforddiant blaenllaw ACT yn ei brif swyddfa yng Nghaerdydd, i siarad am y grefft o ‘fynd yn feiral’ ar-lein yn ystod y NAW eleni.

Mae busnesau wedi bod yn gymdeithasol yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau Cymru (NAW) 2023 mewn digwyddiad a gynhaliwyd i dynnu sylw at fanteision buddsoddi mewn Marchnata Digidol, wrth i nifer y dysgwyr sy’n ymgeisio am brentisiaethau marchnata digidol yng Nghymru barhau i gynyddu.

Yn weithiwr proffesiynol cyfryngau digidol a chymdeithasol profiadol gyda dros 20 mlynedd o brofiad, roedd y marchnatwr digidol uchel ei barch hefyd yn flaenllaw yn olygyddol yn adran BBC Content Social (TV & iPlayer), yn arwain datblygiad a gweithrediad strategaethau cyfryngau cymdeithasol BBC One, BBC Two, BBC Four, BBC Comedy, BBC iPlayer a BBC Masterbrand.

Yn nigwyddiad ACT, tynnodd sylw at fanteision i fusnes fuddsoddi mewn Marchnata Digidol, a helpu busnesau a dysgwyr oedd wedi ymgynnull i feddwl am eu gwaith a’u hanghenion digidol, a sut y gallant dyfu yn y maes hwn.

Dywedodd Mr Williams, sydd bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr yr arbenigwr marchnata cyfryngau cymdeithasol, Siml, wrth y gynulleidfa: “Mae’r ‘Drindod Sanctaidd’ o greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol sy’n ymgysylltu ac yn ysbrydoli pobl yn cael ei ddiffinio orau fel rhoi gwybodaeth i’ch dilynwyr, gan helpu i roi gwell ymdeimlad o hunaniaeth iddyn nhw ac ysgogi ymateb emosiynol ynddynt pan maen nhw’n gweld beth rydych chi’n ei bostio.”

Rydym yn siarad am lwyfannau di-ffin byd-eang lle mae’r cyrhaeddiad posibl ar gyfer eich brand personol neu broffesiynol yn hollol enfawr, a lle mae bod yn hygyrch ac ymgysylltu â’r cymunedau sy’n berthnasol i’r hyn rydych chi’n ei wneud, ac yn y sgyrsiau y mae’r grwpiau hynny o bobl yn eu cael, mewn gwirionedd yn gallu arwain at lwyddiannau sylweddol yn nhermau busnes.

Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer prentisiaethau, mae ACT wedi gweld codiad cyson yn nifer y cyrsiau digidol a ariennir yn llawn y mae’n eu darparu ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae nifer y tiwtoriaid a recriwtiwyd i’w Dîm Gwasanaethau Digidol hefyd wedi ehangu pedair gwaith dros y cyfnod hwnnw, ac mae bellach yn cynnig cymwysterau mewn Marchnata Digidol, Ymarferwyr Dysgu Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes a Chymorth Rhaglenni Digidol.

Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, “Rydym wrth ein bodd i fod wedi sicrhau marchnatwr digidol mor uchel ei barch, i ddod i siarad â’n gwesteion, ac rydym yn diolch o galon i Owen am roi o’i amser”

Dywedodd Richard “Tynnodd Owen sylw at bwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol wrth gyrraedd cwsmeriaid newydd. Yn anffodus, nid oes gan nifer o fusnesau’r sgiliau i ddefnyddio’r offeryn allweddol hwn yn effeithiol ac felly maent yn colli allan ar dwf.

“Dyna pam rydym yn defnyddio Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol i dynnu sylw at y cyfleoedd rhyfeddol sydd ar gael drwy raglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Mae ein prentisiaeth marchnata digidol, er enghraifft, wedi helpu dysgwyr i gychwyn ar yrfa newydd gyffrous ac i gefnogi busnesau i gyflawni eu potensial”

“Yn ogystal â’n rhaglenni Gwasanaethau Digidol gwych, mae gennym ystod enfawr o gyfleoedd prentisiaeth a byddem yn annog cyflogwyr i gysylltu i ddarganfod sut i fanteisio ar y rhaglenni hyfforddi hynod effeithiol hyn” ychwanegodd Richard.

Am ragor o wybodaeth m ein rhaglen brentisiaethau neu gymwysterau digidol, ewch i acttraining.org.uk

Rhannwch