Yn ACT, gall ein tîm Dysgu ar gyfer Gwaith arbenigol eich cefnogi i gael y gorau o’r cyllid REACT+ sydd ar gael os cawsoch eich diswyddo’n ddiweddar neu os ydych yn rhan o ymgynghoriad diswyddo.
Beth yw ReAct+?
Mae ReAct+ yn cynnig datrysiadau wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygiad Personol i helpu i ddymchwel rhwystrau i gyflogaeth, megis cymorth gydag iechyd meddwl, magu hyder, sgiliau iaith a mwy.
18+ oed, yn byw yng Nghymru sydd â hawl i fyw a gweithio yn y DU a naill ai:
- Wedi derbyn rhybudd ffurfiol o ddiswyddiad neu
- wedi cael eich diswyddo neu wedi eich gwneud yn ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf neu
- Bod rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth nac hyfforddiant
Gall ACT weithio gyda chi i wneud cais am gyllid a datblygu pecyn addysg a fydd yn cefnogi eich nodau a’ch cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
I gael gwybod mwy am React + cliciwch yma
Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi: