O ganlyniad i’r flwyddyn naid, mae gan 2024 ddiwrnod ychwanegol ym mis Chwefror. Mae hynny’n golygu 24 awr gyfan y gallech chi eu defnyddio i ddysgu rhywbeth newydd.
Os ydych chi am ddatblygu’n bersonol neu broffesiynol, mae gan ACT – prif ddarparwr hyfforddiant Cymru – nifer o gyrsiau byr a chymwysterau wedi’u hariannu’n llawn sy’n cyfateb i ddiwrnod (neu lai) o ddysgu.
Rydym wedi dethol rhai o’r pynciau y gallech chi ddewis dysgu i wneud y mwyaf o’ch diwrnod ychwanegol, ond gallwch ddod o hyd i restr lawn o gyrsiau yma.
Mae’r rhain yn gyrsiau gwerthfawr i unrhyw un, waeth beth yw eich sector cyflogaeth, rôl neu statws. Gwnewch rywbeth anhygoel gyda’ch 24 awr ychwanegol ac enillwch sgiliau newydd.
Adeiladu Hyder
Mae hyder yn rhan allweddol o allu unigolyn i gyflawni. Gall diffyg hyder guddio gwir botensial unigolyn, felly mae ei adeiladu yn hanfodol er mwyn goresgyn heriau, manteisio ar gyfleoedd a llwyddo.
Wedi’i anelu at helpu cyfranogwyr i symud ymlaen yn eu bywydau proffesiynol a phersonol, mae’r cwrs Adeiladu Hyder yn herio canfyddiadau dysgwyr, yn eu hysbrydoli a’u hannog mewn ffordd arloesol a deinamig.
Cymorth Cyntaf
Mae ACT yn cynnig cyfres gyfan o gyrsiau Cymorth Cyntaf a fydd o gymorth i ddatblygu sgiliau achub bywyd. Mae cymorth cyntaf brys, cymorth cyntaf ar gyfer y gweithle, cymorth cyntaf cŵn, cymorth cyntaf pediatrig ac iechyd meddwl i gyd ar gael.
Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd
Mae’r dyfarniad hwn ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o dermau fel yr amgylchedd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a sero net yng nghyd-destun dyfodol sgiliau gwyrdd.
Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai mewn sefydliadau sy’n gweithio tuag at, neu sydd wedi rhoi System Rheoli Amgylcheddol ar waith. Mae’n rhoi dealltwriaeth o bwysigrwydd bod yn sefydliad cynaliadwy i staff.
Sgiliau Gwytnwch
Mae’r cwrs deinamig hwn yn rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o beth yw gwytnwch a sut y gall effeithio ar eich bywyd. Mae’n herio dysgwyr i fyfyrio ar eu sgiliau gwytnwch eu hunain ac yn darparu’r offer i’w hadeiladu a’u gwella, yn eu bywyd personol ac yn y gweithle.
Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys:
- Gwydnwch
- Cyflawni positifrwydd
- Gofal emosiynol
- Newid a meddylfryd twf
- Rheoli gwrthdaro
- Cysylltiadau cadarnhaol.
Iechyd a Diogelwch
Mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am yr arferion iechyd a diogelwch sylfaenol sy’n hanfodol yn y gweithle. Mae’n cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn sicrhau eich bod yn dysgu am faterion iechyd a diogelwch mewn unrhyw leoliad gwaith. Mae’n cynnwys pynciau allweddol fel asesiadau risg, rheoli peryglon, gweithdrefnau brys a chofnodi digwyddiadau.
Dewch o hyd i’r rhestr lawn o’n cyrsiau rhan-amser a ariennir yn llawn yma.