16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr Newyddion

Nod cynllun Twf Swyddi Cymru + ACT yw arfogi dysgwyr ifanc, rhwng 16 a 19 oed, â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Nid oes cyrchfan benodol ar gyfer dysgwyr TSC+ ond mae llawer yn mynd ymlaen i ymgymryd â phrentisiaethau pellach ac ennill sgiliau uwch yn eu dewis broffesiwn.

Un dysgwr a ddechreuodd ar ei daith gyda chwrs Lefel 1 mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr ac sydd bellach yn cwblhau ei brentisiaeth Lefel 2 mewn Trin Gwallt ar leoliad mewn salon, yw Talek Milne, sy’n 19 oed.

Daeth Talek o hyd i’w frwdfrydedd steilio gwallt yn ystod y cyfnod clo gan wylio fideos ar-lein, er ei fod wedi ymddiddori erioed yn ochr greadigol y proffesiwn yn ogystal â’r gallu i wneud cwsmeriaid yn hapus.

Yn ystod ei daith bu’n rhaid i Talek oresgyn un o’r rhwystrau mwyaf y mae’n rhaid i lawer o ddysgwyr ifanc eu hwynebu yn y dechrau – hyder. Mae’n rhywbeth sydd wedi gwella’n aruthrol drwy gydol ei gwrs, yn enwedig o ran ei swildod. Mae Talek yn credu bod y gwelliant hwn oherwydd bod gorfod siarad â phobl yn un o nodweddion naturiol y rôl – wedi’r cyfan mae’n debyg mai trin gwallt yw un o’r gyrfaoedd mwyaf cymdeithasol sydd ar gael.

Roddwyd hwb arall i hyder Talek trwy weithdai bob pythefnos a ddarperir gan ACT. Mae’r gweithdai yn rhoi cyfle i ddysgwyr prentisiaeth weithio ochr yn ochr â thiwtoriaid i hogi eu sgiliau mewn lleoliad mwy ymarferol. Mae’n lle gwych i ofyn cwestiynau, ymarfer dulliau newydd a chael cydnabyddiaeth am y sgiliau y maent eisoes wedi’u hennill.

Mae symud ymlaen o Lefel 1 i Lefel 2 wedi golygu cyfrifoldebau ychwanegol i Talek, yn enwedig nawr ei fod yn gweithio mewn salon. Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n awyddus i ehangu ei sgiliau lliwio, yn enwedig y defnydd o liwiau a dyluniadau beiddgar.

Dywedodd yr asesydd trin gwallt, Helen Jenkins, sydd wedi goruchwylio cynnydd Talek: “Mae hyder Talek wedi datblygu gymaint ers iddo ddechrau – o guddio yn yr ystafell gefn ac osgoi cyswllt llygad gyda fi i fod ym mlaen y salon erbyn hyn. Mae wir wedi dod allan o’i gragen.

“Er mwyn cefnogi Talek fe wnaethon ni sicrhau bod ganddo’r offer cywir – roedd rhywbeth mor syml â siswrn llaw chwith yn gwneud byd o wahaniaeth. Ac yn awr fod ganddo’r offer does dim i’w stopio. Mae wedi gwneud cynnydd arbennig ac rwy’n falch iawn ohono.”

Darganfyddwch fwy am gymhwyster trin gwallt ACT yma .

Rhannwch