16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion Cwmni

Croesawodd ACT Vaughan Gething AS i’w Canolfan Sgiliau yn Heol Hadfield i gwrdd â staff ac, yn bwysicaf oll, clywed gan y bobl ifanc sy’n parhau i elwa o raglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) ers ei lansio ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Ers ei gyflwyno gyntaf ym mis Tachwedd 2021, mae’r Warant i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig, ac mae wedi cefnogi mwy na 11,000 o bobl ifanc i ddod o hyd i swyddi ers hynny.

Mae ACT wedi bod yn allweddol i’r cyflawniad hyn fel prif ddarparwr rhaglen TSC+ yng Nghymru, ac o’r herwydd cymrodd staff a dysgwyr ACT â chynrychiolwyr o Gyrfa Cymru a sefydliadau partner –  y cyfle i gwrdd â Mr Gething a chynnig adborth uniongyrchol ynglŷn â’u profiadau o ddarparu ac elwa o’r rhaglen.

Dywedodd Leon Patnett, Pennaeth Ymgysylltu a Hyfforddiant Ieuenctid ACT: “Rydym yn falch iawn o fod wedi trefnu a chynnal y digwyddiad hwn, gan ddod â’n partneriaid gwerthfawr at ei gilydd a rhoi’r cyfle iddynt brofi ein darpariaeth TSC+ yn uniongyrchol a chwrdd â’n staff a’n dysgwyr gwych.”

Mae rhaglen TSC+ wir yn cynnig cyfle gwerthfawr i’n pobl ifanc, rhai ohonynt yn wynebu heriau sylweddol, i dyfu a datblygu, gan eu paratoi ar gyfer y camau nesaf yn eu bywyd. Wrth i ni ddechrau ail flwyddyn y rhaglen, edrychwn ymlaen at gefnogi llawer mwy o bobl ifanc i gyflawni eu nodau.

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn dwyn ynghyd ystod o raglenni a mentrau ar gyfer pobl ifanc sy’n anelu at wella cyflogadwyedd, menter a darpariaeth sgiliau i ddarparu’r gefnogaeth gywir, ar yr adeg iawn, ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.

Mae rhaglen TSC+ yn chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech hon trwy ddarparu hyfforddiant i bobl ifanc 16-19 oed sy’n canolbwyntio ar dri maes gwahanol – Ymgysylltu, i’r rhai sy’n dechrau meddwl am yrfa, Cynnydd i’r rhai sydd â syniad o ble yr hoffent fod a Chyflogaeth, i’r rhai sydd eisiau dechrau gwaith cyn gynted â phosib –  ac mae pob un ohonynt wedi’i ariannu’n llawn.

Yn dilyn ei gyfarfod â’r rhai sy’n cwblhau’r rhaglen yn ACT, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS: “Trwy ein Gwarant i Bobl Ifanc, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi ym mywydau pobl ifanc sydd angen help llaw i gyflawni eu potensial llawn.

“Mae’n ysbrydoledig clywed sut mae pobl ifanc, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, wedi cael cymorth Twf Swyddi Cymru+ a gyda chymorth ein partneriaid fel ACT a Gyrfa Cymru, bellach yn edrych yn gadarnhaol tuag at eu dyfodol.”

“Trwy ein Sgwrs Genedlaethol byddwn yn parhau i ymgysylltu a gwrando ar bobl ifanc wrth i ni siapio’r gefnogaeth rydym yn ei ddarparu.”

Ar hyn o bryd, mae Jess Stiff, sy’n ddeunaw oed, yn ddysgwraig Gofal Anifeiliaid Lefel 1 TSC+. Dywedodd am y rhaglen: “Doedd gen i ddim syniad beth i’w wneud pan adewais yr ysgol ac es i weithio ym maes manwerthu a chadw tŷ ond roeddwn yn casáu’r ddau. Yna clywais am ACT a Thwf Swyddi Cymru+,  a’r ffaith y gallwn weithio a dysgu ar yr un pryd.

“Rwy’n gobeithio cael lleoliad mewn ysgol farchogaeth, rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr ac rwy’n mwynhau popeth am yr hyn rwy’n ei wneud nawr. Mae’n wych.”

Gadawodd Nina De-Freitas yr ysgol ddwy flynedd yn ôl a doedd ganddi ddim syniad beth i’w wneud nesaf. Bellach mae’n 18 oed ac wedi astudio gofal anifeiliaid gydag ACT am y ddwy flynedd ddiwethaf. Diolch i’r rhaglen bellach mae  ganddi lwybr gyrfa clir ac yn dechrau cwrs yng Ngholeg Pencoed yn astudio Gofal Anifeiliaid Lefel 3 ym mis Medi.

Meddai Nina: “Doedd yr ysgol ddim i fi, roeddwn i’n ei gasáu, felly roedd yn wych pan wnes i ddarganfod ACT. Mae’r tiwtoriaid yn eich trin chi fel oedolion ac mae’r bobl dwi’n dysgu gyda nhw yn ffab hefyd.”

Yn y tymor hir, mae’r Warant Pobl Ifanc wedi’i chynllunio i sicrhau bod 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET) erbyn 2050, sef un o Gerrig Milltir Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles pobl Cymru.

Fel rhan o’r nod hwn, mae TSC+ yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru rhwng 16 a 19 oed ac nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant llawn amser fel rhaglen hyblyg wedi’i chynllunio o amgylch anghenion y dysgwr unigol.

Mae ACT yn cynnig cymorth cynhwysfawr i ddysgwyr, gan gynnwys lwfans hyfforddi wythnosol o hyd at £60, lwfans bwyd dyddiol a chymorth gyda chostau teithio. Yn ogystal, mae dysgwyr yn cael cymorth i ddod o hyd i waith, cymwysterau sy’n benodol i lwybrau galwedigaethol, ac adnoddau eraill i’w helpu i lwyddo.

Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT: “Roedd yn wych croesawu Gweinidog yr Economi a phartneriaid eraill i’n canolfan yn Heol Hadfield i weld rhaglen TSC+ ar waith. Pwrpas ACT yw gwella bywydau trwy ddysgu, a dyna hanfod TSC+.

“Rydym mor ffodus i gael tîm anhygoel yn ACT sy’n ymroddedig i gefnogi anghenion unigol ein dysgwyr a’u hysbrydoli i anelu at ddyfodol gwych. Gyda chefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, mae gennym y fraint o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau miloedd o oedolion ifanc a gwneud cyfraniad sylweddol i Warant Pobl Ifanc Cymru.”

Rhannwch